Arolygon a holiaduron Chwefror 2021

 

 i) Prosiect ymchwil Prifysgol Aberystwyth ar drosglwyddiad Neospora caninum drwy faw cŵn

Mae neosborosis yn glefyd difrifol a achosir gan y parasit protosoaidd Neospora caninum, clefyd heintus sy’n un o achosion mwyaf cyffredin erthyliad ymhlith gwartheg ledled y byd. Profwyd bod cŵn domestig yn gyfranwyr allweddol i epidemioleg Neosborosis, am eu bod yn gollwng oocystau yn eu baw, sy’n hanfodol i ledaenu’r clefyd.

Mae prosiect ar droed gan Brifysgol Aberystwyth sy’n archwilio heintiad N. caninum. Fel rhan o’r ymchwil hwn bydd maint yr oocystau N. caninum mewn baw cŵn yn cael ei archwilio ar lwybrau cyhoeddus ar draws Cymru. Maent yn chwilio am ffermydd sy’n barod i gymryd rhan yn y prosiect hwn, a allai helpu i nodi’r rhanbarthau sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ran y clefyd, ac am ffermydd gwartheg sydd â llwybr troed yn rhedeg ochr yn ochr neu drwy’r fferm, ac sydd â hanes o broblemau gyda baw cŵn. Mae ganddynt ddiddordeb mewn ffermydd sydd â hanes o Neosborosis, yn ogystal â rhai sydd ddim yn ystyried Neosborosis yn broblem. Maent hefyd am gynnal arolwg o gŵn fferm ar ffermydd penodol.

Bydd yr ymchwil hwn yn rhoi cyfle i Brifysgol Aberystwyth i wella dealltwriaeth o glefyd sy’n achosi colledion economaidd enfawr i ffermwyr. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan ac am gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.; bydd unrhyw wybodaeth a roir gennych yn ystod y prosiect hwn yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol a bydd yr holl data’n cael ei grynhoi fel na fydd modd adnabod ffermydd unigol.

 

ii) ‘Yr Arolwg Ffermio Mawr’ – RABI i daflu goleuni ar y materion sy’n effeithio ar bobl sy’n ffermio

Ar 11 Ionawr 2021, lansiodd RABI y prosiect ymchwil mwyaf erioed ar draws Cymru a Lloegr yn ymwneud â llesiant pobl sy’n ffermio. Bydd yr arolwg eang ei gwmpas hwn yn ystyried y berthynas rhwng iechyd corfforol, lles meddyliol ac iechyd busnesau ffermio am y tro cyntaf.

Wrth i’r pwysau allanol gynyddu, bydd yr ymchwil hanfodol hwn yn darparu’r trosolwg mwyaf cynhwysfawr erioed o’r gymuned ffermio. Bydd yn nodi’r heriau penodol a wynebir gan genhedlaeth o bobl sy’n ffermio, ac yn amlygu sut mae’r rhain yn effeithio ar fywyd bob dydd.

Mae FUW yn cefnogi’r fenter bwysig hon ac yn annog pawb i gyfrannu at yr ymchwil er mwyn cyrraedd y targed o gasglu 26,000 o ymatebion i’r arolwg.

Nodau’r #BigFarmingSurvey (#ArolwgFfermioMawr)

  • Deall llesiant cenhedlaeth sy’n ffermio
  • Deall iechyd ein ffermwyr a’u busnesau
  • Ennill dealltwriaeth o bwysau ac effeithiau allanol
  • Llunio cymorth a gwasanaethau yn y dyfodol

Pwy all gymryd rhan: Ffermwyr, gweithwyr fferm, eu cymheiriaid, a phlant sy’n
oedolion
Pryd: 11 Ionawr - 31 Mawrth 2021
Ar-lein: http://ex.ac.uk/BigFarmingSurvey
Print: Gofynnwch am gopi printiedig gan This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Neilltuwch 15 munud i gymryd rhan drwy ymateb i’r arolwg printiedig neu drwy lenwi ein ffurflen ar-lein yn Gymraeg neu Saesneg.



iii) Ymchwil ar effeithiau economaidd-gymdeithasol disodli’r PAC

Mae Ms Cari Owen yn fyfyriwr Economeg Busnes trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae’n gwneud ymchwil ar effeithiau economaidd-gymdeithasol tybiedig disodli’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) ar gymunedau gwledig yng Nghymru.

