Cytundeb Masnach Rydd DU-Seland Newydd ar y gorwel

Dros y misoedd diwethaf, mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi mynegi pryderon am y modd y bydd y cytundeb masnach rydd rhwng y DU ac Awstralia, sy’n anelu at ryddfrydoli’r broses o fasnachu nwyddau amaethyddol, yn gosod cynsail ar gyfer cytundebau masnach â gwledydd eraill mawr rhyngwladol.

Mae’r trafodaethau ar gytundeb masnach rydd rhwng y DU a Seland Newydd ar droed erbyn hyn, a dywedir y bydd yn cynyddu’r masnachu rhwng y ddwy wlad tu hwnt i’r cyfanswm o £2.3 biliwn yn 2020.

Yn ôl Llywodraeth y DU, y bwriad gwreiddiol oedd cael cynllun mewn egwyddor yn ei le erbyn diwedd Medi. Fodd bynnag, mae fisâu i weithwyr, mynediad at farchnadoedd amaethyddol, a gwasanaethau ariannol yn parhau i fod yn rhwystrau allweddol.

Mae Seland Newydd wedi cadarnhau ei bod yn anelu at gael mynediad tebyg i’r farchnad â’r un a gynigiodd y DU i Awstralia, drwy ddarparu mynediad i farchnadoedd cig a llaeth y DU yn gyfnewid am wasanaethau ariannol Seland Newydd.

UAC yn croesawu estyniadau i gontractau BPS a Glastir

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, y bydd yna estyniad o ddwy flynedd i gontractau’r cynllun Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig, ac yn amodol ar dderbyn cyllid digonol gan Lywodraeth y DU, y bydd ffermwyr yn parhau i dderbyn taliadau uniongyrchol drwy Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) hyd 2023.

Mae’r estyniad i’r contract Glastir yn cynrychioli ymrwymiad cyllidebol o £66.79 miliwn dros ddwy flynedd ar gyfer ffermwyr yng Nghymru. Bydd yr holl ddeiliaid contract cymwys presennol yn cael cynnig estyniad drwy eu cyfrif RPW ar-lein.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn newyddion da i’r diwydiant ffermio. Gyda’r ansicrwydd enbyd ynghylch taliadau fferm yn y dyfodol, a chytundebau masnach rydd ryngwladol, bydd y sicrwydd hwn yn darparu rhywfaint o sefydlogrwydd dros y ddwy flynedd nesaf.

Ychydig ddyddiau’n unig cyn y cyhoeddiad, cwrddodd UAC â’r Aelod Senedd Cefin Campbell, gan bwysleisio pwysigrwydd cymorth drwy gynlluniau Glastir i’r oddeutu 3,000 o ddeiliaid contract yng Nghymru oedd angen eglurder ynghylch p’un ai fyddent yn derbyn cyllid o’r fath o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

UAC yn aseinio Swyddog Materion Seneddol ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid newydd

Yn ddiweddar, penododd UAC Swyddog Materion Seneddol ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid:

"Helo. Libby Davies ydw i, Swyddog Materion Seneddol ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid UAC. Yn wreiddiol o gyffiniau Aberhonddu, rwyf wedi graddio eleni o Brifysgol Birmingham gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Gwyddor Wleidyddol a Chysylltiadau Rhyngwladol. Er nad wyf yn ffermio fy hun, mae dwy ochr fy nheulu yn ffermio ac rwy'n aelod gweithgar o CFfI Pontsenni. Rwy'n edrych ymlaen at gyfuno fy niddordebau mewn gwleidyddiaeth ac amaethyddiaeth yn fy ngwaith gyda UAC.

“Yn fy rôl, byddaf yn cysylltu gyda’r Senedd a San Steffan ar ran yr Undeb. Bydd hyn yn cynnwys cyfrifoldeb i drafod materion fel Cytundebau Masnach, Newid Hinsawdd a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd. Byddaf hefyd yn cefnogi ymgysylltiad â rhanddeiliaid yn siroedd Gwent a Morgannwg. Os allai fod o gymorth mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.."

 

Canlyniadau addawol i’r prawf TB Gwartheg newydd ond dim dull holistig yng Nghymru o hyd

Mae buchesi yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn rhan o dreialon ar ffermydd o’r prawf gwrthgyrff TB Gwartheg newydd, Enferplex.

Mae’r prawf wedi’i gynllunio i ganfod anifeiliaid heintiedig na chanfuwyd gan y prawf croen twbercwlin a’r prawf gwaed gama cymeradwy presennol.

Yn ôl yr adroddiadau mae’r canlyniadau cynnar yn bositif, gyda 2,500 o samplau’n dangos 23,4% o ganlyniadau Enferplex positif. Credir bod gan y prawf benodoldeb o rhwng 98.4 a 99.7% a sensitifrwydd o rhwng 89.4 a 94.5%, sy’n golygu y gall ganfod hyd at 94.5 o anifeiliaid a gadarnheir fel rhai heintiedig o fewn buches pan gânt eu profi 5-30 diwrnod ar ôl prawf croen.

Er bod y prawf Enferplex wedi’i gymeradwyo gan Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd i’w ddefnyddio fel prawf TB ar gyfer gwartheg, nid yw wedi’i gymeradwyo eto ar gyfer profion rheolaidd yn y DU.

Mae UAC yn parhau i gefnogi dull holistig sy’n seiliedig ar wyddoniaeth i ddileu TB yng Nghymru, ond mae ‘na bryder y bydd cyflwyno prawf arall yn annog dull ‘adweithiol’ yn hytrach na symud tuag at ddull ‘ataliol’.

Cadwyni cyflenwi bwyd y DU yn wynebu problemau mawr

Mae adroddiadau yn y cyfryngau dros yr wythnosau diwethaf wedi datgelu problemau mawr i gadwyni cyflenwi bwyd y DU, yn sgil prinder gyrwyr cerbydau HGV a phrinder CO2 ar gyfer difa anifeiliaid a phecynnu bwyd.

Mae’r prinder o oddeutu 100,000 o yrwyr cerbydau HGV wedi effeithio ar nifer o fanwerthwyr a safleoedd gwerthu bwyd mawr, gan gynnwys Iceland a McDonalds, ar ôl i thua chwarter y gyrwyr hyn ddychwelyd i’r UE oherwydd Brexit a Covid-19.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi haeru ers amser maith y byddai problemau o’r fath yn codi o ganlyniad i’r rhwystrau a gododd rhwng y DU a’r UE yn sgil Brexit.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ers hynny y bydd yn cyflwyno pecyn o fesurau i helpu i daclo’r prinder gyrwyr cerbydau HGV, gan gynnwys fisâu dros dro i 5,000 o yrwyr tanceri tanwydd a chyflenwyr bwyd i weithio yn y DU yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig, a phroses symlach i yrwyr newydd gael eu trwydded HGV.

Crynodeb o Newyddion Medi 2021

i) Y diwydiant yn croesawu’r bwriad i godi gwaharddiad cig oen yr Unol Daleithiau

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu’r newyddion y bydd y gwaharddiad hirdymor ar fewnforio cig oen Cymru i’r Unol Daleithiau’n cael ei godi’n fuan. Gwnaed y cyhoeddiad gan Brif Weinidog y DU, Boris Johnson Ddydd Mercher 22 Medi.

Mae UAC wedi hen drafod y posibilrwydd o godi’r gwaharddiad digyfiawnhad hwn gydag Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau (USDA) mewn cyfarfodydd gwahanol dros y degawdau diwethaf. Mae Hybu Cig Cymru wedi nodi y bydd gwerth amcangyfrifol y farchnad bosib ar gyfer Cig Oen Cymreig gyda Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (GPI) yn yr Unol Daleithiau gymaint ag £20 miliwn y flwyddyn, o fewn pum mlynedd o godi’r gwaharddiadau allforio.

Nawr yn fwy nag erioed mae’n bwysig archwilio marchnadoedd allforio eraill, gan warchod marchnadoedd hirsefydlog yn Ewrop ar yr un pryd. Mae’r newyddion y gallai’r gwaharddiad hwn gael ei godi’n fuan yn un a groesewir yn frwd gan ddiwydiant defaid y DU.

ii) Allforion caws y DU i fyny 17 y cant

Mae ffigurau diweddaraf CThEM yn awgrymu bod y DU wedi allforio cyfanswm o 2,300 tunnell o gaws yn ystod tri mis cyntaf 2021, sef cynnydd o 17 y cant ar 2020.

Er bod Brexit wedi amharu ar allforion caws i’r UE, cynyddodd yr allforion i Seland Newydd, Awstralia a De Korea o 26, 3 a thros 200 y cant, yn y drefn honno, yn ystod y chwarter cyntaf.

Fodd bynnag, gostyngodd cyfanswm allforion cynnyrch llaeth y DU yn ystod yr un cyfnod o’i gymharu â 2020, yn sgil y galw uchel ymhlith defnyddwyr cartref, a’r ffaith bod safleoedd gwasanaeth bwyd wedi cau ar y cyfandir.

iii) Llywodraeth y DU yn bwriadu cefnogi allforion bwyd

Yn dilyn cyhoeddiad ar Ddiwrnod Cefnogi Ffermio ym Mhrydain 2021, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cefnogi busnesau sy’n allforio bwyd a diod o’r DU drwy fenter newydd, sydd i’w lansio’n ddiweddarach eleni.

Bydd y fenter yn cynnwys penodi cynrychiolwyr bwyd-amaeth, i weithio tuag at sicrhau mynediad i farchnadoedd allforio newydd, sefydlu Cyngor Allforio Bwyd a Diod i weithio ar y strategaeth fewnforio ochr yn ochr â’r gwledydd cartref, ac ymgysylltu â ffermwyr a chynhyrchwyr i sicrhau eu bod yn elwa o gyfleoedd marchnata newydd.

