Crynodeb o newyddion Mehefin 2021

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 756

Cymeradwyo safle prosesu cig eidion arall yn y DU i allforio i’r Unol Daleithiau

Y Foyle Food Group yn Swydd Gaerloyw yw’r pedwerydd safle prosesu cig eidion yn y DU i gael ei gymeradwyo ar gyfer allforion masnachol i’r Unol Daleithiau dan y rhestr USDA Gymeradwy.

Cafodd y DU fynediad i farchnad yr Unol Daleithiau yn 2020 am y tro cyntaf ers y gwaharddiad ar gig eidion y DU a’r UE oherwydd BSE yn 1996. Mae’r DU wedi allforio gwerth dros £3 miliwn o gig eidion i’r Unol Daleithiau ers diwedd y flwyddyn ddiwethaf wrth i ddefnyddwyr chwilio am gynnyrch o safon uwch.

Adfer corstir drwy gael gwared â choed

Nod prosiect Marches Mosses BogLIFE yw adfer ardaloedd corsiog iseldirol o fewn Gwarchodfa Natur Genedlaethol Fenn’s, Whixall a Bettisfield Mosses a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Wem Moss ger yr Eglwys Wen a Wrecsam, dros y pum mlynedd nesaf.

Arweinir y prosiect gan Natural England, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Amwythig, a chyda grant gwerth miliynau o bunnoedd gan gynllun LIFE yr UE, nod y prosiect yw gwarchod cynefinoedd drwy gael gwared â choed.

Mae pob acer o gorstir yn Fenn’s a Whixall Mosses yn cynnwys 15 gwaith yn fwy o garbon nag ardal gyfatebol o goetir aeddfed.

Y DU yn sicrhau marchnad Japaneaidd newydd ar gyfer cig dofednod

Mae’r DU wedi sicrhau mynediad at farchnad newydd yn Japan ar gyfer cynnyrch dofednod ffresh ac wedi’i goginio, ac amcangyfrifir y bydd yn werth £13 miliwn i’r diwydiant bob blwyddyn.

Mae agor y farchnad hon yn dangos bod gan y DU rai o safonau cynhyrchu gorau’r byd, a gobeithir y bydd yn dod yn gyrchfan allforio mwy sylweddol wrth i gig dofednod ddod yn fwy poblogaidd yn Japan.