Diweddariad ar werthoedd yr Hawliad BPS a Chytundebau Glastir

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 1052

Mae gwerth yr hawliad BPS ar gyfer 2021 yn £116.86, ac ymddengys ei fod felly tua 4% (£5.30) yn is na chyfanswm cyfun y gwerthoedd BPS a’r taliadau gwyrdd ar gyfer 2020, oedd yn £122.16.

Yn dilyn sicrwydd blaenorol y byddai cyllideb y BPS ar gyfer 2021 yn darparu’r un lefel o daliadau uniongyrchol i ffermwyr yn 2021 ag a ddarparwyd yn 2020, mi nath UAC gofyn i RPW egluro pam fod gwerth yr hawliad yn is na’r disgwyl.

Mewn ymateb, mae Taliadau Gwledig Cymru wedi egluro "Mewn blynyddoedd blaenorol, cyfrifwyd y taliad Gwyrddu a ddyrannwyd i bob hawlydd cymwys yn seiliedig ar yr hawliau wedi’i actifadu mewn blwyddyn gynllun penodol. Ar gyfer 2021 mae'r gyllideb Wyrddio flaenorol wedi'i hymgorffori'n llawn yng nghyllideb hawliau BPS, fodd bynnag, mae gwerth y gyllideb Gwyrddu wedi'i ddosbarthu ar hyn o bryd ar draws yr holl hawliau sydd ar ein cofrestr, ac nid dim ond y rhai sydd wedi'u hactifadu yn unig."

“Cyn gwneud taliadau BPS 2021 byddwn yn ystyried yr holl hawliau a ddelir nad ydynt wedi'i hawlio, ynghyd â gwerth y Gronfa Genedlaethol sydd heb ei hawlio a byddwn yn cynyddu gwerth yr hawliau wedi’i actifadu. Yna bydd hawlwyr BPS 2021 yn gweld gwerth eu hawliau'n cynyddu a thaliad BPS yn unol â'r hyn a dderbyniwyd ar gyfer 2020."

Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys y taliad wedi’i ailddosbarthu a delir ar 54 hectar cyntaf unrhyw hawliad.

Cafodd y mater o ymestyn cytundebau Glastir ei gynnwys mewn papur cynigion polisi a anfonwyd yn ddiweddar at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, mewn perthynas â Chynllun Datblygu Gwledig Cymru a ariannir yn ddomestig.

Mae UAC wedi pwysleisio’r angen am benderfyniad brys am fod angen i ffermwyr gynllunio ymlaen llaw, ac i sicrhau bod unrhyw ymestyn cytundebau a ganiateir yn digwydd mewn da bryd.

Mae’r papur polisi hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer rowndiau cynlluniau grant eraill yn y dyfodol, gan gynnwys y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy, y Grant Busnes Fferm – Gorchuddio Iardiau, a Grantiau Bach Glastir.

Mae UAC hefyd wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn tynnu sylw at gostau cynyddol deunyddiau adeiladu, a’r effaith mae hynny’n ei gael ar gostau safonol a phrisiau penodol fel rhan o gytundebau Grant Busnes Fferm – Gorchuddio Iardiau, y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy, a Grantiau Bach Glastir.