Diweddariad ar daliadau RPW 2021

Bydd Taliadau Gwledig Cymru (RPW) yn dosbarthu Rhagdaliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2021 o 15 Hydref 2021, a fydd yn 70% o werth cyfanswm eich hawliad amcangyfrifedig. Sylwer na wneir y taliad o bosib os, er enghraifft, na chyflwynwyd y dogfennau ategol gofynnol, os oes anghydfod ar droed o ran y tir, os nodwyd tor-rheolau sylweddol yn ystod archwiliad, neu os oes yna faterion profiant sydd heb eu setlo.

Bydd y taliadau 30% sy’n weddill yn cael eu dosbarthu o 15 Rhagfyr 2021 cyn belled â bod yr hawliadau wedi’u dilysu’n llawn.

Mae’n bwysig hefyd, os cewch eich hysbysu gan RPW Ar-lein bod yna neges newydd yn eich cyfrif, eich bod yn mewngofnodi i’ch cyfrif i’w darllen, oherwydd mi all y neges fod yn gofyn am wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’ch hawliadau BPS, ac mi all peidio ag ymateb arwain at oedi cyn rhyddhau eich taliad.

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi newidiadau i brofion ôl-gerbydau a cherbydau HGV

Mae’n arbennig o amlwg mewn rhai ardaloedd o’r DU bod prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm (HGV) yn cael effaith ar y gadwyn cyflenwi bwyd.

Yn ôl y diwydiant Cludo Nwyddau a Logisteg mae’r prinder gyrwyr cerbydau HGV yn y DU wedi cynyddu o 45,000 yn 2016 i 76,000 erbyn heddiw.

Er bod yna nifer o resymau gwahanol am y prinder hwn, mae codi cyfyngiadau Covid-19 a system mewnfudo Brexit wedi rhoi pwysau mawr ar wasanaethau cludo nwyddau a logisteg.

Felly, yn dilyn ymgynghoriad diweddar, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd newidiadau’n cael eu cyflwyno i’r drefn ar gyfer profion ôl-gerbydau a cherbydau HGV, er mwyn cyflymu’r broses gymhwyso ar gyfer gyrwyr.

Ar hyn o bryd, ni chaiff unrhyw rai a basiodd eu prawf gyrru ar ôl 1af Ionawr 1997 dynnu unrhyw beth lle mae’r ôl-gerbyd a’r cerbyd tynnu dros 3,500 kg o Uchafswm Mas Awdurdodedig (MAM). I dynnu unrhyw beth dros y trothwy hwn, rhaid iddynt basio prawf car ac ôl-gerbyd (B+E).

UAC yn annog plant i ddylunio cerdyn Nadolig amaethyddol er budd elusen

Mae disgyblion ysgolion cynradd o bob rhan o Gymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio cerdyn Nadolig ar y thema ffermio ar gyfer cystadleuaeth cardiau Nadolig UAC.

Mae UAC yn gofyn i blant rhwng 4 ac 11 oed i ddylunio golygfa amaethyddol Nadoligaidd ar gyfer ei chardiau Nadolig, a fydd yn cael eu gwerthu i godi arian ar gyfer elusen yr Undeb sef y DPJ Foundation.

Caiff y gystadleuaeth ei rannu’n ddau gategori - yr ymgeiswyr Cymraeg a’r ymgeiswyr Saesneg. Gall y plant ddefnyddio unrhyw gyfrwng i greu eu cardiau, megis creonau, pensiliau lliw, peniau blaen ffelt neu baent i dynnu’r llun, ac mae’n rhaid defnyddio dalen A4 o bapur a’i e-bostio atom ar ffurf jpeg.

Yr unig amod yw bod yn rhaid iddo fod yn gerdyn Nadolig sy’n dangos golygfa amaethyddol.

Bydd enillydd pob categori yn derbyn tocyn anrheg gwerth £30 i’w hunain, pecyn o’r cardiau Nadolig yn dangos eu dyluniad, mynediad un diwrnod am ddim i Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2021 er mwyn derbyn eu gwobrau a siec gwerth £50 ar gyfer eu hysgol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 29ain Hydref 2021.

Mae angen i bob cynnig gynnwys enw, oedran, rhif dosbarth, enw’r ysgol a chyfeiriad cartref y disgybl a’i e-bostio at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Ydych chi wedi manteisio ar eich gostyngiad hyfforddiant diogelwch fferm?

Mae Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf wedi ymuno â Lantra i ddod â chwrs e-ddysgu diogelwch fferm arbennig i gymunedau gwledig.

Yn 2020-21, lladdwyd 41 o bobl mewn amaethyddiaeth a chofnodwyd oddeutu 12,000 o anafiadau difrifol. Mae gan bob marwolaeth ac anaf ganlyniadau difrifol sy'n newid bywyd unigolion, teuluoedd, busnesau a chymunedau, ac mae modd osgoi bron pob un ohonynt.


Er mwyn helpu i fynd i'r afael â chyfraddau uchel o farwolaeth ac anafiadau difrifol, mae Lantra wedi gweithio gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) i ddatblygu hyfforddiant sy'n fforddiadwy ac yn hygyrch i bob ffermwr. Mae'r cwrs e-ddysgu Diogelwch Fferm newydd yn canolbwyntio ar achosion mwyaf cyffredin damweiniau fferm, megis:

  • Cwympo o uchder
  • Damweiniau a achosir gan gerbydau sy’n symud
  • Sathru gan wartheg
  • Cysylltiad gyda pheiriannau
  • Boddi a mygu

HCC yn lansio adnoddau addysgol i ddangos sut mae cig coch Cymru’n cael ei gynhyrchu

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi lansio detholiad o adnoddau addysgol yn ddiweddar ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd.

Y bwriad yw bod yr adnoddau dwyieithog hyn yn cael eu defnyddio gan athrawon a gweithwyr iechyd proffesiynol, i helpu i ddangos sut mae cig coch yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, a’r buddiannau mae’n ei ddarparu o ran yr amgylchedd ac iechyd cyhoeddus.

Cafodd y cyflwyniadau, taflenni gwaith, fideos, posteri a llyfrynnau eu cynhyrchu drwy weithio gyda chyrff addysgol, i sicrhau eu bod yn berthnasol i gwricwlwm plant lefel sylfaen hyd at Gyfnod Allweddol 4 (TGAU).

Mae’n bwysig bod y genhedlaeth iau yn dysgu ble a sut mae eu bwyd yn cael ei gynhyrchu, a’u bod yn deall bod cig coch a gynhyrchir yng Nghymru’n fwy cynaliadwy o lawer na’r ffigurau a ddefnyddir ar raddfa fyd-eang.

Bydd yr adnoddau’n cael eu diweddaru’n barhaus i adlewyrchu newidiadau o fewn canllawiau iechyd ac addysg, ac maent ar gael i’w lawrlwytho am ddim yma: https://hwbcigcoch.cymru/

Llywodraeth Cymru’n lansio prosiect Amaethyddiaeth Mewn Amgylchedd a Reolir

Yn ddiweddar mae Llywodareth Cymru wedi lansio prosiect Amaethyddiaeth Mewn Amgylchedd a Reolir, sy’n anelu at gynyddu maint y bwyd a gynhyrchir yng Nghymru sy’n defnyddio technoleg newydd mewn ffordd sy’n gwneud cyfraniad positif tuag at daclo’r newid yn yr hinsawdd.

Bydd y prosiect yn cynorthwyo busnesau bwyd i ddefnyddio systemau megis hydroponeg, aeroponeg a ffermio fertigol, lle mae amodau tyfu megis dŵr a golau’n cael eu rheoli i sicrhau bod y cnwd yn tyfu gymaint â phosib.

Mi fydd hefyd yn cyfrannu at yr economi gylchol drwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy.

Er bod ffrwythau a cnydau’n anodd eu tyfu yng Nghymru a bod y tir sy’n briodol ar gyfer defnydd o’r fath yn gyfyngedig, bydd y prosiect hwn yn caniatáu i gynhyrchwyr gynhyrchu mwy drwy ddulliau sy’n helpu i liniaru’r newid yn yr hinsawdd.

Fodd bynnag, rhaid nodi mai un arf yn unig o blith llawer yw hwn ar gyfer cynnal a chynyddu maint y bwyd a gynhyrchir yng Nghymru, gan gyfrannu at yr ymdrech i liniaru’r newid yn yr hinsawdd a pharhau i gynnig sicrwydd bwyd.

Rhaglen Arloesi Porthiant Biomas BEIS

Mae Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiant y DU (BEIS) wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd £4 miliwn o’r gronfa arloesi sero net o £1 biliwn yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo sefydliadau i gynhyrchu mwy o borthiant biomas yn y DU.

Bydd cyfanswm o 24 o brosiectau’n derbyn cyllid o hyd at £200,000 yr un i gynyhyrchu mwy o biomas er mwyn creu mwy o ynni gwyrdd, menter a gydnabyddir gan Lywodraeth y DU fel rhan o’r ateb o ran taclo’r newid yn yr hinsawdd.

Gellir hefyd defnyddio deunyddiau biomas megis glaswellt, cywarch, gwastraff coed a gwymon i greu cemegau a bio-blastigau.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn £160,000 ar gyfer ei phrosiect Miscanspeed, sy’n edrych ar ffyrdd gwell o dyfu Miscanthus neu Hesg Eliffant toreithiog a gwydn sy’n addas ar gyfer cynhyrchu biomas yn y DU.

Gobeithir y bydd y strategaeth hon yn lleihau’r galw am gynnyrch biomas wedi’i fewnforio, ac y bydd y 24 o brosiectau’n cefnogi economïau a swyddi lleol.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Medi 2021

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau

Grant Busnes i Ffermydd

Bydd cyfnod newydd ar gyfer datgan diddordeb ar gyfer Grant Busnes i Ffermydd yn agor ar 1 Medi 2021 gyda chyllideb o £2 filiwn o'r cronfeydd Cynllun Datblygu Gwledig sy'n weddill.

Bydd ffermwyr yn gallu derbyn cefnogaeth i fuddsoddi mewn technoleg ac offer newydd i wella perfformiad y fferm.
 
