Crynodeb o newyddion Mawrth 2021

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 847

i) Cytuno ar ailddosbarthiad yr ardoll cig coch

Bydd ailddosbarthiad ardollau cig coch yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn cael ei roi ar waith o 1af Ebrill 2021 er mwyn ystyried symudiadau da byw trawsffiniol.

Bydd y symudiad hwn yn caniatáu talu arian ardollau i fwrdd ardollau’r Wlad y mae’r anifail wedi treulio’r rhan fwyaf o’i oes ynddi, yn hytrach na ble cafodd ei ladd. Er y bydd hyn yn helpu Hybu Cig Cymru, y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) a Quality Meat Scotland (QMS) i ganolbwyntio ar eu hymgyrchoedd marchnata unigol, bydd prosiectau ar y cyd er budd pob un o’r tair gwlad yn parhau.

ii) FUW yn croesawu rôl Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru gyfan

Mae cyhoeddiad Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths ynghylch bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu rôl benodedig Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt ar gyfer Cymru gyfan wedi’i groesawu gan Undeb Amaethwyr Cymru.

Yn ei chyhoeddiad, cytunodd y Gweinidog i ddarparu cyllid ar gyfer y rôl beilot 12 mis, ac mae wedi ysgrifennu at Brif Gwnstabliaid y 4 heddlu yng Nghymru a’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn gofyn am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth i benodi Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt ar gyfer Cymru gyfan.