Newidiadau i gynhyrchwyr organig Cymdeithas y Pridd o 1af Ionawr

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 1020

Mae Cymdeithas y Pridd wedi paratoi tudalen o ganllawiau cyn y cyflwynir newidiadau sylweddol ar gyfer ffermwyr, tyfwyr, gweithgynhyrchwyr a masnachwyr organig sy’n allforio i’r UE ar 1af Ionawr.

Allforio i’r UE a Gogledd Iwerddon o 1af Ionawr 2021

Mae’n edrych yn debyg y bydd y drefn ar gyfer derbyn cynnyrch organig o Brydain i’r UE yn seiledig ar gymeradwyaeth unigol ardystwyr DU dan reoliad EC1235/2008 y Comisiwn Ewropeaidd – sydd gan holl ardystwyr y DU ar hyn o bryd.

Bydd angen i bob gweithredwr ar hyd cadwyn gyflenwi’r DU gael ei ardystio gan ardystiwr sy’n meddu ar gymeradwyaeth y cynnyrch perthnasol ar hyn o bryd. Mae cymeradwyaeth ardystiad Cymdeithas y Pridd yn berthnasol hyd at ddiwedd 2023.

Bydd disgwyl i’r DU weithio’n unol â rheoliad organig presennol yr UE, sef EC834/2007 am gyfnod o dair blynedd o leiaf o 1af Ionawr 2021, er gwaetha’r ffaith bod yr UE yn symud i reoliad organig newydd yn 2022.

Cofrestru i fasnachu â’r UE

Mae’r wybodaeth ganlynol yn berthnasol i ffermwyr a thyfwyr, gweithgynhyrchwyr a masnachwyr sydd ag ardystiad Cymdeithas y Pridd. Os ydych chi’n bwriadu allforio i’r UE o 1af Ionawr 2021, bydd angen ichi sicrhau bod yr holl gynnyrch rydych chi’n bwriadu’i allforio ar eich amserlen masnachu.

Hefyd, gwnewch yn siŵr bod eich cwsmeriaid yn yr UE wedi nodi mewnforiwr a derbynnydd 1af sy’n meddu ar drwydded(au) organig ddilys i fewnforio.

Gweler yma am fwy o wybodaeth ar gofrestru llwythi cyn eu hallforio i’r UE, ac ar gael manylion ID tollau ar gyfer cynnyrch organig.