Gofynnir i ymgeiswyr sicrhau bod yr eitemau ar gael o hyd i’w prynu o fewn 120 diwrnod os cynigir contract. Os nad ydynt, dylid cysylltu ag RPW i drafod y mater cyn derbyn y contract.

Bydd angen prynu’r holl eitemau erbyn diwedd Mawrth 2022.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://llyw.cymru/grant-busnes-i-ffermydd
1 Hydref 2021

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd.

Ceir mwy o wybodaeth yma:
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen

 
Rhaglen TGCh Cyswllt Ffermio Mae Cyswllt Ffermio nawr yn cynnig cyrsiau hyfforddiant TGCh i ddechreuwyr a dysgwyr canolradd.

Mae sesiynau un i un a gweithdai ar-lein ar gael hefyd ar integreiddio technoleg TGCh i’ch busnes fferm.

I archebu, cysylltwch â Lantra ar 01982 552646 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
 


Ffenestr Cais am Hyfforddiant Cyswllt Ffermio

Bydd ffenestr nesaf gwneud cais am hyfforddiant Cyswllt Ffermio’n agor ar 6ed Medi ac yn cau ar 29ain Hydref 2021.

Dylai’r rhai sy’n cofrestru am y tro cyntaf i wneud cais am gwrs hyfforddiant wedi’i ariannu, neu sydd angen diweddaru eu manylion cyfrif, gysylltu â Cyswllt Ffermio cyn 17:00 ar 25ain Hydref 2021.

Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn fuan ar wefan Cyswllt Ffermio: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy

29ain Hydref 2021

Y Llywodraethau’n cyhoeddi rheolau symud anifeiliaid llymach a gwaharddiad ar allforion byw

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar 18fed Awst y byddai’r rheolau o ran symud anifeiliaid yn cael eu tynhau’n sylweddol, serch bod y safonau mewn gwledydd eraill yn is o lawer na’r hyn sydd eisoes yn ofynnol yn y DU. Roedd y cyhoeddiad hefyd yn cadarnhau y byddai’r cynigion newydd yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â gwaharddiad ar allforio anifeiliaid byw i’w lladd.

Mae hyn yn dod wythnosau ar ôl i’r DU gytuno ar gytundeb masnach mewn egwyddor gydag Awstralia, a fydd yn caniatáu mewnforio meintiau enfawr o fwyd a gynhyrchwyd o anifeiliaid sy’n cael eu symud dan amodau sydd eisoes yn gwbl anghyfreithlon yn y DU.

Addawodd maniffesto 2019 y Ceidwadwyr “in all of our trade negotiations, we will not compromise on our high environmental protection, animal welfare and food standards,” ond dewisodd Llywodraeth y DU beidio â chynnwys y safonau hynny yn Neddf Amaethyddiaeth 2020, nac yn nhrafodaethau’r cytundeb masnach diweddar ag Awstralia, gan gytuno i gynnydd enfawr o ran mynediad di-dariff i gig eidion a chig oen o Awtralia, heb fawr ddim sicrwydd o ran safonau lles.

UAC i drafod manteision ac anfanteision cwotâu masnachu carbon

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi trefnu i drafod manteision ac anfanteision cyfyngu ar nifer y credydau carbon y gellir eu gwerthu o dir Cymru, cwotâu masnachu carbon, a dulliau eraill y gellid eu defnyddio yng Nghymru.

Yn ystod cyfarfod diweddar o Bwyllgor Defnydd Tir a Materion Seneddol UAC, mynegodd yr aelodau bryder difrifol y gallai cyfran fawr o’r carbon sydd wedi’i ddal a’i storio yn nhir Cymru gael ei werthu i wledydd eraill a chwmnïau tu allan i Gymru, gan danseilio gallu amaethyddiaeth yng Nghymru, a hyd yn oed Cymru gyfan,i fod yn garbon niwtral.

Hefyd, cyfeiriodd yr aelodau at y pryderon presennol bod ffermydd yng Nghymru’n cael eu prynu gan gwmniau o’r tu allan i Gymru, er mwyn elwa ar garbon Cymru. Cafodd pryderon o’r fath sylw’n ddiweddar mewn adroddiad gan y BBC, a ddatgelodd fod dwsin o ffermydd wedi’u prynu yng Nghanolbarth Cymru gan gwmnïau o’r tu allan i’r wlad, a oedd yn bwriadu plannu coed ar y tir yn bennaf.

Cytunodd y pwyllgor y dylid cyflwyno system gwota i leihau’r perygl hwn, a chytunwyd y dylai Cadeiryddion holl Bwyllgorau UAC a’r Tîm Llywyddol gynnal trafodaeth fanwl ar fanteision ac anfanteision cyfyngiadau o’r fath, mewn cyfarfod dilynol o Dîm Polisi Llywyddol UAC.

Pwyllgor Iechyd a Lles UAC yn ymateb i Ymgynghoriad Safonau FAWL

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) gyfarfod brys ar 28ain Gorffennaf 2021 i drafod a llunio ymateb i ymgynghoriad Safonau Cynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL) 2021.

Roedd yn ymgynghoriad yn cynnig gwneud hi’n orfodol i filfeddygon gofnodi data defnydd o wrthfiotigau drwy gyfrwng cyfrifiannell ar-lein, ynghyd â safonau amgylcheddol llymach, i enwi ond ychydig.

Gwnaeth UAC hi’n glir nad oedd pedair wythnos, yn ystod un o’r adegau prysuraf o’r flwyddyn yn y calendr ffermio, yn hanner digon o amser i ddeuddeg Pwyllgor Gweithredol Sirol yr Undeb drafod y cynigion a llunio ymateb llawn a democrataidd, ac felly gwnaeth gais i ymestyn y dyddiad cau.

Mae mwyafrif y cynhyrchwyr cig oen a chig eidion yng Nghymru â gwarant FAWL, ac er ei fod yn gynllun gwirfoddol i lawer, mae’n orfodol ar gyfer cytundebau llaeth y rhan fwyaf o ffermwyr llaeth, ac felly mae angen rhoi ystyriaeth deilwng i bwysigrwydd newidiadau i safonau o’r fath.

Roedd Pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid UAC yn cefnogi’r syniad o gasglu data defnydd o wrthfiotigau, er mwyn cynhyrchu llinell sylfaen genedlaethol o’r defnydd o wrthfiotigau, i ffermwyr da byw yng Nghymru ei defnyddio fel meincnod, ac er mwyn i’r diwydiant ddangos sut mae’n ymdrechu i leihau defnydd o wrthfiotigau.

UAC yn pwysleisio pwysigrwydd lladd-dai bach mewn ymateb i ymgynghoriad yr ASB

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi pwysleisio pwysigrwydd cefnogi lladd-dai bach a chanolig mewn ymateb i ymgynghoriad rhanddeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar gynigion cynnar ar gyfer model cyflenwi yn y dyfodol.

Mae’r ymgynghoriad yn gosod cynigion o ran sut y dylai model cyflenwi’r dyfodol symud i ffwrdd o’r dull safonedig presennol, a thuag at ffordd o weithio sydd wedi’i moderneiddio a’i thargedu i wella dulliau o gydymffurfio a dosbarthu adnoddau.

Roedd UAC o blaid y cynigion o ran presenoldeb wedi’i deilwra ar gyfer Gweithredwyr Busnes Bwyd gyda lefelau amrywiol o gydymffurfio, gwahanol reolau ar gyfer cyflenwyr marchnadoedd domestig a/neu farchnadoedd allforio, a chasglu data mwy cywir. Serch hynny, roedd pryder o hyd ynghylch sut y gallai newidiadau o’r fath effeithio ar ddiogelwch bwyd, a chynyddu costau i Weithredwyr Busnes Bwyd bach a chanolig.

Yn ôl adroddiad diweddar gan y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Les Anifeiliaid roedd yna 30,000 o ladd-dai yn y DU yn 1930, ond erbyn 2017 dim ond 249 oedd ar gael, ac roedd 56 o’r rheiny’n lladd-dai cig coch bach.

Gwlân Prydain yn lansio cynllun olrhain gwlân

Mewn ymdrech i gynnig taliad premiwm i gynhyrchwyr gwlân y DU, mae Gwlân Prydain wedi lansio menter yn ddiweddar sy’n anelu at olrhain y gwlân o gât y fferm hyd at y cynnyrch terfynol.

Yn sgil cau marchnadoedd gwlân ar draws y byd oherwydd pandemig Covid-19, gadawyd Gwlân Prydain gyda thua 7 miliwn cilogram o stoc heb ei werthu, o gyfanswm cneifiad o 27 miliwn cilogram yn 2019/20. Roedd hyn yn golygu bod cynhyrchwyr yn derbyn tâl cyfartalog o 17 ceiniog y cilogram am gneifiad tymor 2019/20, tua 70% yn is a’r tâl a gafwyd yn 2019.

Er bod Gwlân Prydain wedi llwyddo i glirio pentwr stoc y llynedd a bod y prisiau felly wedi dechrau codi eto, ni ddisgwylir i brisiau ddychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig tan 2022.

Bydd y cynllun olrhain gwlân newydd yn caniatáu i ddefnyddwyr ddeall y broses sy’n rhaid i wlân fynd trwyddi cyn cyrraedd y silffoedd, ond bydd hefyd yn cynhyrchu pris premiwm ar gyfer cynhyrchwyr cymwys, ac yn helpu i adfer prisiau gwlân yn dilyn pandemig Covid-19.

Rhagwelir y bydd dros hanner miliwn o gilogramau o wlân y gellir ei olrhain yn cael ei werthu yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun, gan gynnwys i Devon Duvets a Harrison Spinks, a hynny o dri o ddepos mwyaf Gwlân Prydain, sef Bradford, Y Drenewydd a South Molton.

Crynodeb o newyddion Awst 2021

i) Asiantaeth yr Amgylchedd yn cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer tail organig yn Lloegr

Mewn ymdrech i roi mwy o amser i ffermwyr yn Lloegr i addasu i’r ‘Farming Rules for Water’ a gyflwynir yn 2022, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi Datganiad o’r Sefyllfa Reoleiddiol (RPS) 252, sy’n gosod canllawiau llym ar gyfer gwasgaru tail organig.

