Cyswllt Ffermio’n lansio rhaglen deledu fisol

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 763

Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio rhaglen deledu fisol, hanner awr o hyd, yn arbennig ar gyfer ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru ar YouTube.

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar arfer gorau, cydymffurfio, ac effeithlonrwydd, drwy ddangos sut mae rhai o’r ffermydd gorau yng Nghymru, gan gynnwys rhai o ffermydd arddangos Cyswllt Ffermio, yn paratoi ar gyfer dyfodol cynaliadwy a phroffidiol.

Bydd y rhaglen yn cynnwys cymysgedd o ffermydd llaeth, cig eidion a defaid o bob cwr o Gymru, yn ogystal â systemau arloesol sy’n defnyddio technoleg newydd, a rhai sydd wedi arallgyfeirio busnes y fferm i gynhyrchu incwm ychwanegol.

Tra bod themâu megis seilwaith, arloesedd ac arallgyfeirio wedi’u trefnu eisoes ar gyfer Gorffennaf, Awst a Medi yn eu tro, bydd penodau’r dyfodol yn canolbwyntio ar destunau ehangach megis iechyd anifeiliaid a rheoli glaswelltir.

Bydd pob pennod newydd yn cael ei llwytho ar sianel Youtube FCTV ar ddydd Llun olaf bob mis: https://www.youtube.com/channel/UCxYH2RRebW271MBuNfbSRgQ