Gofynion clefyd y crafu a gwaharddiadau symud newydd ar allforio defaid o Brydain i Ogledd Iwerddon

Fel rhan o Brotocol Gogledd Iwerddon, mae Gogledd Iwerddon yn dal i fod dan reoliadau iechyd anifeiliaid Ewropeaidd ac felly mae defaid a allforir o Brydain – sy’n ‘drydedd wlad’ erbyn hyn (h.y. ddim yn y Farchnad Sengl) – i Ogledd Iwerddon yn gorfod cydymffurfio â rheolau newydd.

I leihau’r perygl o glefydau, mae’r rheolau newydd hyn yn cynnwys cadw anifeiliaid ar yr un daliad am 40 diwrnod cyn eu symud, a gofynion ychwanegol o ran clefyd y crafu.

Rhaid i ddefaid byw a allforir i Ogledd Iwerddon ar gyfer bridio a chynhyrchu (pesgi) a’u plasm cenhedlu (semen, ofa, embryonau) gwrdd â’r gofynion newydd ar gyfer clefyd y crafu drwy fod yr anifeiliaid naill ai:

  • Yn dod o ddaliadau sy’n bodloni’r diffiniad cyfreithiol o ‘risg rheoledig’ o ran clefyd y crafu. Yn ymarferol, yn y DU mae hynny’n golygu bod yn rhaid iddynt fod yn rhan o Gynllun Monitro Clefyd y Crafu, sy’n cael ei redeg gan Goleg Gwledig Yr Alban (SRUC), a hynny ers tair blynedd o leiaf.
    Neu,
  • Bod ganddynt brawf geneteg sy’n dangos bod ganddynt ymwrthedd i’r clefyd a’u bod yn dod o ddaliad sydd heb fod dan unrhyw gyfyngiadau BSE na chlefyd y crafu dros y ddwy flynedd diwethaf.

Ceir mwy o wybodaeth am aelodaeth Cynllun Monitro Clefyd y Crafu yma.


Rhaid i’r rheiny sy’n cwrdd â’r gofynion uchod hefyd ddilyn yr un gofynion ardystio ychwanegol o ran clefydau endemig ar gyfer masnachu o Brydain i’r UE, wrth allforio i Ogledd Iwerddon.


Argraffu