Datganiadau ardal newydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n peri pryder i fusnesau gwledig

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 1213

Mewn ymateb i’r Polisi Adnoddau Cenedlaethol a gyhoeddwyd gan Llywodraeth Cymru yn 2017, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 7 o Ddatganiadau Ardal i ‘ganfod atebion i nifer o heriau sy’n wynebu’r amgylchedd naturiol’. Ceir Datganiadau Ardal ar gyfer rhannau gwahanol o Gymru – chwe thirol, un forol. Mae pob un o’r Datganiadau Ardal yn nodi beth mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n credu yw’r heriau allweddol sy’n wynebu’r ardal honno.

Mae FUW wedi dadlau’n gyson yn erbyn creu Datganiadau Ardal - gan deimlo eu bod yn cael eu datblygu heb ymgysylltu digon â ffermwyr a heb fawr o ystyriaeth i’r rhwystrau posib y gallent eu creu i fusnesau gwledig. O ystyried bod cyfanswm Gwerth Ychwanegol Gros amaethyddiaeth yng Nghymru oddeutu £385 miliwn, mae FUW yn dadlau nad yw Datganiadau Ardal yn gwneud fawr ddim i adlewyrchu gwerth ehangach amaethyddiaeth yng Nghymru, gan gynnwys yn nhermau nodau allweddol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Er enghraifft:

Mewn ymateb, mae FUW yn annog aelodau i lenwi’r holiadur byr am y Datganiad Ardal mwyaf perthnasol i’w hardal nhw.

Datganiad Ardal De Ddwyrain Cymru “Gwent” -
Cyflwyniad i Ddatganiad Ardal De Ddwyrain Cymru
Themâu -

  1. Cysylltu ein Tirweddau
  2. Gwent yn Barod ar gyfer yr Hinsawdd
  3. Iach, Heini, Cysylltiedig
  4. Ffyrdd o Weithio

Datganiad Ardal De Orllewin Cymru -
Cyflwyniad i Ddatganiad Ardal De Orllewin Cymru
Themâu -

  1. Lleihau anghydraddoldebau iechyd
  2. Sicrhau rheoli tir yn gynaliadwy
  3. Gwrthdroi’r dirywiad i fioamrywiaeth, a’i hadfer
  4. Thema drawsbynciol: Lliniaru ac addasu i hinsawdd sy’n newid

Datganiad Ardal Canol De Cymru -
Cyflwyniad i Ddatganiad Ardal Canol De Cymru
Themâu -

  1. Adeiladu ecosystemau gwydn
  2. Cysylltu pobl â natur
  3. Gweithio gyda dŵr
  4. Gwella ein hiechyd
  5. Gwella ansawdd ein haer

Datganiad Ardal Canolbarth Cymru -
Cyflwyniad i Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru
Themâu -

  1. Gwella bioamrywiaeth – ymateb i’r argyfwng natur
  2. Tir, dŵr ac aer cynaliadwy
  3. Ailgysylltu phobl a lleoedd – gwella iechyd, llesiant a’r economi
  4. Adnoddau coedwigaeth – rheoli adnoddau pren yn effeithiol
  5. Yr argyfwng hinsawdd – addasu a lliniaru o amgylch pedair thema

Datganiad Ardal Gogledd Ddwyrain Cymru
Cyflwyniad i Ddatganiad Ardal Gogledd Ddwyrain Cymru
Themâu -

  1. Yr argyfwng yn yr hinsawdd: gwydnwch ac addasu
  2. Datblygu a gwella seilwaith gwyrdd trefol/gwledig
  3. Mwy o goetiroedd er mwyn creu buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd
  4. Hyrwyddo gwydnwch ecosystemau o ran cynnal a gwella bioamrywiaeth
  5. Gwarchod dŵr a phridd trwy reoli tir yn gynaliadwy a ffermio

Datganiad Ardal Gogledd Orllewin Cymru
Cyflwyniad i Ddatganiad Ardal Gogledd Orllewin Cymru
Themâu -

  1. Ffyrdd o weithio
  2. Argyfwng yr hinsawdd ac amgylchedd
  3. Ailgysylltu pobl â natur
  4. Annog economi gynaliadwy
  5. Cefnogi’r egwyddor o reoli tir yn gynaliadwy
  6. Cyfleoedd ar gyfer ecosystemau gwydn