FUW yn annog aelodau i fanteisio ar brofion clafr am ddim

Mae FUW wedi rhoi croeso gofalus i’r newyddion bod y gwasanaeth archwilio samplau o grafiadau croen defaid sy’n dangos arwyddion clinigol amheus o’r clafr yn cael ei gynnig am ddim yng Nghymru gan APHA, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru tan 31 Mawrth 2021.

Bydd y cynllun yn helpu i sicrhau diagnosis cywir, sy’n rhagofyniad ar gyfer trin y clafr mewn ffordd briodol a llwyddiannus, sy’n flaenoriaeth i Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru.

Ar ben hynny, bydd y cynllun hefyd yn annog ffermwyr defaid i weithio gyda’u milfeddygon i ddiogelu eu diadell rhag y clafr. Yn ogystal â diagnosis cywir er mwyn rheoli’r clefyd os yw’n bresennol, mae bioddiogelwch da ar gyfer y ddiadell yn hanfodol i’w gadw draw.

Mae’n siom mawr fod y rhaglen a gymeradwywyd gan y diwydiant i ddileu’r clafr, a oedd i dderbyn £5.1 miliwn fel rhan o’r Rhaglen Datblygu Gwledig y llynedd, wedi’i daflu o’r neilltu, serch bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £106 miliwn yn ddiweddar i nifer o brosiectau ‘blaenoriaeth’ eraill.

Mae FUW wedi gwneud hi’n glir i’r Gweinidog Lesley Griffiths, serch bod y dull newydd hwn yn mynd i’r afael â rhan fach o’r broblem - sef yr elfen brofi - bod angen i hynny ddigwydd ochr yn ochr â phrofion cyffiniol a thriniaeth gydlynus pan fydd y clefyd wedi’i gadarnhau ar fferm, fel y cynigiwyd gan Grŵp Dileu’r Clafr y diwydiant.

Serch hynny, mae FUW yn annog aelodau i fanteisio ar y profion am ddim hyn.

Cynhelir y profion yn APHA Canolfan Ymchwil Milfeddygol Caerfyrddin, sydd hefyd yn ganolfan arbenigedd ar gyfer monitro clefydau ymhlith da byw sy’n cael eu rheoli’n llai dwys.

Derbynnir samplau yn y ffordd arferol, drwy filfeddyg y ffermwr, a dylid eu postio’n uniongyrchol i Ganolfan Ymchwil Milfeddygol Caerfyrddin. Rhaid anfon manylion cefndir clinigol llawn i fod yn gymwys ar gyfer profion am ddim.

Gellir anfon samplau ar ffurflen gyflwyno gyffredinol sydd ar gael ar y Porth Milfeddygon: http://ahvla.defra.gov.uk/vet-gateway/surveillance/forms.htm

neu drwy ADTS: https://www.gov.uk/animal-disease-testing

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag APHA Canolfan Ymchwil Milfeddygol Caerfyrddin ar 0300 060 0016