Rhaid i’r DU a’r UE ddod i gytundeb er mwyn osgoi effeithiau trychinebus

Mae FUW wedi rhybuddio y bydd methiant gan y DU a’r UE i ganfod cytundeb masnach cyn diwedd y flwyddyn yn drychinebus i ddiwydiannau a chymunedau yng Nghymru a hefyd ar draws y DU a rhaid osgoi hynny ar bob cyfrif.

Mae cadwyn fwyd a diod Cymru’n chwarae rhan ganolog yn economi a chymunedau Cymru, gan gyflogi mwy na 240,000 o bobl mewn diwydiannau gyda throsiant cyfunol o fwy na £22 biliwn.

Yr UE yw’r farchnad sengl fwyaf a chyfoethocaf yn y byd, ac mae 73% o holl allforion bwyd a diod o Gymru yn mynd i’r UE, gan gynnwys y rhan fwyaf o’r allforion cig coch a chynnyrch llaeth gydag amcangyfrif gwerth o £320 miliwn i Gymru.

Os yw’r DU yn gadael yr UE gyda chytundeb neu beidio, mae diwydiannau’n paratoi i wynebu heriau sylweddol o ganlyniad i rwystrau di-doll ar hyd ffiniau, i gostau ychwanegol ar gyfer allforion amaethyddol a goblygiadau ymarferol o ran llif nwyddau.

Mae pryder mawr hefyd bod trafodaethau cytundeb masnachol tebyg i un Awstralia yn ffordd arall o ddweud mai dim cytundeb fydd hi gan achosi niwed, a hynny ers i gyn brif Weinidog Awstralia Malcolm Turnbull ddweud “Australia's relationship with the EU is not one from a trade point of view that I think Britain would want” oherwydd “we obviously are dealing with WTO terms”.

Bydd yr effeithiau pryderus hyn – yn cynnwys tollau ar allforion amaethyddol yn enwedig – yn cynyddu’n frawychus os na ddaw cytundeb masnachol. Er gwaethaf disgwyl cael rhyw syniad o gyfeiriad erbyn y dyddiad cau ar y 13eg Rhagfyr, mae’r ffaith y cytunwyd i ymestyn y trafodaethau masnach eto fyth yn syml iawn yn dangos y bydd y trafodaethau hyn yn mynd i’r eithaf.