Mae’r arolwg wedi’i anelu at ffermwyr sy’n byw yng Nghymru ac sydd wedi derbyn cymorthdaliadau drwy’r PAC yn y gorffennol, ac ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau.

Mae’r arolwg ar gael yma. Cysylltwch â Cari ar This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.


iv) Arolwg BeefQ o’r farn ar ansawdd bwyta cig eidion

Yn ystod dwy flynedd diwethaf y prosiect BeefQ mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar bennu nodweddion y carcasau a gyflwynir i’w lladd yng Nghymru, a datblygu system o broffwydo ansawdd bwyta cig eidion, yn seiliedig ar system MSA Awstralia, ond wedi’i wirio gan ddefnyddio samplau cig eidion y DU a chynnal profion blasu ymhlith defnyddwyr.

Dangosodd gwaith y panel blasu defnyddwyr bod pobl yn fodlon talu dwbl am gynnyrch o’r ansawdd gorau, ac erbyn hyn mae gan y model proffwydo ansawdd bwyta cig eidion y potensial i arwain at ansawdd bwyta o safon warantedig, a mwy o hyder yng nghig eidion Cymru ymhlith defnyddwyr.

Nawr bod y gwaith hwn wedi’i gwblhau’n llwyddiannus, mae’r prosiect yn dechrau ar gyfnod newydd a hanfodol, sef ymgynghori â diwydiannau ffermio a bwyd Cymru a’r DU, i fesur yr awydd/angen am system proffwydo ansawdd bwyta cig eidion, ac i ystyried sut y gellid rhoi system o’r fath ar waith.

Felly hoffai tîm BeefQ annog unrhyw un sy’n gweithio o fewn y gadwyn cyflenwi cig (ffermwyr, lladd-dai, cigyddion, manwerthu), yn ogystal â’r sectorau arlwyo a lletygarwch, i gwblhau’r arolwg. Bydd yr ymatebion yn cyfrannu tuag ar argymhellion ar ddichonolrwydd y system, sut i’w gweithredu, a’r rhwystrau tybiedig rhag gwneud hynny.

I gymryd rhan yn yr arolwg ewch i http://www.beefq.wales/survey.html

v) Prifysgol Caerdydd yn ymchwilio i gadwyni cyflenwi bwyd

Mae Prosiect Cydweithredol Ymchwil Bwyd (FORC) Prifysgol Caerdydd a’i bartneriaid wedi cynllunio arolwg ac arf mapio, i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o’r bobl, sefydliadau a phartneriaethau ar draws Cymru sy’n gweithio tuag at system fwyd gynaliadwy a theg, yn ogystal â thynnu sylw at weithgareddau sydd wedi’u cysylltu’n dda, ac unrhyw fylchau all fodoli (yn ddaearyddol, yn nhermau polisi, ac mewn perthynas ag adnoddau).

Bydd canlyniadau’r arolwg hwn yn bwydo’n awtomatig i Adnodd Rhwydwaith Bwyd Cymru, sef arf ar-lein y gellir ei gyrchu’n uniongyrchol. Bydd data’r arolwg yn cael ei arddangos yno; mae arf Adnodd Rhwydwaith Bwyd Cymru yn adnodd agored y gall unrhyw un ei ddefnyddio i’w cynorthwyo i adeiladu system fwyd gynaliadwy a theg.

Po fwyaf y cyfranogiad, y mwyaf defnyddiol fydd yr arf. Hefyd, defnyddir yr wybodaeth a rennir yn yr arolwg i helpu i siapio gweithgareddau partneriaeth a chydweithio pellach o fewn cymuned rhanddeiliaid system fwyd Cymru.

Mae’r arolwg ar gael yma:
https://socsi.qualtrics.com/jfe/form/SV_dmQQOoptgdRn0Hj

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Angela ar: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.