Er y bydd ffermwyr yn cael gwasgaru tail organig tu hwnt i anghenion uniongyrchol y cnwd, ond nid tu hwnt i anghenion y cylchdro cnwd cyfan, bydd gofyn iddynt ddangos mai gwasgaru yw’r unig opsiwn gwaredu sydd ar gael.

O 1af Mawrth 2022, bydd yr eithriadau hyn yn dod i ben ac ni chaniateir gwasgaru tail os yw’n mynd tu hwnt i anghenion y cnwd, neu os yw’n creu perygl difrifol o lygru dŵr.

ii) Ffermwyr yn Lloegr yn amheus o’r Cynllun Creu Coetir newydd

Mae’r Cynllun Creu Coetir newydd yn Lloegr (EWCO) wedi derbyn tua £16 miliwn o gyllid i annog ffermwyr a rheolwyr tir i blannu mwy o goed a chwrdd â thargedau Llywodraeth y DU.

Fodd bynnag, yn ôl pôl piniwn a gynhaliwyd gan y Fforwm Ffermio byddai 59% o’r ymatebwyr yn amheus o unrhyw gynllun plannu coed gan y Llywodraeth. Ymddengys mai nod y cynllun yw creu planhigfeydd coedwigaeth mawr heb roi ystyriaeth i newidiadau yng ngwerth y tir, cyfyngiadau ar droi tir yn ôl yn laswelltir, neu fentrau plannu coed eraill megis agro-goedwigaeth.

iii) Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr yn ennill statws Dynodiad Daearyddol (GI)

Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr yw cynnyrch bwyd cyntaf y DU i ennill statws gwarchodedig drwy’r cynllun Dynodiad Daearyddol (GI) newydd, a gyflwynwyd ar ôl i gyfnod pontio Brexit ddod i ben.

Bydd cael cydnabyddiaeth fel cynnyrch Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO) yn caniatáu i gynhyrchwyr cig oen ar Benrhyn Gŵyr i arddangos a gwarchod arferion amaethyddol traddodiadol a nodweddion unigryw'r cig.

Erbyn hyn mae cyfanswm o 17 cynnyrch GI gwarchodedig yng Nghymru.

Diweddariad ar werthoedd yr Hawliad BPS a Chytundebau Glastir

Mae gwerth yr hawliad BPS ar gyfer 2021 yn £116.86, ac ymddengys ei fod felly tua 4% (£5.30) yn is na chyfanswm cyfun y gwerthoedd BPS a’r taliadau gwyrdd ar gyfer 2020, oedd yn £122.16.

Yn dilyn sicrwydd blaenorol y byddai cyllideb y BPS ar gyfer 2021 yn darparu’r un lefel o daliadau uniongyrchol i ffermwyr yn 2021 ag a ddarparwyd yn 2020, mi nath UAC gofyn i RPW egluro pam fod gwerth yr hawliad yn is na’r disgwyl.

Mewn ymateb, mae Taliadau Gwledig Cymru wedi egluro "Mewn blynyddoedd blaenorol, cyfrifwyd y taliad Gwyrddu a ddyrannwyd i bob hawlydd cymwys yn seiliedig ar yr hawliau wedi’i actifadu mewn blwyddyn gynllun penodol. Ar gyfer 2021 mae'r gyllideb Wyrddio flaenorol wedi'i hymgorffori'n llawn yng nghyllideb hawliau BPS, fodd bynnag, mae gwerth y gyllideb Gwyrddu wedi'i ddosbarthu ar hyn o bryd ar draws yr holl hawliau sydd ar ein cofrestr, ac nid dim ond y rhai sydd wedi'u hactifadu yn unig."

“Cyn gwneud taliadau BPS 2021 byddwn yn ystyried yr holl hawliau a ddelir nad ydynt wedi'i hawlio, ynghyd â gwerth y Gronfa Genedlaethol sydd heb ei hawlio a byddwn yn cynyddu gwerth yr hawliau wedi’i actifadu. Yna bydd hawlwyr BPS 2021 yn gweld gwerth eu hawliau'n cynyddu a thaliad BPS yn unol â'r hyn a dderbyniwyd ar gyfer 2020."

Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys y taliad wedi’i ailddosbarthu a delir ar 54 hectar cyntaf unrhyw hawliad.

Cafodd y mater o ymestyn cytundebau Glastir ei gynnwys mewn papur cynigion polisi a anfonwyd yn ddiweddar at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, mewn perthynas â Chynllun Datblygu Gwledig Cymru a ariannir yn ddomestig.

Diwygio Safonau Tractor Coch Fersiwn 5

Yn dilyn ymgynghoriad yn gynharach eleni, mae’r cynllun Tractor Coch wedi diwygio Safonau Fersiwn 5 ar gyfer y pum sector gwahanol.

Mae mwyafrif y safonau amgylcheddol arfaethedig wedi’u cadw’n ôl am y tro nes daw’r ddeddfwriaeth derfynol ar ddiogelu’r amgylchedd yng Nghymru a Lloegr.

Bydd angen storio gwrtaith nitrogen yn ddiogel ac o’r golwg, yn hytrach na’i gloi dan do fel y cynigiwyd yn wreiddiol, a bydd gofyn i gynhyrchwyr gadw cofnod o’r cyfrifiadau stori slyri diweddaraf.

Yn nhermau personél, bydd yn ofynnol i staff newydd gael sesiwn sefydlu, a bydd angen cadw cofnod o hynny, gan gynnwys esboniad o’r polisïau iechyd a diogelwch, a’r llinellau adrodd mewn perthynas â rheoli. Hefyd, bydd angen i bob fferm gael polisi iechyd a diogelwch.

Mae’r safonau personél ac amgylcheddol na chafwyd eu cynnwys yn safonau diwygiedig Fersiwn 5 wedi dod yn safonau ‘modiwlaidd’, a fydd yn caniatáu i’r cynhyrchydd a phroseswr neu brynwr y llaeth i gytuno ar y rhai maent am eu cynnwys fel rhan o’u sicrwydd fferm

O ran meddyginiaethau anifeiliaid, bydd gofyn i un aelod staff ymgymryd ag hyfforddiant meddyginiaethau anifeiliaid, a dylid nodi hynny yn y cofnodion hyfforddiant fferm, ond gellir ei ‘sianelu’ i aelodau staff eraill, gan gadw cofnod o hynny.

Lansio Cod Ymarfer NAAC ar gyfer dipio defaid symudol

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi cefnogi gwaith Cymdeithas Genedlaethol y Contractwyr Amaethyddol (NAAC), mewn cydweithrediad â Rheoli Paraseitiaid ar Ddefaid mewn Ffordd Gynaliadwy (SCOPS), i gynhyrchu Cod Ymarfer newydd ar gyfer dipio defaid symudol.

Mae’r clafr yn bresennol yn tua chwarter y preiddiau defaid yng Nghymru ac mae’n costio tua £12 miliwn i’r diwydiant bob blwyddyn.

Gweithiodd UAC gyda Grŵp Diwydiant y Clafr i gyflwyno adroddiad gan y diwydiant ar y clafr i Lywodraeth Cymru yn 2018, a oedd yn cydnabod yr angen am driniaeth gydweithredol ar draws eiddo cyfagos, ac yn amlinellu rhaglen ar gyfer rheoli’r clafr a fyddai’n cynyddu’r tebygolrwydd o ffermydd cyfagos yn gweithio gyda’i gilydd i gael gwared â’r clafr, drwy ddulliau mwy holistig ac ymarferol.

Serch y cynllun peilot am ddim ar gyfer profi samplau o grafiadau croen, mae’r diwydiant eto i dderbyn y £5.1 miliwn a addawyd ar gyfer rhaglen ddileu, dros ddwy flynedd yn ôl bellach.

Er bod dipio defaid yn parhau i fod yn arf hanfodol i lawer o ffermwyr yng Nghymru i atal y clafr, mae’n hollbwysig ei fod yn cael ei gyflawni mewn ffordd broffesiynol, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Cynhyrchwyd y canllaw hwn i atgoffa ffermwyr, contractwyr a rhagnodwyr o’u cyfrifoldebau.

Mae’r Cod Ymarfer ar gael yma: https://www.naac.co.uk/wp-content/uploads/2021/07/Industry-Sheep-Dip-Code-of-Practice.pdf

Adnoddau NADIS ar gael drwy wefan UAC

Atgoffir aelodau UAC bod adnoddau’r Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Glefydau Anifeiliaid (NADIS) ar gael yn adran aelodau gwefan UAC.

Bob mis, llwythir gweminarau newydd ar iechyd anifeiliaid, asesiadau risg a bwletinau defaid a gwartheg, er mwyn i aelodau UAC gael mynediad hwylus atynt yma: https://www.fuw.org.uk/en/members/nadis

Ar gyfer Awst:
Gweminar – Maeth y ddafad cyn cael hwrdd hyd at feichiogrwydd cynnar
Asesiad Risg – Llyngyr yr afu/iau mewn defaid
Bwletin Defaid – Diffygion elfennau hybrin
Bwletin Gwartheg - Erthylu

FCN yn chwilio am wirfoddolwyr newydd ledled Cymru

Mae Rhwydwaith Cymunedau Fferm (FCN) Cymru’n chwilio am wirfoddolwyr newydd ar draws Powys, Ceredigion, Sir Fynwy, Sir Benfro a Gogledd Cymru, i ateb y galw cynyddol am gymorth ar gyfer cymunedau ffermio yn ystod cyfnodau ansicr.

Mae gan FCN linell gymorth gyfrinachol, sef 03000 111 999, sydd ar agor o 7am hyd 11pm 365 diwrnod y flwyddyn, a’r llynedd mi lansiodd y rhwydwaith ei blatfformau FarmWell Wales a FarmWell Cymru newydd, sy’n cynnig gwybodaeth ddefnyddiol ar bynciau megis olyniaeth ar gyfer ffermwyr yng Nghymru.

