Diffyg cydnabyddiaeth i ffermwyr yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol Cymru 2020

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru ail gam yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol Cymru 2020 (SoNaRR2020). Mae SoNaRR2020 yn ofyniad dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a dyma’r ail adroddiad SoNaRR. Cyhoeddwyd y cyntaf yn 2016 i osod llinell sylfaen ar gyfer adnoddau naturiol yng Nghymru.

Mae SoNaRR2020 yn edrych ar statws a thueddiadau adnoddau naturiol, gan adeiladu ar nifer o asesiadau a gynhaliwyd yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang. Mae’n edrych ar y risgiau i’n hecosystemau ac i lesiant cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru sy’n gysylltiedig â’r tueddiadau hynny, yn nhermau’r diffiniadau a osodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae SoNARR2020 yn ymgorffori nifer o adroddiadau sy’n canolbwyntio ar ecosystemau bras, themâu trawsbynciol ac adnoddau naturiol.

Dyma brif ganfyddiadau SoNaRR2020:

  • Nid yw Cymru’n cynnal stociau o adnoddau naturiol. Rhagwelir y bydd rhywogaethau eiconig fel y gylfinir yn diflannu o’n tir o fewn y ddegawd neu ddwy nesaf
  • Mae cyflwr ein hadnoddau naturiol yn cael effaith ar wydnwch ein hecosystemau. Yn ôl SoNaRR2020 mae eu gwydnwch yn dirywio’n unol â thueddiadau byd-eang. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn darogan y bydd un filiwn o’r wyth miliwn o rywogaethau sydd ar y blaned hon wedi diflannu o fewn 20 mlynedd.
  • Heb lefelau sefydlog o adnoddau naturiol ac ecosystemau cydnerth, bydd SoNaRR2020 yn dal i ddangos nad yw pobl ledled Cymru’n rhydd o beryglon amgylcheddol ac nad oes gan bawb le iach i fyw ynddo.
  • Ni ellir sicrhau economi atgynhyrchiol tra bod gweithgaredd economaidd yn cymryd lle ar draul yr amgylchedd.

Mae FUW yn croesawu SoNaRR2020, ac yn nodi ei fod yn ofyniad dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Serch hynny, mae’n teimlo nad yw’r adroddiad trwyddi draw yn rhoi digon o gydnabyddiaeth i’r cyfraniad economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol a wneir gan ffermio i lesiant Cymru.

Yn ogystal, mae’r Undeb o’r farn nad yw’r graddfeydd amser a ddewiswyd yn yr adroddiadau yn rhoi darlun clir o’r hyn sy’n digwydd go iawn – er enghraifft, mae arferion ffermio wedi newid yn sylweddol ers 1946, a theimlir na wneir digon i ddangos y tueddiadau mwy diweddar.

Mae’r holl ddogfennau SoNaRR2020 i’w cael yma.