Cyfarfod bwrdd crwn gyda George Eustice AS yn gyfle i ofyn cwestiynau

Mynychodd Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) ac aelodau o’r staff gyfarfod bwrdd crwn gyda’r Gwir Anrhydeddus George Eustice AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig San Steffan ar 18fed Mawrth 2021.

Yn ystod y cyfarfod, pwysleisiodd FUW yr angen am eglurder ynghylch y cyllid ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru. Nid yw Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa o hyd i neilltuo cyllid ar gyfer amaethyddiaeth o 2023 ymlaen, gan greu ansicrwydd ynghylch parhad y taliadau BPS a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd, ar ben y cwtogiad o £137 miliwn i gyllideb amaethyddol Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Yn wir, mi ymrwymodd Llywodraeth y DU yn ei maniffesto i sicrhau'r un lefel o gyllid yn union ag y mae Cymru wedi’i dderbyn yn flaenorol gan yr UE i gefnogi amaethyddiaeth, gan addo na fyddai ‘yr un geiniog yn llai’. Mae angen sicrwydd ar y diwydiant am y gyllideb a phryd y bydd taliad aml-flwyddyn yn cael ei gynnig, yn hytrach na chyllideb flynyddol.



Dywedodd y Gwir Anrhydeddus George Eustice fod y dyraniadau cyllidebol presennol yn parhau i fod yn rhai blynyddol ar hyn o bryd oherwydd pandemig Covid-19, ond pwysleisiodd fod yna obaith y byddai’r adolygiad cyllidebol nesaf yn Hydref 2021 yn darparu cyllideb pum mlynedd.

Ychwanegwyd hefyd y bydd Llywodraeth y DU yn cadw at ei hymrwymiad i gynnal y cyllid ar yr un lefel ag yr oedd yn Rhagfyr 2019.

Er i FUW ddiolch i’r Ysgrifennydd Gwladol am gyfarfod cynhyrchiol, mae’r pryderon ynghylch p’un ai fydd Llywodraeth Cymru’n derbyn y cyllid a addawyd ai peidio’n parhau. Nes bod y lefel o gyllid a addawyd wedi’i gytuno a’i weithredu drwy gytundeb aml-flwyddyn, ni all ffermwyr Cymru wneud cynlluniau busnes hirdymor i barhau i gynhyrchu bwyd cynaliadwy, gwella’r amgylchedd neu danategu’r economi wledig.