Sefydliad Tir Comin yn condemnio Defra am beidio â chynnwys glaswelltir mewnbwn isel a glaswelltir heb ei wella yng Nghymhelliad Ffermio Cynaliadwy Lloegr

Mae’r Sefydliad Tir Comin wedi condemnio penderfyniad Defra i beidio â chynnwys glaswelltir mewnbwn isel a glaswelltir heb ei wella yn ei Gymhelliad Ffermio Cynaliadwy – cynllun sydd i fod i bontio’r trawsnewid o’r ‘hen’ system taliadau BPS i daliadau nwyddau cyhoeddus newydd y cynllun Rheoli Tir er Lles yr Amgylchedd (ELM) yn Lloegr.

Dan Gynllun Trawsnewid Amaethyddiaeth Defra, bydd ffermwyr yn Lloegr sydd â hawliad o £30,000 neu lai yn wynebu cwtogiad o 5 y cant yn eu Taliad Sylfaenol yn 2021, yna 20 y cant pellach yn 2022, 35 y cant yn 2023, a 50 y cant yn 2024. Bydd taliadau uwch yn cael eu cwtogi’n llymach o lawer.

Gyda’r gwaith ar gynllun ELM Lloegr yn ei ddyddiau cynnar o hyd, pwrpas y Cymhelliad Ffermio Cynaliadwy oedd llenwi’r bylchau a grëwyd gan y cwtogi yn y taliadau BPS.

Fodd bynnag, serch ymrwymiad Defra i sicrhau bod pob ymgeisydd BPS yn Lloegr yn gallu gwneud cais, gan gynnwys y rhai mewn Cynlluniau Stiwardiaeth presennol, ni chafodd glaswelltir mewnbwn isel a glaswelltir heb ei wella, sef rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt mwyaf gwerthfawr Lloegr, eu cynnwys.

Yn ôl y Sefydliad Tir Comin, mae llawer o’r glaswelltir heb ei wella yn iseldir Lloegr yn dir comin, gan gynnwys 20,000ha o’r New Forest, Bryniau Malvern a Minchinhampton, rhostiroedd Dyfnaint a chorsydd arfordirol Cumbria.

Mae’r Sefydliad yn pwysleisio y bydd ffermwyr a chominwyr sy’n rheoli’r tir hwn yn colli eu taliadau BPS dros y saith mlynedd nesaf, ond na fyddant, fel ffermwyr glaswelltir wedi’i wella, tir âr a gweundiroedd, yn cael y cyfle, drwy’r Cymhelliad Ffermio Cynaliadwy, i gael eu gwobrwyo am nwyddau cyhoeddus nas talwyd amdanynt eto drwy Gynlluniau Stiwardiaeth presennol.

Yn siarad ar ôl i Defra gyhoeddi manylion y Cymhelliad Ffermio Cynaliadwy tua diwedd Mehefin, meddai Julia Aglionby, Cyfarwyddwr Gweithredol y Sefydliad: “This is a broken promise by this [UK] Government.

“The Agricultural Transition Plan says; ‘Initially, all farmers currently in receipt of the Basic Payment Scheme will be eligible [for SFI], including those already in land management schemes such as Countryside Stewardship.’

“This is clearly not true if you farm unimproved lowland grassland. Our concern is that these most special places will be at risk as farmers come under pressure due to declining incomes as BPS is phased out. Lowland commons deliver so much for nature, climate, and people especially during Covid; why would you disadvantage them?”

Amcangyfrifir bod tua 2,000 o’r rhai sy’n hawlio BPS yng Nghymru’n dibynnu ar dir comin ar gyfer rhwng 25% a 100% o’u hardal BPS cymwys, gyda’r gyfran o ffermwyr sy’n dibynnu ar hawliau tir comin yn arbennig o uchel mewn rhai ardaloedd, megis rhannau o Fannau Brycheiniog.

Fel y cyfryw, mae FUW yn annog Llywodraeth Cymru i ddysgu o’r anawsterau mae ffermwyr yn Lloegr yn eu hwynebu wrth i’r BPS gael ei ddiddymu’n raddol, a chydnabod bod yn rhaid i unrhyw gynllun cymorth amaethyddol yn y dyfodol ddarparu ar gyfer pob fferm, er budd cymunedau gwledig, diwylliant, economïau a’r amgylchedd yng Nghymru.