Seland Newydd yn mynegi pryder ynghylch cwotâu cig defaid yn y dyfodol

Mae Sefydliad Diwydiant Cig (MIA) Seland Newydd wedi mynegi pryderon ynghylch penderfyniadau i rannu ei gwota cig defaid rhwng y DU a’r Undeb Ewropeaidd (UE) ar ddiwedd cyfnod pontio Brexit.

Mae allforwyr Seland Newydd yn paratoi ar gyfer y tarfu ar y fasnach, ar ffurf oedi a phrosesau newydd, wrth iddi ddod yn fwy a mwy tebygol y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb.

Mae’r DU a’r UE wedi cytuno rhyngddyn nhw i haneru cwota cig defaid Seland Newydd o 228,000 o dunelli rhwng y ddwy farchnad. Serch y cynnydd o ran allforion cig defaid i’r DU dros y misoedd diwethaf oherwydd y pandemig Covid-19, anaml iawn y mae Seland Newydd wedi cyflenwi’r cwota hwnnw, ac felly ni ddylai hyn gael effaith sylweddol ar y fasnach.

Fodd bynnag, fel rhan o’r cytundeb hwn, bydd cyfran y DU o gwota cig eidion Seland Newydd yn gyfanswm o tua 450 o dunelli, sef dyraniad ‘masnachol anymarferol‘ ac felly cwbl ddiwerth yn ôl Prif Weithredwr MIA, Sirma Karapeeva, o ystyried y bydd unrhyw allforion dros y cwota’n wynebu tariff o 12%.

Dywed y Weinyddiaeth Materion Tramor a Masnach eu bod am sicrhau bod y mynediad presennol i’r ddwy farchnad yn parhau o ddechrau 2021, am nad yw’r cynlluniau presennol yn caniatáu hyblygrwydd i allforwyr addasu i’r galw.

Ar nodyn tebyg, mae’r ail rownd o drafodaethau ar gyfer cytundeb masnach rydd rhwng y DU a Seland Newydd wedi’i chwblhau, ac mae trydedd rownd wedi’i threfnu tua diwedd Ionawr 2021, sef ar ôl i gyfnod pontio Brexit ddod i ben.