Yn ddiweddar hefyd maent wedi lansio’u modiwlau hyfforddiant Rural+ mewn cydweithrediad â Sefydliad DPJ a Ffederasiwn Cenedlaethol y Clybiau Ffermwyr Ifanc, i helpu’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr i reoli’u hiechyd meddwl eu hunain, yn ogystal â chynorthwyo eraill o fewn y sector ffermio.

Bob blwyddyn mae FCN yn helpu tua 6,000 o bobl.

Os hoffech chi wybod mwy am wirfoddoli gydag FCN, ewch i’w gwefan yma: https://fcn.org.uk/gwirfoddoli-gyda-fcn/?lang=cy

Cynllun Grant Buddsoddi mewn Coetir Llywodraeth Cymru

Mae’r Cynllun Grant Buddsoddi Mewn Coetir ar agor erbyn hyn ar gyfer ceisiadau gan berchnogion tir a’r rhai sydd â rheolaeth lawn o dir.

Mae’r cynllun yn darparu grantiau llawn ar gyfer gwella ac ehangu coetiroedd presennol a chreu coetiroedd newydd, fel rhan o ‘Goedwig Genedlaethol’ y dyfodol.

Rhaid bod gan y coetir elfen o fynediad i’r cyhoedd neu ymgysylltu cymunedol er mwyn bod yn gymwys, a gellir cyfuno cyllid y grant hwn gyda grant Creu Coetir Glastir neu fuddsoddiad preifat.

Mae eitemau cyfalaf cymwys yn amrywio o brynu coed, paratoi’r safle e.e.ffensio, offer a chyfarpar graddfa fach ar gyfer cyflenwi’r prosiect h.y. ffioedd ymgynghori.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 27ain Awst 2021 drwy RPW Ar-lein, ac mae angen i unrhyw gydsyniad neu ganiatâd angenrheidiol, megis asesiadau o’r effaith amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio, fod yn eu lle cyn gwneud cais.

Uchafswm y grant a ddyfernir fesul cais yw £250,000 a’r lleiafswm yw £10,000.

Arolwg o wahanol arferion pori ar gyfer defaid a gwartheg

Mae ADAS, ar ran Defra, yn cynnal arolwg byr o’r gwahanol arferion pori a fabwysiadir gan ffermwyr defaid a gwartheg ledled y DU.

Bydd canlyniadau’r arolwg yn helpu i bennu nodweddion systemau pori gwahanol, a deall y pethau sy’n rhwystro neu’n caniatáu mabwysiadu technegau newydd, megis pori mewn cylchdro neu bori padogau.

Am bob arolwg a gwblheir, bydd ADAS yn cyfrannu £2 i’r Sefydliad Amaethyddol Llesiannol Brenhinol (RABI), hyd at uchafswm o £500.

Ceir mwy o wybodaeth a’r arolwg yma: https://adas-survey.onlinesurveys.ac.uk/cattle-and-sheep-grazing-practices-survey-final

Cyswllt Ffermio’n lansio rhaglen deledu fisol

Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio rhaglen deledu fisol, hanner awr o hyd, yn arbennig ar gyfer ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru ar YouTube.

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar arfer gorau, cydymffurfio, ac effeithlonrwydd, drwy ddangos sut mae rhai o’r ffermydd gorau yng Nghymru, gan gynnwys rhai o ffermydd arddangos Cyswllt Ffermio, yn paratoi ar gyfer dyfodol cynaliadwy a phroffidiol.

Bydd y rhaglen yn cynnwys cymysgedd o ffermydd llaeth, cig eidion a defaid o bob cwr o Gymru, yn ogystal â systemau arloesol sy’n defnyddio technoleg newydd, a rhai sydd wedi arallgyfeirio busnes y fferm i gynhyrchu incwm ychwanegol.

Tra bod themâu megis seilwaith, arloesedd ac arallgyfeirio wedi’u trefnu eisoes ar gyfer Gorffennaf, Awst a Medi yn eu tro, bydd penodau’r dyfodol yn canolbwyntio ar destunau ehangach megis iechyd anifeiliaid a rheoli glaswelltir.

Bydd pob pennod newydd yn cael ei llwytho ar sianel Youtube FCTV ar ddydd Llun olaf bob mis: https://www.youtube.com/channel/UCxYH2RRebW271MBuNfbSRgQ

System Rhybudd Cymunedol ar-lein Heddlu Gogledd Cymru

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio system rhybudd cymunedol newydd sy’n caniatáu i gymunedau Gogledd Cymru gael y newyddion plismona lleol diweddaraf.

Mae’r system wedi’i hariannu fel rhan o Gronfa Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref, ac mae’n cael ei defnyddio gan heddluoedd eraill yn y DU ar hyn o bryd, gyda chanlyniadau positif.

Y nod yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gymunedau am y ffordd mae’r heddlu’n delio â materion penodol, a gwneud i bobl deimlo’n fwy diogel yn eu hardaloedd.

Gall unigolion dderbyn y newyddion diweddaraf, rhybuddion, digwyddiadau ymgysylltu a gweithgareddau plismona cyffredinol drwy ebost, neges destun neu neges llais, heb yr angen am gysylltiad rhyngrwyd. Mae hefyd yn gweithredu fel platfform arall i gymunedau wneud sylwadau neu fynegi pryderon i’r heddlu.

I gael mwy o wybodaeth ac y gofrestru am ddim, ewch i: https://www.rhybuddcymunedolgogleddcymru.co.uk/

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Awst 2021

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau

Grant Busnes i Ffermydd

Bydd cyfnod newydd ar gyfer datgan diddordeb ar gyfer Grant Busnes i Ffermydd yn agor ar 1 Medi 2021 gyda chyllideb o £2 filiwn o'r cronfeydd Cynllun Datblygu Gwledig sy'n weddill.

Bydd ffermwyr yn gallu derbyn cefnogaeth i fuddsoddi mewn technoleg ac offer newydd i wella perfformiad y fferm.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://llyw.cymru/grant-busnes-i-ffermydd
1 Medi - 1 Hydref 2021

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd.

Ceir mwy o wybodaeth yma:
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen

 
Rhaglen TGCh Cyswllt Ffermio Mae Cyswllt Ffermio nawr yn cynnig cyrsiau hyfforddiant TGCh i ddechreuwyr a dysgwyr canolradd.

Mae sesiynau un i un a gweithdai ar-lein ar gael hefyd ar integreiddio technoleg TGCh i’ch busnes fferm.

I archebu, cysylltwch â Lantra ar 01982 552646 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
 

Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig Anamaethyddol – Ffenestr 2

Mae'r RBIS (Anamaethyddol) yn cyfrannu at gostau buddsoddi cyfalaf ac yn cefnogi  prosiectau yng Nghymru sy'n cyfrannu at un neu ragor o’r canlynol:

  • arallgyfeirio’r economi wledig, 
  • datblygu’r gadwyn gyflenwi ar gyfer cynnyrch naturiol, 
  • gwneud busnesau gwledig yn fwy cynhyrchiol, effeithiol a chystadleuol. 
  • Mae'r cynllun yn cael helpu cwmnïau anamaethyddol micro a bach, hen a newydd  ledled Cymru, gan gynnwys ffermwyr neu aelodau aelwydydd fferm sy’n arallgyfeirio i weithgareddau anamaethyddol.

Bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos bod marchnad hyfyw i'w cynnyrch ac na fyddai'r  prosiect yn gallu mynd rhagddo heb y grant. Cynllun ar sail disgresiwn yw hwn.

Cyfradd uchaf y grant a gynigir i unrhyw brosiect buddsoddi unigol fydd 40% o gyfanswm y costau.

Trothwy uchaf y grant ar gyfer pob cais newydd gan unrhyw brosiect buddsoddi unigol  yw £50,000 a’r trothwy isaf yw £5,000.

Mae rhagor o wybodaeth ac sut i wneud cais yma: https://llyw.cymru/cynllun-buddsoddi-mewn-busnesau-gwledig-an-amaethyddiaeth

 20 Awst 2021


Ffenestr Cais am Hyfforddiant Cyswllt Ffermio

Bydd ffenestr nesaf gwneud cais am hyfforddiant Cyswllt Ffermio’n agor ar 6ed Medi ac yn cau ar 29ain Hydref 2021.

Dylai’r rhai sy’n cofrestru am y tro cyntaf i wneud cais am gwrs hyfforddiant wedi’i ariannu, neu sydd angen diweddaru eu manylion cyfrif, gysylltu â Cyswllt Ffermio cyn 17:00 ar 25ain Hydref 2021.

Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn fuan ar wefan Cyswllt Ffermio: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy

6ed Medi – 29ain Hydref 2021

Llywodraeth Cymru’n gosod cynlluniau i gynyddu targedau plannu coed


Mewn datganiad ysgrifenedig diweddar gan Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, datgelwyd bod Llywodraeth Cymru’n bwriadu cynyddu targedau plannu coed i 5,000 o hectarau’r flwyddyn. Targedau blaenorol Llywodraeth Cymru oedd 2,000 o hectarau’r flwyddyn, gan godi i 4,000ha cyn gynted â phosib.

Yn ôl y Gweinidog, mae angen i Gymru blannu 180,000 o hecatarau erbyn 2050 yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Y llynedd dim ond 290ha o goetir a blannwyd yng Nghymru. Galwodd y Dirprwy Weinidog hyn yn ‘alwad i’r gad’ er mwyn cwrdd ag ymrwymiadau newid hinsawdd, yn ogystal â sicrhau amrywiaeth eang o fuddiannau i Gymru.

Mae Tasglu Coed hefyd wedi canfod bod “cyllid presennol Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhy anghyson ac yn anodd cael mynediad ato. Serch ei bod hi’n bwysig sicrhau bod coetiroedd newydd yn cael eu plannu yn y llefydd iawn ac yn y ffordd iawn, mae’r broses ar gyfer gwneud hynny’n rhy araf a biwrocrataidd.”

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y bydd y targedau diwygiedig hyn yn cael eu cyflawni gan gymunedau, ffermwyr a pherchnogion tir eraill ledled Cymru, yn hytrach na bod coetiroedd newydd yn cael eu plannu gan Lywodraeth Cymru.

