Canlyniadau cyntaf prosiect ansawdd bwyta cig eidion BeefQ ar gael

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 1121

Nod BeefQ, sef prosiect Ansawdd Bwyta Cig Eidion a ariannir drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 yw cynyddu ansawdd bwyta a gwerth cynnyrch Cig Eidion Cymreig drwy brofi ac arddangos system well i raddio ansawdd carcasau, sy’n seiliedig ar fodel Safonau Cig Awstralia (MSA).

Fel rhan o’r prosiect, sy’n cael ei gydlynu gan IBERS, Prifysgol Aberystwyth, a’i gyflawni gyda rhanddeiliaid eraill megis Hybu Cig Cymru, darparwyd cwrs hyfforddiant ar ddechrau 2019 ar asesu ansawdd bwyta a gwyddoniaeth cig, ac mae’r broses o ddatblygu system i raddio ansawdd bwyta yng Nghymru wedi hen sefydlu erbyn hyn. Cynhaliwyd arolwg o 2000 o garcasau cig eidion a gyflwynwyd i’w lladd gyda phroseswyr Cig Eidion Cymreig PGI yn Chwefror ac Awst 2019, a chyflwynwyd is-sampl o’r carcasau hynny i 1200 o ddefnyddwyr mewn 20 o ddigwyddiadau ar draws Cymru a Lloegr i brofi eu blas. Mae canlyniadau cyntaf yr arolwg a’r profion defnyddwyr ar gael yng nghylchlythyron diweddaraf BeefQ.

Y camau nesaf fydd gweithio gyda rhanddeiliaid ehangach o fewn y diwydiant cig eidion Cymreig, gan gynnwys FUW, i ddatblygu strategaeth ar gyfer rhoi system darogan ansawdd bwyta ar waith yng Nghymru.

I ddysgu mwy am brosiect BeefQ ewch i wefan prosiect BeefQ www.beefq.wales lle gallwch hefyd gofrestru i dderbyn y cylchlythyr. Gallwch hefyd eu dilyn ar Twitter @BeefQWales.