Cymeradwyo awdurdodiad brys i ddefnyddio asulam i reoli rhedyn

Cafodd awdurdodiad brys i ddefnyddio asulam i reoli rhedyn ei gymeradwyo ar 10fed Mehefin gan y cyrff perthnasol ar gyfer tymor 2021.

Mae rhedyn (Pteridium aquilinium) yn blanhigyn lluosflwydd sydd â’r gallu ymledol sylweddol i ledaenu drwy risomau dan y ddaear, i’r fath raddau fel nad yw’n anarferol iddo orchuddio tua 3% yn fwy o dir bob blwyddyn. Amcangyfrifir bod rhedyn yn gorchuddio rhwng 900km2 (4.3%) a 1200km2 (5.3%) o ddaear Cymru.

Rhaid i’r rhai sy’n bwriadu defnyddio cynnyrch asulam i reoli rhedyn eleni astudio’r dogfennau cymeradwyo’n ofalus.

Pwyntiau allweddol:

  • Cymeradwyir chwistrellu o’r awyr yn amodol ar beidio â chwistrellu o fewn lleiniau clustogi 90cm o led o amgylch cyrff dŵr wyneb.
  • Awdurdodir ei ddefnydd ar y ddaear ond fe’i cyfyngir i ardaloedd cadwraeth yn unig, a rhaid ei ddefnyddio yn yr ardaloedd hyn dan gyfarwyddyd y corff cadwraeth perthnasol. Gweler y manylion llawn yn y ddogfen Awdurdodi.
  • Rhaid symud da byw o’r ardal sydd i’w thrin, ac ni ddylid caniatáu iddyn nhw ddychwelyd am o leiaf mis ar ôl y driniaeth.

Dyddiadau allweddol:

  • 10fed Mehefin 2021 – Awdurdodi storio, hyrwyddo, gwerthu a throsglwyddo
  • 1af Gorffennaf 2021 – Gellir dechrau defnyddio asulam
  • 13eg Medi 2021 – Dyddiad olaf gwerthu, dosbarthu a defnyddio stociau. Gellir parhau i storio stociau a gellir symud stociau i’w gwaredu. Ni cheir defnyddio asulam ar ôl y dyddiad hwn.
  • 31ain Hydref 2021 – Dyddiad olaf storio a chael gwared â stociau. Mi fydd yn anghyfreithlon storio asulam ar ôl y dyddiad hwn.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn nad oes unrhyw gynnyrch arall ar gael ar hyn o bryd sy’n ddewis amgen addas i asulam i reoli rhedyn yn effeithiol gyda chemegau yng Nghymru.

Am fanylion llawn, canllawiau a dogfennau defnyddio, cliciwch yma.