Yr effeithiau ar fasnachu‘n parhau yn dilyn diwedd cyfnod pontio Brexit

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 869

Mae masnach UE cynnyrch bwyd a diod y DU yn parhau i gael ei effeithio yn dilyn diwedd Cyfnod Pontio Brexit.

Croesawyd y Cytundeb Masnach Rydd a arwyddwyd rhwng y DU a’r UE, gan osgoi tariffau o hyd at 50% ar rhai mathau o gynnyrch amaethyddol, er y disgwylid problemau cychwynnol o hyd o ran biwrocratiaeth a gwiriadau ychwanegol ar y ffiniau.

Fodd bynnag, ymddengys bod lorïau gyda llwythi nwyddau gwerth degau o filoedd o bunnau‘n dal i gael eu gwrthod mewn porthladdoedd oherwydd un camgymeriad ymhlith pentwr o waith papur, a bod amrywiadau yn y sylw i fanylder ar Dystysgrifau Iechyd Allforio, i enwi ond ychydig o enghreifftiau, yn destun trafod o hyd yn ystod cyfarfodydd â rhanddeiliaid yn y DU.

Mae’n bryder arbennig bod nifer o’r problemau cychwynnol hyn yn troi‘n broblemau hirdymor sydd angen sylw erbyn hyn, er gwaetha’r ffaith bod lefel y fasnach allforio oddeutu 20% i 50% o’i lefel arferol, ac nad oes fawr ddim allforio anifeiliaid byw oherwydd y prinder o safleoedd tollau ar y cyfandir.

Wrth i wiriadau ychwanegol ddod i rym ar y ffiniau ar allforion i’r UE ar 1af Ionawr 2021, dechreuodd yr UE ar gyfnod gras chwe mis ar gyfer cynnyrch yn cyrraedd y DU. Felly nid yw’r broses drafferthus o gwlbhau Tystysgrifau Iechyd Allforio’n debygol o fynd yn haws, yn gyflymach, neu’n well fyth, yn electronig, nes bod yr UE yn cydnabod pa mor anaddas i’r diben y mae’r system bresennol, ymhen pedwar mis.

Yn amlwg, y perygl yw y bydd cwmnïau UE sy’n mewnforio cynnyrch o Gymru’n chwilio am gyflenwyr eraill o fewn yr UE neu tu hwnt oherwydd y trafferthion sy’n gysylltiedig â mewnforio o’r DU, o ystyried bod Aelodau Seneddol wedi cael gwybod yn ddiweddar ei bod hi’n haws i’r UE fewnforio cig oen o Seland Newydd ar hyn o bryd nag o’r DU. Mae Hybu Cig Cymru a’r Asiantaeth Safonau Bwyd ill dau’n credu y bydd y marchnadoedd a’r galw yn parhau, felly dylid rhoi blaenoriaeth i’r nod o sicrhau cyn lleied o oedi â phosib.

Yr ymateb i gwestiwn yr AS Ben Lake ynghylch “p’un oedd e’n [Ysgrifennydd Gwladol Cymru] disgwyl datrys y broblem hon ar frys?”, sef yr oedi gyda’r Tystysgrifau Iechyd Allforio, oedd “...mae hi hefyd yn werth nodi bod yna rai cyfleoedd mawr ar draws gweddill y byd, y dylem fod wrthi’n eu harchwilio, yn hytrach na dim ond canolbwyntio ar rai o’r anawsterau gyda’r UE” ond yn amlwg mae’n rhaid inni hefyd ddiogelu’r farchnad hirsefydlog sydd ar ein stepen drws.