Lansio Cod Ymarfer NAAC ar gyfer dipio defaid symudol

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi cefnogi gwaith Cymdeithas Genedlaethol y Contractwyr Amaethyddol (NAAC), mewn cydweithrediad â Rheoli Paraseitiaid ar Ddefaid mewn Ffordd Gynaliadwy (SCOPS), i gynhyrchu Cod Ymarfer newydd ar gyfer dipio defaid symudol.

Mae’r clafr yn bresennol yn tua chwarter y preiddiau defaid yng Nghymru ac mae’n costio tua £12 miliwn i’r diwydiant bob blwyddyn.

Gweithiodd UAC gyda Grŵp Diwydiant y Clafr i gyflwyno adroddiad gan y diwydiant ar y clafr i Lywodraeth Cymru yn 2018, a oedd yn cydnabod yr angen am driniaeth gydweithredol ar draws eiddo cyfagos, ac yn amlinellu rhaglen ar gyfer rheoli’r clafr a fyddai’n cynyddu’r tebygolrwydd o ffermydd cyfagos yn gweithio gyda’i gilydd i gael gwared â’r clafr, drwy ddulliau mwy holistig ac ymarferol.

Serch y cynllun peilot am ddim ar gyfer profi samplau o grafiadau croen, mae’r diwydiant eto i dderbyn y £5.1 miliwn a addawyd ar gyfer rhaglen ddileu, dros ddwy flynedd yn ôl bellach.

Er bod dipio defaid yn parhau i fod yn arf hanfodol i lawer o ffermwyr yng Nghymru i atal y clafr, mae’n hollbwysig ei fod yn cael ei gyflawni mewn ffordd broffesiynol, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Cynhyrchwyd y canllaw hwn i atgoffa ffermwyr, contractwyr a rhagnodwyr o’u cyfrifoldebau.

Mae’r Cod Ymarfer ar gael yma: https://www.naac.co.uk/wp-content/uploads/2021/07/Industry-Sheep-Dip-Code-of-Practice.pdf