Dros y ddwy flynedd nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £17 miliwn ar gyfer ffenestri newydd y cynllun Creu Coetir Glastir, a bydd Cynllun Gweithredu Coetiroedd i Gymru newydd yn cael ei lansio’n nes ymlaen eleni.

Mantais gystadleuol i ffermwyr yr UE dros gynhyrchwyr y DU

Dros y pum mlynedd diwethaf mae FUW wedi tynnu sylw’n gyson at bryderon y bydd y rhaniad rhwng polisïau a chyllid amaethyddol y DU a’r UE yn rhoi mantais gystadleuol i ffermwyr yr UE - ac yng ngoleuni diwygiadau PAC diwethaf yr UE, mae sylwebwyr eraill yn adleisio’r pryderon hynny erbyn hyn yn ôl y Farmers Weekly.

Fel rhan o fframwaith a gytunwyd gan lunwyr polisïau ym Mrwsel ar 25ain Mehefin, bydd aelod-wladwriaethau’r UE yn cael mwy o hyblygrwydd o ran cefnogi ffermwyr dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC), unwaith ei fod wedi’i droi’n ddeddfwriaeth.

Serch bod y cyfnod PAC pum mlynedd newydd yn dechrau ar 1af Ionawr 2023, bydd yn rhaid i Lywodraethau Ewropeaidd gyflwyno’u cynlluniau strategol cenedlaethol eu hunain ar gyfer cwrdd ag amcanion newydd y PAC erbyn diwedd 2021.

Fel rhan o’r broses hon o ddiwygio’r PAC, bydd aelod-wladwriaethau’n dal i allu gwneud taliadau uniongyrchol i ffermwyr gweithredol, gan ddefnyddio £163 biliwn (tua 70%) o’r gyllideb PAC gyfan.

Fodd bynnag, bydd o leiaf 25% o’r gyllideb taliadau uniongyrchol – tua £41 biliwn – yn cael ei osod o’r neilltu ar gyfer ‘cynlluniau eco’, gan gynnwys ffermio organig, amaethecoleg a rheoli plâu.

Llywodraeth Cymru’n addo cynnal cyllid y Taliad Sylfaenol (BPS) yn 2022

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud addewid i gadw’r un gyllideb ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) yn 2022.

Cadarnhawyd hyn gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd, mewn ymateb i gwestiwn gan Cefin Campbell AS, llefarydd materion gwledig Plaid Cymru.

Fodd bynnag, mae’r ymrwymiad o ran ffermwyr yn cael eu talu ar yr un gyfradd â 2019 yn parhau i fod yn amodol ar y cyllid mae Llywodraeth Cymru’n ei dderbyn gan Lywodraeth y DU, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn yr hydref.

Hefyd, pwysleisiodd Mr Campbell fod tua 40% o’r gyllideb o £838 miliwn ar gyfer Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2022 heb ei wario o hyd, ond ymatebodd y Gweinidog drwy ddweud ei bod hi’n hyderus o hyd y byddai’r £362 miliwn sydd ar ôl yn cael ei wario cyn y dyddiad cau yn Rhagfyr 2023.

Mae FUW yn annog Llywodraeth Cymru i gyhoeddi ei phenderfyniad ar yr estyniad i gytundebau Glastir cyn gynted â phosib, o ystyried bod tua chwarter ffermwyr Cymru’n dibynnu ar gynlluniau amaeth-amgylcheddol o’r fath am gymorth i warchod a gwella’r amgylchedd.

Sefydliad Tir Comin yn condemnio Defra am beidio â chynnwys glaswelltir mewnbwn isel a glaswelltir heb ei wella yng Nghymhelliad Ffermio Cynaliadwy Lloegr

Mae’r Sefydliad Tir Comin wedi condemnio penderfyniad Defra i beidio â chynnwys glaswelltir mewnbwn isel a glaswelltir heb ei wella yn ei Gymhelliad Ffermio Cynaliadwy – cynllun sydd i fod i bontio’r trawsnewid o’r ‘hen’ system taliadau BPS i daliadau nwyddau cyhoeddus newydd y cynllun Rheoli Tir er Lles yr Amgylchedd (ELM) yn Lloegr.

Dan Gynllun Trawsnewid Amaethyddiaeth Defra, bydd ffermwyr yn Lloegr sydd â hawliad o £30,000 neu lai yn wynebu cwtogiad o 5 y cant yn eu Taliad Sylfaenol yn 2021, yna 20 y cant pellach yn 2022, 35 y cant yn 2023, a 50 y cant yn 2024. Bydd taliadau uwch yn cael eu cwtogi’n llymach o lawer.

Gyda’r gwaith ar gynllun ELM Lloegr yn ei ddyddiau cynnar o hyd, pwrpas y Cymhelliad Ffermio Cynaliadwy oedd llenwi’r bylchau a grëwyd gan y cwtogi yn y taliadau BPS.

Fodd bynnag, serch ymrwymiad Defra i sicrhau bod pob ymgeisydd BPS yn Lloegr yn gallu gwneud cais, gan gynnwys y rhai mewn Cynlluniau Stiwardiaeth presennol, ni chafodd glaswelltir mewnbwn isel a glaswelltir heb ei wella, sef rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt mwyaf gwerthfawr Lloegr, eu cynnwys.

Crynodeb o newyddion Gorffennaf 2021

i) Defra’n addo cynnydd o 30% yn y taliadau i wella iechyd pridd

Cyhoeddodd y Gwir Anrhydeddus George Justice AS, Ysgrifennydd Gwladol Yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig San Steffan y cyfraddau talu ar gyfer y Cymhelliad Ffermio Cynaliadwy newydd yn ystod digwyddiad Cereals 2021.

Bydd y rhai sy’n ymuno â’r Cymhelliad yn cael eu talu oddeutu £26 yr hectar am y math mwyaf sylfaenol o reolaeth pridd, a hyd at £70 yr hectar am gynyddu deunydd organig pridd. Yn ôl Mr Eustice “This roughly equates to a 30% uplift on what would have been the case had the old EU methodology been applied” .

Fodd bynnag, credir bod ffermydd llai a ffermwyr garddwriaethol yn annhebygol o elwa, a bydd angen i ffermwyr chwilio am ffrydiau refeniw eraill wrth i’r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) gael ei ddiddymu’n raddol.

ii) Ymwybyddiaeth defnyddwyr o amaethyddiaeth atgynhyrchiol

Yn ôl holiadur a gwblhawyd yn ddiweddar gan AHDB ac YouGov, dim ond 14% o ddefnyddwyr Prydain sydd wedi clywed am amaethyddiaeth atgynhyrchiol, ond mae rhai 16-44 oed yn fwy ymwybodol (16%) na rhai dros 45 oed (13%).

Mae defnyddwyr yng Nghymru hefyd yn fwy tebygol o fod wedi clywed am amaethyddiaeth atgynhyrchiol (21%) o’i gymharu â’r cyfartaledd ar draws y DU (14%).

Mae 73% o ddefnyddwyr yn credu bod ffermwyr a thyfwyr Prydain wedi gwneud gwaith da’n cynhyrchu bwyd ar gyfer defnyddwyr yn ystod pandemig Covid-19.

iii) Cymeradwyo pedwerydd safle prosesu cig eidion DU ar gyfer allforio i’r Unol Daleithiau

Y Foyle Food Group yn Swydd Gaerloyw yw’r pedwerydd safle prosesu cig eidion yn y DU i gael ei gymeradwyo ar gyfer allforio i’r Unol Daleithiau dan y rhestr USDA Gymeradwy.

Mae’r DU wedi allforio gwerth dros £3 miliwn o gig eidion i’r Unol Daleithiau ers cael mynediad at y farchnad eto yn 2020, wrth i brisiau cig eidion godi yn yr Unol Daleithiau ac wrth i ddefnyddwyr fynnu cynnyrch o safon uwch.

FUW yn tynnu sylw at faterion allweddol yn ystod Sioe Frenhinol Cymru rithwir

Bu Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf. yn trafod a thynnu sylw at llawer o'r materion pennaf sy’n effeithio ar y diwydiant amaeth drwy gyfres o weminarau yn ystod Sioe Frenhinol Cymru rithwir.

Roedd pynciau’r gweminarau’n amrywio o’r argyfwng tai yng nghefn gwlad, y newid yn yr hinsawdd, iechyd meddwl, cysylltedd digidol, a diogelwch fferm.

I’r rhai a fethodd eu mynychu yn ystod wythnos y sioe, maent ar gael i’w gwylio yn adran aelodau gwefan FUW a thudalennau digwyddiadau Sioe Frenhinol Cymru.

Bu cymunedau gwledig ar draws y Deyrnas Unedig dan bwysau oherwydd perchnogaeth ail gartrefi a’r effeithiau cysylltiedig ers degawdau, yn arbennig mewn ardaloedd ‘pot mêl’ megis Parciau Cenedlaethol.
Fodd bynnag, mae’r pandemig coronafeirws wedi cyflymu’r duedd, gan achosi chwyddiant cyflym ym mhrisiau tai a rhoi tai gwledig hyd yn oed ymhellach y tu hwnt i gyrraedd ariannol cymunedau gwledig ac amaethyddol.

RHWG yn gosod targedau ar gyfer dileu rhai clefydau anifeiliaid

Mae’r Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil (RHWG) wedi gosod targedau‘n ddiweddar i ddileu y clafr a BVD ar draws y DU erbyn 2031, yn ogystal â nodau eraill, mewn gweithdy a gynhaliwyd ar 29ain Mehefin.

Mynychwyd y gweithdy gan 70 o ffermwyr, milfeddygon a rhanddeiliaid blaenllaw o bob cwr o’r DU, i drafod a chytuno ar dargedau RHWG mewn perthynas â’r blaenoriaethau a nodwyd yng nghanlyniadau’r arolwg llawr gwlad diweddar.

