FUW yn croesawu mwy o bwerau i daclo poeni da byw

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 881

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi croesawu’r adran yn y Ddeddf Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) ddrafft a fydd yn rhoi mwy o bwerau i luoedd heddlu yng Nghymru a Lloegr i daclo’r broblem o gŵn yn poeni da byw.

Mae FUW wedi lobïo am newidiadau i’r ddeddfwriaeth drwy ei ymgyrch ‘Eich Ci Chi, Eich Cyfrifoldeb Chi’ yn 2019 a’r weminar fwy diweddar ‘Cŵn yn Poeni Da Byw – Ydych chi’n ymwybodol o’ch hawliau?’, lle bu PC Dave Allen yn esbonio gwaith Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC).

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan grŵp yr NPCC yn 2018 cofnodwyd cyfanswm o 1705 o achosion o gŵn yn poeni da byw rhwng Medi 2013 a 2017, gyda 1928 o anifeiliaid wedi’u lladd, a 1614 wedi’u hanafu, ar gost amcangyfrifol o £250,000 yn ardaloedd lluoedd heddlu Gogledd Swydd Efrog, Cernyw, Sussex a Gogledd Cymru. Mae Adrannau 26 i 41 o’r Ddeddf yn seiliedig ar ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad grŵp yr NPCC.

I’r rhai sy’n cadw da byw, bydd mwy o anifeiliaid yn cael eu cynnwys dan y Ddeddf, gan gynnwys Alpacas ac adar hela, bydd y diffiniad o Dir Amaethyddol yn cynnwys, er enghraifft, ffyrdd y symudir da byw ar eu hyd, a bydd modd i Ysgrifennydd Gwladol Lloegr a Gweinidog Materion Gwledig Cymru ddiwygio’r rhestr o dda byw perthnasol i adlewyrchu anghenion ffermio yn y dyfodol, heb yr angen i newid y ddeddfwriaeth wreiddiol.

Bydd gan yr heddlu y pŵer i fynd â chi a’i gadw, cymryd samplau DNA oddi ar gŵn sydd dan amheuaeth, a gwneud cais am warant i atafael, nodi neu gymryd DNA oddi ar gi sydd dan amheuaeth.
Bydd gan y llysoedd y pŵer i atal perchennog ci rhag perchen ci arall, rhoi gorchymyn i reoli neu ddifa’r ci, a rhoi dirwyon o hyd at £1,000, er bod yr Alban yn ddiweddar wedi pasio Deddf sy’n caniatáu dirwyon o hyd at £40,000 neu 12 mis o garchar am droseddau o’r fath.

Bydd Deddf Cŵn (Amddiffyn Da Byw) 1953, sydd wedi dyddio erbyn hyn, yn cael ei diddymu, oherwydd ar hyn o bryd, dim ond at ddibenion adnabod y perchennog y gall yr heddlu fynd â chi

Er ei bod hi’n bryder mawr nodi bod y Ddeddf hefyd yn cynnwys adran ar wahardd allforio anifeiliaid byw, o ystyried bod FUW wedi codi nifer o beryglon posib yn sgil gwneud hynny mewn ymateb i’r ymgynghoriad y llynedd, rydym yn croesawu’r symudiad hwn tuag at daclo’r broblem o gŵn yn poeni da byw, sy’n gam yn y cyfeiriad iawn, a byddwn yn parhau i fonitro’r Ddeddf wrth iddi fynd drwy’r Senedd.