FCN, Ffederasiwn Cenedlaethol y CFfI a Sefydliad DPJ yn dod ynghyd i gefnogi iechyd meddwl ffermwyr ifanc

Mae Rhwydwaith y Gymuned Ffermio (FCN), Ffederasiwn Cenedlaethol y Clybiau Ffermwyr Ifanc, a Sefydliad DPJ wedi dod at ei gilydd i gefnogi iechyd meddwl a llesiant ffermwyr ifanc, drwy fodiwlau hyfforddiant Rural+ newydd.

Bydd y fenter hon, sef ‘Cefnogi’n Gilydd’ yn cael ei hariannu gan Sefydliad Westminster, sy’n anelu at annog pobl ifanc o fewn teuluoedd ffermio i gymryd camau cynnar i gynllunio ar gyfer y newidiadau a fydd yn siapio dyfodol y diwydiant amaeth.

Mae Ffederasiwn Cenedlaethol y CFfI ac FCN wedi gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu a darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl i Glybiau Ffermwyr Ifanc yng Nghymru a Lloegr, drwy’r fenter Rural+, ers 2013, a nawr bydd Sefydliad DPJ yn darparu cymorth pellach i helpu i ddatblygu’r modiwlau hyfforddiant iechyd meddwl newydd ar gyfer aelodau CFfI 10-26 oed a myfyrwyr amaethyddol 16-25 oed, cyn eu lleoliad gwaith cyntaf o fewn y diwydiant.

Bydd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar ddeall straen a phryder, rheoli iechyd meddwl personol, sut i siarad am iechyd meddwl, gofyn am gymorth, a chynorthwyo eraill.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Vicki Beers, Rheolwr Partneriaethau Cenedlaethol drwy e-bost : This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.