Heddlu Dyfed Powys yn rhybuddio am ymosodiadau twyll targedig

Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynghori’r gymuned ffermio i fod yn wyliadwrus iawn ynghylch galwadau, negeseuon testun neu e-byst amheus gan fod twyll sy’n targedu’r sector amaethyddol yn benodol wedi’i nodi.

Mae gwybodaeth am yTaliadau Fferm Sengl ar gael yn gyhoeddus, gan olygu bod troseddwyr yn gallu targedu pobl yn uniongyrchol, gan wneud hi’n haws iddyn nhw eu hargyhoeddi.

Bydd y negeseuon ffug fel arfer yn honni bod twyll wedi’i ganfod yng nghyfrif banc y ffermwr a bod angen gweithredu ar unwaith i ddiogelu’r cyfrif.

Yna, mae’r unigolyn yn cael ei berswadio i ddatgelu gwybodaeth bersonol neu ariannol, neu hyd yn oed i drosglwyddo arian yn uniongyrchol i ‘gyfrif diogel’ honedig.

Gyda rhai grantiau’n werth miloedd o bunnoedd, mae twyllwyr yn y gorffennol wedi dwyn symiau sylweddol oddi wrth ffermwyr.

Mae’r gymuned ffermio’n darged deniadol i dwyllwyr yr adeg hon o’r flwyddyn, a gall disgyn i’r trap nid yn unig arwain at ganlyniadau difrifol yn ariannol, ond gall hefyd achosi straen a gofid sylweddol. Mae FUW felly’n annog ffermwyr i ddilyn y cyngor isod a bod yn wyliadwrus, a chysylltu ag Action Fraud ar unwaith ar 0300 123 2040 i roi gwybod am unrhyw dwyll.

Byddwch yn wyliadwrus ynghylch:

  • Unrhyw alwadau, negeseuon testun neu e-byst sy’n honni eu bod o’ch banc, yr Heddlu, un o gyrff y llywodraeth neu sefydliad arall, sy’n gofyn am fanylion personol neu ariannol, neu’n gofyn ichi drosglwyddo arian.
  • Galwyr diwahoddiad sy’n awgrymu eich bod chi’n rhoi’r ffôn i lawr ac yn eu galw yn ôl. Gall twyllwyr gadw’ch llinell ffôn ar agor drwy beidio â rhoi’r ffôn i lawr eu pen nhw.
  • Unrhyw gais i wirio bod y rhif sy’n ymddangos ar eich ffôn yn cyfateb i rif ffôn cofrestredig sefydliad. Ni ellir ymddiried yn y rhif sy’n ymddangos oherwydd gall y galwr newid y rhif hwnnw.

Cofiwch: 

  • Ni fydd neb byth yn gofyn ichi am eich PIN 4 digid neu’ch cyfrinair bancio ar-lein, nac yn gofyn ichi drosglwyddo arian i gyfrif newydd am “resymau twyll”.
  • Os ydych chi’n derbyn galwad amheus, rhowch y ffôn i lawr, arhoswch 5 munud er mwyn sicrhau bod y llinell yn glir, yna ffoniwch eich banc neu’ch cyhoeddwr cerdyn ar y rhif a hysbysebir ganddynt i roi gwybod am y twyll.

Peidiwch byth â datgelu’r canlynol: 

  • Eich PIN cerdyn 4 digid i neb, gan gynnwys yr heddlu neu’r banc.
  • Eich cyfrinair neu godau bancio ar-lein.
  • Manylion personol, oni bai eich bod chi’n gwbl sicr pwy rydych chi’n siarad â nhw. Nid yw pawb yn dweud y gwir am bwy ydynt.