Ar hyn o bryd mae’r clafr yn effeithio ar 10-15% o ffermydd y DU, gydag oddeutu 8,000 o achosion y flwyddyn, yn costio gymaint â £202 miliwn.

Gosododd y grŵp reolaeth gydgysylltiedig, sgrinio blynyddol gorfodol, y gallu i olrhain, a brechu i weithio tuag at ddileu’r clafr. Er bod brechlyn Moredun newydd yn cael ei ddatblygu sydd â lefel effeithlonrwydd o hyd at 80% yn ôl pob tebyg, mae angen ystyried hwn fel un arf yn yr ymdrech i sicrhau rheolaeth gynaliadwy o’r clafr yn hytrach nag ateb syml

Newidiadau newydd i Unedau Pesgi Cymeradwy a Marchnaoedd Oren

Ers 1af Gorffennaf, 2021, rhoddwyd caniatâd i symud gwartheg o Unedau Pesgi Cymeradwy (AFUau) yng Nghymru a Lloegr ac Unedau Pesgi Cymeradwy (Uwch) a phori (AFUEau) yn Lloegr dan drwydded a’u gwerthu mewn arwerthiannau penodol TB cymeradwy – a elwir yn Farchnadoedd Oren – yng Nghymru a Lloegr.

Gellir dychwelyd gwartheg o AFU yng Nghymru nas gwerthwyd o Farchnad Oren i AFU.

Nid yw anifail nas gwerthwyd sy’n dychwelyd o Farchnad Oren i AFU yn cyfrif fel symudiad at y dibenion hyn.

Gellir symud anifeiliaid sydd eisoes wedi symud i AFU yng Nghymru o AFU, neu AFUE, dan drwydded i Farchnad Oren, ond bydd y drwydded yn cynnwys yr amod y gellir ond eu gwerthu yn y Farchnad Oren ar gyfer eu lladd, neu i AFU / AFUE yn Lloegr.

Nid yw’r amod hwn wedi’i gynnwys yn y drwydded eto, ond yn y cyfamser, nes bod y drwydded wedi’i diweddaru, gellir rhoi’r drwydded o hyd i weithredwyr AFUau yng Nghymru.

Mae canllawiau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a TB Hub.

Ail-lansio cynllun gwaredu plaladdwyr am ddim Dŵr Cymru

Mae Dŵr Cymru wedi ail-lansio ei gynllun gwaredu plaladdwyr am ddim ar gyfer ffermwyr a thyfwyr, ciperiaid, coedwigwyr a rheolwyr tir yng Nghymru fel rhan o’r prosiect PestSmart.

Nod y cynllun yw lleihau’r perygl sy’n gysylltiedig â chynnyrch gwarchod planhigion sy’n hen neu heb drwydded bellach, a dip defaid heb ei wanhau.

Dylai’r rhai sy’n credu eu bod yn gymwys gofrestru diddordeb cyn 5pm ar 9fed Awst 2021, ond y cyntaf i’r felin fydd hi. Yna bydd contractwr penodedig yn cysylltu â chi i gadarnhau pa gynnyrch sy’n gymwys i’w gasglu.

Gall y rhai a gymerodd ran yn 2019 a/neu 2020 gymryd rhan eto yn 2021 a chael gwared â 30L/Kg o gynnyrch cymwys am ddim.

I gael mwy o wybodaeth am y cynllun a sut i gofrestru, cliciwch yma.

I gofrestru dros y ffôn gydag aelod o dîm PestSmart, ffoniwch 01443 452716

Fideos BeefQ ar ansawdd bwyta cig eidion ar gael i’w gwylio

Dros yr haf bwriad prosiect BeefQ oedd gweithio gyda Cyswllt Ffermio a’u ffermydd arddangos i ddangos sut y gall ffermwyr gyfrannu tuag at wella ansawdd bwyta’r cig eidion maent yn ei gynhyrchu.

Yn hytrach, oherwydd cyfyngiadau Covid-19, maent wedi cynhyrchu cyfres o fideos sy’n helpu i ddisgrifio pa agweddau o reolaeth fferm all gael effaith ar ansawdd bwyta cig eidion.

Gellir gwylio sut mae geneteg yn dylanwadu ar ansawdd bwyta cig eidion a sut y gall cynhyrchwyr gael effaith bositif yma, ar Youtube: https://www.youtube.com/watch?v=eor2CtEf_m0


Gellir gwylio sut mae iechyd anifeiliaid yn dylanwadu ar ansawdd bwyta cig eidion a sut y gall cynhyrchwyr gael effaith bositif yma: https://www.youtube.com/watch?v=2jh-NyCCsrY


Gellir gwylio sut mae dulliau o handlo gwartheg yn dylanwadu ar ansawdd bwyta cig eidion a sut y gall cynhyrchwyr gael effaith bositif yma: https://www.youtube.com/watch?v=1shM7AveH2A

 

Cymerwch ran yn yr arolwg hwn ar ymwrthedd i gyffuriau

Mae ymchwilwyr o Sefydliad James Hutton wedi cysylltu ag FUW i wahodd ffermwyr da byw a gweithwyr fferm yn y DU i gwblhau arolwg di-enw ar ymwrthedd i gyffuriau.

I gael gwell dealltwriaeth o brofiadau a barn ffermwyr, mae’r arolwg am rannu profiadau a myfyrdodau, a chyfrannu at brosiect rhyngwladol sy’n ymwneud ag ailfeddwl am y penderfyniadau gwrthficrobaidd sy’n gysylltiedig â rheoli’r broses o gynhyrchu anifeiliaid.

Am bob arolwg a gwblheir, rhoddir cyfraniad ariannol at elusennau ffermio.

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 30 munud i’w gwblhau ac mae ar gael yma: http://hutton.qualtrics.com/jfe/form/SV_74fSqKdIzWvvREa

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Gorffennaf 2021

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd.

Ceir mwy o wybodaeth yma:
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen

 
Rhaglen TGCh Cyswllt Ffermio  Mae Cyswllt Ffermio nawr yn cynnig cyrsiau hyfforddiant TGCh i ddechreuwyr a dysgwyr canolradd.

Mae sesiynau un i un a gweithdai ar-lein ar gael hefyd ar integreiddio technoleg TGCh i’ch busnes fferm.

I archebu, cysylltwch â Lantra ar 01982 552646 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
 

Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield

Mae ceisiadau Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield 2021 ar agor erbyn hyn.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn tueddu i fod yn rhai sy’n gweithio ym myd ffermio, bwyd neu amaethyddiaeth ac maent yn derbyn bwrseriaeth sylweddol i ariannu teithiau i astudio eu dewis bynciau.

Mae gwybodaeth a manylion ymgeisio ar gael yma: https://www.nuffieldscholar.org/

31 Gorff 2021

Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig Anamaethyddol – Ffenestr 2

Mae'r RBIS (Anamaethyddol) yn cyfrannu at gostau buddsoddi cyfalaf ac yn cefnogi  prosiectau yng Nghymru sy'n cyfrannu at un neu ragor o’r canlynol:

  • arallgyfeirio’r economi wledig, 
  • datblygu’r gadwyn gyflenwi ar gyfer cynnyrch naturiol, 
  • gwneud busnesau gwledig yn fwy cynhyrchiol, effeithiol a chystadleuol. 
  • Mae'r cynllun yn cael helpu cwmnïau anamaethyddol micro a bach, hen a newydd  ledled Cymru, gan gynnwys ffermwyr neu aelodau aelwydydd fferm sy’n arallgyfeirio i weithgareddau anamaethyddol.

Bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos bod marchnad hyfyw i'w cynnyrch ac na fyddai'r  prosiect yn gallu mynd rhagddo heb y grant. Cynllun ar sail disgresiwn yw hwn.

Cyfradd uchaf y grant a gynigir i unrhyw brosiect buddsoddi unigol fydd 40% o gyfanswm y costau.

Trothwy uchaf y grant ar gyfer pob cais newydd gan unrhyw brosiect buddsoddi unigol  yw £50,000 a’r trothwy isaf yw £5,000.

Mae rhagor o wybodaeth ac sut i wneud cais yma: https://llyw.cymru/cynllun-buddsoddi-mewn-busnesau-gwledig-an-amaethyddiaeth

 20 Awst 2021

Cytundeb masnach DU-Awstralia a gytunwyd mewn egwyddor yn creu rhwystredigaeth

Arwyddodd y DU ac Awstralia gytundeb masnach mewn egwyddor ar 15fed Mehefin, ychydig ddiwrnodau ar ôl yr Uwchgynhadledd G7 yng Nghernyw, lle cwrddodd rhai o arweinwyr y byd i drafod yr adferiad ar ôl y pandemig.

Gwnaed hyn serch bod FUW wedi mynegi pryderon difrifol yn ystod cyfarfodydd mynych ag Aelodau Seneddol Ceidwadol, gan gynnwys gwahaniaethau o ran arbedion maint a chynhyrchedd, safonau lles anifeiliaid, a’r tebygolrwydd o gynnydd achlysurol yn yr mewnforion bwyd o Awstralia, o ystyried natur anwadal marchnadoedd nwyddau.

Os caiff y cytundeb ei arwyddo fel y mae ar hyn o bryd, mi fydd yna fynediad uniongyrchol i gwota di-dariff o 35,000 tunnell o gig eidion, yn codi mewn rhanddaliadau cyfartal i 110,000 tunnell ym mlwyddyn deg. Mi fydd yna fynediad uniongyrchol i gwota di-dariff o 25,000 tunnell o gig oen, yn codi mewn rhanddaliadau cyfartal i 75,000 tunnell ym mlwyddyn deg.

O ran cynnyrch llaeth, bydd y tariffau’n cael eu diddymu dros y pum mlynedd cyntaf. Mi fydd yna fynediad uniongyrchol i gwota di-dariff o 24,000 tunnell o gaws, yn codi mewn rhanddaliadau cyfartal i 48,000 tunnell ym mlwyddyn pump. Ar gyfer menyn, mi fydd yn 5,500 tunnell, yn codi i 11,500, a bydd cynnyrch llaeth ac eithrio caws yn 20,000 tunnell o’r diwrnod cyntaf.

