FUW yn feirniadol o’r cyfnod ‘mynd yn hawdd’ ar fewnforion o’r UE

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi disgrifio penderfyniad Llywodraeth y DU i ganiatáu i fewnforion o’r UE osgoi gwiriadau tan yr hydref fel ergyd i nifer o gynhyrchwyr y DU, a cham gwag yn nhermau sefyllfa negodi’r DU dros welliannau a fyddai’n helpu allforwyr y DU.

Tra bod gwiriadau trylwyr yn eu lle ar gyfer bwydydd a allforir o’r DU i’r UE ers 1af Ionawr 2021, y bwriad oedd cynnal gwiriadau tebyg ar gynnyrch bwyd a fewnforir o’r UE o 1af Ebrill, yn dilyn cyfnod pontio, i ganiatáu i fewnforwyr addasu i’r sefyllfa ar ôl i’r DU adael Marchnad Sengl yr UE.

Fodd bynnag, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar 11eg Mawrth na fydd y gofynion rhaghysbysu ar gyfer cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid, rhai mathau o sgil-gynnyrch anifeiliaid, a bwyd risg uchel nad yw’n dod o anifeiliaid yn dod i rym tan 1af Hydref 2021. Bydd gofynion tystysgrifau iechyd allforio ar gyfer cig a chynnyrch llaeth, a rhai mathau o sgil-gynnyrch anifeiliaid, yn dod i rym ar yr un dyddiad, ac mae nifer o ofynion eraill wedi’u gohirio tan 2022.

Ar hyn o bryd mae ffiniau’r DU yn gweithredu fel falfiau sy’n gwneud hi’n hynod o anodd a chostus allforio i’r UE yn sgil y gwaith papur a’r fiwrocratiaeth ar ffiniau’r UE, ac eto mae’n hynod o hawdd i’r rhai yn yr UE sy’n mewnforio cynnyrch i’r DU, am fod Llywodraeth y DU wedi hepgor yr angen am wiriadau tebyg ar ein ffiniau ni.



Mae nifer o ffermwyr a phroseswyr yn hynod o rwystredig bod y sefyllfa’n un mor anghytbwys ers 1af Ionawr, a bod Llywodraeth y DU nawr yn ymestyn y fantais hon i fusnesau’r UE am o leiaf chwe mis arall, oherwydd ei methiant i baratoi ar gyfer ei pholisi Brexit caled ei hun.

Yn y cyfamser, dengys y ffigurau diweddaraf fod allforion bwyd o’r DU i’r UE wedi gostwng 64% - a thros 90% gyda rhai mathau o gynnyrch – yn Ionawr, oherwydd y rhwystrau nad ydynt yn dariffau, o’r diwrnod cyntaf un.

Erbyn hyn mae llai o gymhelliad o lawer i’r UE ddod i gytundeb â’r DU yn gyflym ynghylch hwyluso llif y cynnyrch ar draws ffiniau’r UE-DU. Er bod yr estyniad yn fanteisiol i rai o fusnesau’r DU, ni ddylem fod mewn sefyllfa lle mae estyniadau’n cael eu hymestyn ymhellach oherwydd diffyg cynllunio a rhagwelediad ar ran Llywodraeth y DU, tra mae busnesau’n dioddef cystadleuaeth annheg.