FUW yn annog aelodau i lobïo yn erbyn toriadau i gyllid gwledig

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn annog ffermwyr ac aelodau’r cyhoedd i lobïo Gwleidyddion o Gymru dros doriadau i gyllideb amaeth a datblygu gwledig Cymru a gyhoeddwyd gan Ganghellor y DU ar y 25 Tachwedd.

Ar wefan FUW mae modd i bobl fynd ar lein ac anfon ebost at Aelodau Seneddol, Aelodau Senedd Cymru a chynrychiolwyr lleol i alw arnynt i lobïo er mwyn adfer cyllideb amaeth a datblygu gwledig Cymru i’r hyn oedd cyn ymadael â’r UE mewn termau go iawn – yn unol â’r addewidion a wnaed i etholwyr Cymru a’r DU gan niferoedd o wleidyddion.

Mae Trysorlys y DU wedi defnyddio arian o’r gyllideb CAP 2014-2020 sydd heb ei wario er mwyn cyfrifo cyfanswm y cyllid ar gyfer amaeth a datblygu gwledig Cymru ar gyfer y cyfnod 2021-22, sy’n golygu fydd Cymru’n derbyn £95 miliwn (28%) yn llai na’r disgwyl, lleihad o £137 miliwn (41%) ar ôl ystyried y trosglwyddiad Colofn.

Mae hyn er gwaetha’r ffaith i’r diwydiant amaeth a’r cyhoedd dderbyn sicrwydd drosodd a throsodd gan y prif ymgyrchwyr o blaid Brexit a Gweinidogion Llywodraeth y DU na fyddai cyllid ar gyfer amaeth a datblygu gwledig yng Nghymru yn cael ei leihau wedi i’r DU adael yr UE, tra ym maniffesto’r ceidwadwyr yn 2019 honnwyd ‘...we will guarantee the current annual [Common Agricultural Policy (CAP)] budget to farmers in every year of the next Parliament.’

Mae FUW felly’n annog ffermwyr ac aelodau’r cyhoedd i gysylltu â’u gwleidyddion etholedig i sôn am y diffyg sylweddol hwn.

Saesneg: https://fuw.org.uk/en/policy/contact-your-mp

Cymraeg: https://fuw.org.uk/cy/polisi/cysylltwch-a-ch-as-lleol