Bydd FUW yn parhau i lobïo am bolisïau penodol i Gymru, nawr ac yn y dyfodol

Yn cael ei ystyried fel un o’r etholiadau mwyaf hanfodol o ran dyfodol y sector amaeth yng Nghymru, mi wnaeth Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) ei gorau glas i bwysleisio pwysigrwydd meysydd polisi amrywiol i’r rhai fyddai’n gwneud penderfyniadau yn y dyfodol, cyn Etholiadau Senedd Cymru 2021.

Cwrddodd Llywydd FUW, Glyn Roberts a’r Dirprwy Lywydd, Ian Rickman ag arweinwyr amaethyddol y prif bleidiau gwleidyddol yn ystod y cyfnod cyn yr etholiadau, i dynnu sylw at brif bryderon y diwydiant a Gofynion Allweddol Maniffesto’r Undeb.

Roedd y cyfarfodydd hyn yn gyfle i bwysleisio pa mor bwysig oedd hi bod y Llywodraeth nesaf yn ymrwymo i Sefydlogrwydd, Ffermydd Teuluol, Cefnogi Cymunedau Gwledig a Swyddi yng Nghymru, Amaethyddiaeth Gynaliadwy a Gwobrwyo Deilliannau Amgylcheddol wrth gynllunio Deddf Amaethyddol Cymru, sef yr un meysydd allweddol â’r rhai a amlinellwyd ar y cyd gan FUW ac NFU Cymru yn y ddogfen ôl-Brexit, Y Ffordd Ymlaen i Gymru.

Hefyd, cafwyd trafodaeth hir ar gynigion Papur Gwyn y Bil Amaethyddiaeth yn sgil eu goblygiadau pellgyrhaeddol i’r diwydiant amaeth yng Nghymru, a’i hyfywedd hirdymor. Yn ogystal, trafodwyd y rheoliadau NVZ, addunedau plannu coed, ymrwymiad y pleidiau i ddiogelu’r gyllideb amaeth, TB Gwartheg, y diffyg ymrwymiad siomedig i gapio’r trothwy taliadau, a chymhlethdodau posib cynllun nwyddau cyhoeddus.

Er bod yna ymrwymiadau positif i gymunedau ffermio yng Nghymru, bydd FUW yn parhau i lobïo am bolisïau penodol i Gymru, nawr ac yn y dyfodol. Nid yw FUW yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol ac felly mae gennym ddyletswydd i weithio gyda llywodraeth y dydd yn ogystal â’r gwrthbleidiau.

Anfonwyd llythyrau at Aelodau etholaethol a rhanbarthol y Senedd gan y Cadeiryddion FUW Sirol perthnasol, ac mae Llywydd FUW wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidogion Cabinet perthnasol, ac arweinwyr y gwrthbleidiau, yn tynnu sylw at ein prif bryderon.

Bydd FUW yn gweithio’n agos â’r Llywodraeth Lafur nesaf i sicrhau bod polisïau’r dyfodol yn cefnogi ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy er budd yr economi wledig, yr amgylchedd, diogelu’r cyflenwad bwyd, a’n diwylliant gwledig unigryw.

Mae Maniffesto FUW Etholiadau Senedd Cymru 2021 a’r Deg Gofyniad Allweddol i’w gweld yma: https://www.fuw.org.uk/cy/polisi/adroddiadau