Cyhoeddi canllawiau Rheoliadau Adnoddau Dŵr ‘NVZ’

Tra bod FUW yn dal i drafod y ffordd orau ymlaen o ran taclo’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) a gyflwynwyd yn ddiweddar, cafodd cam cyntaf y newidiadau ei gyflwyno ar 1af Ebrill 2021.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw i ffermwyr a thirfeddianwyr i gydymffurfio â phob un o’r rheoliadau hyn, gan gynnwys y niferoedd enfawr o gyfrifiadau fydd yn ofynnol o 1af Ionawr 2023, fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd.

Mae Cyswllt Ffermio hefyd wedi cyhoeddi’r ddwy gyntaf o gyfres o fideos yn esbonio’r rheoliadau a gyflwynwyd ar 1af Ebrill:

  1. Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol
  2. Gwasgaru Gwrtaith: Y Gofynion o 1 Ebrill 2021

Mae FUW am atgoffa aelodau bod 10% o ostyngiad ar gael oddi ar ffioedd ymgynghori Gwasanaethau Amgylcheddol Gwledig Kebek, a gellir cysylltu â nhw drwy This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Bydd FUW yn parhau i roi gwybod i aelodau am unrhyw ddatblygiadau mewn perthynas â newidiadau neu arweiniad pellach ar y rheoliadau hyn.