Croesawu adolygiad o’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi croesawu penderfyniad y Senedd i adolygu’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol, sy’n cael eu cyflwyno fesul cam ar hyn o bryd ac sy’n debygol o osod rheoliadau llym a chostus ar bob fferm ledled Cymru.

Cafodd cynnig ar y cyd gan yr wrthbleidiau yn galw am bwyllgor Seneddol i gynnal adolygiad “brys” o’r rheoliadau newydd ei basio o 58 pleidlais i ddim ar 9fed Mehefin.

Mae’n dda gweld, yn dilyn trafodaeth rymus yn y Senedd, bod holl aelodau Senedd Cymru o blaid cynnal adolygiad o’r rheoliadau fel maent yn sefyll ar hyn o bryd.

Mae FUW a chyrff eraill o fewn y diwydiant wedi mynegi eu rhwystredigaeth a’u dicter dro ar ôl tro am y ffordd mae’r rheoliadau hyn wedi’u rhuthro drwy’r Senedd, ac wedi rhybuddio am y peryglon a ddaw yn sgil yr hyn sy’n cael eu gyflwyno fesul cam ar hyn o bryd.

Llywodraeth Cymru’n ymwrthod â difa moch daear i daclo TB

Yn ystod dadl ddiweddar yn y Senedd, galwodd yr AS Ceidwadol Janet Finch-Saunders ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun difa moch daear yng Nghymru fel arf arall yn y frwydr yn erbyn TB.

Yn ôl canlyniadau cynlluniau difa moch daear dan ofal ffermwyr yn Lloegr, arweiniodd difa moch daear at ostyngiad o 66 y cant yn yr achosion o TB mewn rhannau o Swydd Gaerloyw, a 37 y cant yng Ngwlad yr Haf, ar ôl pedair blynedd.

Yn ei ymateb, gwrthododd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, unrhyw ffurf ar ddifa moch daear i gael gwared â TB dan Lywodraeth Lafur, a beiodd symudiadau gwartheg fel y rheswm pennaf dros y cynnydd yn y nifer o achosion TB gwartheg mewn ardaloedd lle mae lefelau’r haint yn isel. Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno profion croen twbercwlin cyn ac ar ôl symud gwartheg ac wedi cyflogi rhai o wyddonwyr mwyaf blaenllaw’r byd, gan gynnwys Yr Athro Glyn Hewinson, i gynnal ymchwil ar frechu gwartheg.

FUW yn croesawu mwy o bwerau i daclo poeni da byw

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi croesawu’r adran yn y Ddeddf Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) ddrafft a fydd yn rhoi mwy o bwerau i luoedd heddlu yng Nghymru a Lloegr i daclo’r broblem o gŵn yn poeni da byw.

Mae FUW wedi lobïo am newidiadau i’r ddeddfwriaeth drwy ei ymgyrch ‘Eich Ci Chi, Eich Cyfrifoldeb Chi’ yn 2019 a’r weminar fwy diweddar ‘Cŵn yn Poeni Da Byw – Ydych chi’n ymwybodol o’ch hawliau?’, lle bu PC Dave Allen yn esbonio gwaith Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC).

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan grŵp yr NPCC yn 2018 cofnodwyd cyfanswm o 1705 o achosion o gŵn yn poeni da byw rhwng Medi 2013 a 2017, gyda 1928 o anifeiliaid wedi’u lladd, a 1614 wedi’u hanafu, ar gost amcangyfrifol o £250,000 yn ardaloedd lluoedd heddlu Gogledd Swydd Efrog, Cernyw, Sussex a Gogledd Cymru. Mae Adrannau 26 i 41 o’r Ddeddf yn seiliedig ar ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad grŵp yr NPCC.

Allforion bwyd i'r UE i lawr £2bn yn y chwarter cyntaf o 2021

Gostyngodd allforion bwyd Prydain i’r UE £2 biliwn yn chwarter cyntaf 2021 yn ôl ffigurau diweddaraf Cyllid a Thollau EM, oherwydd rhwystrau di-dariff ychwanegol yn dilyn diwedd cyfnod pontio Brexit, effeithiau coronafirws a phentyrru stoc.


Mae’r Ffederasiwn Bwyd a Diod wedi rhybuddio bod y broblem yn bodoli oherwydd y rhwystrau masnachu newydd yn hytrach na'n symptom o broblemau cychwynnol, gan ddisgrifio’r cwymp o £2 biliwn fel un “trychinebus” i’r diwydiant.


O'i gymharu â 2020, gostyngodd allforion cynhyrchion llaeth fwy na 90%, gostyngodd allforion caws ddwy ran o dair, a gostyngodd allforion cig oen a chig dafad 14%.

 

Crynodeb o newyddion Mehefin 2021

Cymeradwyo safle prosesu cig eidion arall yn y DU i allforio i’r Unol Daleithiau

Y Foyle Food Group yn Swydd Gaerloyw yw’r pedwerydd safle prosesu cig eidion yn y DU i gael ei gymeradwyo ar gyfer allforion masnachol i’r Unol Daleithiau dan y rhestr USDA Gymeradwy.

Cafodd y DU fynediad i farchnad yr Unol Daleithiau yn 2020 am y tro cyntaf ers y gwaharddiad ar gig eidion y DU a’r UE oherwydd BSE yn 1996. Mae’r DU wedi allforio gwerth dros £3 miliwn o gig eidion i’r Unol Daleithiau ers diwedd y flwyddyn ddiwethaf wrth i ddefnyddwyr chwilio am gynnyrch o safon uwch.

Adfer corstir drwy gael gwared â choed

Nod prosiect Marches Mosses BogLIFE yw adfer ardaloedd corsiog iseldirol o fewn Gwarchodfa Natur Genedlaethol Fenn’s, Whixall a Bettisfield Mosses a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Wem Moss ger yr Eglwys Wen a Wrecsam, dros y pum mlynedd nesaf.

Arweinir y prosiect gan Natural England, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Amwythig, a chyda grant gwerth miliynau o bunnoedd gan gynllun LIFE yr UE, nod y prosiect yw gwarchod cynefinoedd drwy gael gwared â choed.

Mae pob acer o gorstir yn Fenn’s a Whixall Mosses yn cynnwys 15 gwaith yn fwy o garbon nag ardal gyfatebol o goetir aeddfed.

Y DU yn sicrhau marchnad Japaneaidd newydd ar gyfer cig dofednod

Mae’r DU wedi sicrhau mynediad at farchnad newydd yn Japan ar gyfer cynnyrch dofednod ffresh ac wedi’i goginio, ac amcangyfrifir y bydd yn werth £13 miliwn i’r diwydiant bob blwyddyn.

Mae agor y farchnad hon yn dangos bod gan y DU rai o safonau cynhyrchu gorau’r byd, a gobeithir y bydd yn dod yn gyrchfan allforio mwy sylweddol wrth i gig dofednod ddod yn fwy poblogaidd yn Japan.

Eithriadau TB Gwartheg Covid-19 i ddod i ben

Cyhoeddwyd y bydd nifer o’r eithriadau a roddwyd yn eu lle yn ystod pandemig Covid-19 yn dod i ben dros y misoedd nesaf.

O 1af Gorffennaf 2021, mi fydd angen darparu tystysgrif diagnosis beichiogrwydd, a roddwyd o fewn y 90 diwrnod blaenorol, ar gyfer unrhyw loi ar adeg eu prisio.

Bydd unrhyw brofion croen TB sy’n rhedeg yn hwyr o 1 Gorffennaf 2021 yn cael eu cyfeirio gan APHA at sylw RPW a gallant arwain at gosbau trawsgydymffurfio. Ni fydd APHA’n gwneud unrhyw gyfeiriadau os caiff ei hysbysu ymlaen llaw bod yna amgylchiadau esgusodol a fydd yn atal y prawf rhag cael ei gwblhau ar amser.

O 1af Awst 2021, bydd yr eithriad sy’n golygu nad oes angen profi lloi dan 180 diwrnod yn ystod rhai profion croen TB arferol a phrofion wedi’u targedu mewn buchesi sy’n swyddogol rydd o TB, yn dod i ben.

Ceir mwy o wybodaeth ar wefan TB hub: https://tbhub.co.uk/statutory-tb-testing-of-cattle-in-gb-during-the-covid-19-outbreak/

Canlyniadau arolwg RHWG yn datgelu’r prif flaenoriaethau o ran clefydau da byw

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil (RHWG) ganlyniadau ei arolwg o ffermwyr, pobl stoc a milfeddygon ar draws y DU.

Cafwyd cyfanswm o 662 o ymatebion i’r arolwg, a gynhaliwyd rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2020, gyda 76% ohonynt yn ffermwyr a 34% yn weithwyr proffesiynol, gan gynnwys milfeddygon.

Y 5 blaenoriaeth bennaf o ran clefydau defaid oedd clwy’r traed a Dermatitis Byseddol Defeidiog Heintus (CODD), gyda’r ddau hyn yn sgorio’n uchel ymhob rhanbarth, y clafr oherwydd problemau cynhyrchu a lles, llyngyr yr afu/iau, yn arbennig yn y Gogledd a’r Ardaloedd Llai Ffafriol, a chynrhon oherwydd problemau lles anifeiliaid, gyda ffermwyr yn ei sgorio’n uwch na milfeddygon, am fod modd ei drin ar y fferm.

O ran gwartheg, cafodd dermatitis byseddol sgôr uchel gan ffermwyr a milfeddygon, a chafodd Dolur Rhydd Feirysol (BVD) sgôr uwch yn Lloegr, gyda chlefyd Johne yn cael effaith fawr ymhob rhanbarth, ac roedd llyngyr yr afu/iau yn bryder arbennig i ffermwyr cig eidion, a niwmonia feirysol.

Bydd canfyddiadau’r arolwg hwn yn cael eu defnyddio i flaenoriaethu gwaith RHWG ar draws y gwledydd datganoledig.

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma: https://ruminanthw.org.uk/health_welfare_survey