Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fersiwn derfynol o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), sydd, yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, yn nodi carreg filltir sylweddol i amaethyddiaeth Cymru.
Y Cynllun hwn fydd y prif fecanwaith wrth i fusnesau fferm yng Nghymru wneud cais am gymorth fferm o 2026 ymlaen, gyda’r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) yn cael ei ddiddymu'n raddol dros y blynyddoedd nesaf.
Gan adeiladu ar y fframwaith SFS diwygiedig a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd llynedd, mae'r Cynllun wedi'i strwythuro o amgylch egwyddor o haenau Cyffredinol, Dewisol a Chydweithredol, gan ddarparu lefel o gysondeb cyffredinol i bob busnes fferm a chyfle i eraill wneud mwy os dymunant.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru: “Ers yr ymgynghoriad cychwynnol ar Brexit a'n Tir yn 2018, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi buddsoddi adnoddau sylweddol wrth lobïo, negodi a herio Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio sicrhau Cynllun ymarferol er budd dyfodol ffermydd teuluol cynaliadwy a ffyniannus ledled Cymru.
"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, rydym wedi mynychu dros 60 o gyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru, gan dreulio dros 300 awr mewn trafodaethau. Gallaf sicrhau aelodau Undeb Amaethwyr Cymru a'r gymuned amaethyddol ehangach nad ydym wedi gadael unrhyw garreg heb ei throi dros y saith mlynedd diwethaf yn ein huchelgais i sicrhau fframwaith cymorth pwrpsasol i ffermwr Cymru yn y byd ôl-Brexit.
"Mae'r Cynllun a gyhoeddwyd heddiw yn cynrychioli'r cyfnod hir hwn o drafod, gan nodi carreg filltir nodedig yn nyfodol amaethyddiaeth Cymru.”
Mae'r ddogfen yn nodi'r cyfraddau talu ar gyfer 2026 a'r gofynion ar ein ffermwyr a'r dystiolaeth y bydd angen iddynt ei darparu a/neu ei chadw os am ymuno â'r Cynllun yn y dyfodol.
“I amlygu rhai o'r llwyddiannau allweddol; rydym wedi sicrhau cyllideb gyfan ar gyfer y Taliad Sylfaen Cyffredinol a thapr y Cynllun Taliad Sylfaenol gyda'i gilydd o £238 miliwn, gan helpu i ddarparu sefydlogrwydd mawr eu hangen i’r sector. Mae hyn yn cynnwys darparu taliadau cyffredinol ar gyfer deiliaid hawliau tir comin.
"Rydym hefyd wedi cadw a chryfhau'r defnydd o daliadau wedi'u capio ac ailddosbarthu, egwyddor polisi hirsefydlog gan Undeb Amaethwyr Cymru, ac yn un sy'n cynyddu'r swm o arian sy'n mynd i gefnogi ffermydd teuluol a chymunedau gwledig Cymru.
"Rydym hefyd wedi lleihau nifer y Camau Gweithredu Cyffredinol o 17 i 12 gyda hyblygrwydd a symleiddio pellach, gan gynnwys eithriadau i denantiaid a dileu'r rheol anymarferol ynghylch gorchudd coed 10%.
"Fodd bynnag, rydym yn derbyn nad yw'r Cynllun yn berffaith. Bydd Rheol y Cynllun cynefin 10% yn bryder i nifer, yn ogystal â'r gofynion rheoli a fydd yn berthnasol i'r ardaloedd hynny er gwaethaf y ffaith eu bod yn llai cyfarwyddol na chynlluniau amaeth-amgylcheddol blaenorol.
"Rydym hefyd yn gwerthfawrogi y bydd pryderon yn cael eu lleisio ynghylch uchelgais y Cynllun i blannu 17,000 hectar o goed erbyn 2030, cyfnewidioldeb posibl y cyfraddau talu o flwyddyn i flwyddyn, ac yn benodol y cyfnod pontio BPS byrrach, a fydd bellach yn gostwng i 60% yn 2026 ac yn lleihau 20% y flwyddyn wedi hynny. Rydym wedi bod yn gyson yn ein galwadau i'r cyfnod pontio BPS ddilyn pum gostyngiad cyfartal gan ddechrau ar 80% yn 2026 - fel y cynigiwyd yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru.
"Gall aelodau Undeb Amaethwyr Cymru fod yn sicr ein bod wedi gwneud ei safbwynt yn gwbl glir ar yr meysydd hyn drwy gydol y trafodaethau. Rwy'n hyderus bod yr Undeb wedi gwneud popeth yn ei gallu i gynrychioli’i aelodau a'ch busnesau drwy gydol y broses hon.
"Bydd y Cynllun hwn yn wahanol i'r hyn yr ydym wedi'i ystyried yn hanesyddol fel cymorth fferm uniongyrchol. Rwyf felly’n annog pob ffermwr yng Nghymru i ystyried gofynion y Cynllun a'r cyfraddau talu yng nghyd-destun eu busnesau eu hunain.
"Os yw ffermwyr yn penderfynu ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar unrhyw adeg yn y dyfodol, neu am barhau â'r BPS gan weithredu heb gymorth fferm wedi hynny, mae Undeb Amaethwyr Cymru yma i'ch cefnogi chi a'ch busnesau drwy gydol y cyfnod pontio a thu hwnt.”
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Sioe Frenhinol Cymru rhwng Gorffennaf 21-24. Isod mae blas o'r digwyddiadau ym mhafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru ar Faes y Sioe yn ystod yr wythnos.
We're looking forward to welcoming you to the Royal Welsh Show between July 21-24. Below is a taster of our events at the FUW pavilion on the Showground during the week.
A full timeline of FUW events and discussions throughout the Royal Welsh can be found here.
DYDD LLUN / MONDAY
Gyda'r diwydiant yn aros yn eiddgar am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy terfynol, dewch i ymuno â ni i glywed ymateb ac ymrwymiad Undeb Amaethwyr Cymru i wella dyluniad y Cynllun dros y misoedd diwethaf, a gofynnwch eich cwestiynau'n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru ar ddyluniad y Cynllun.
With the industry waiting in anticipation for the final Sustainable Farming Scheme, come and join us to hear the FUW's reaction and determination to improve the Scheme design over recent months, and ask your questions directly to the Welsh Government on the Scheme design.
DYDD MAWRTH / TUESDAY
Sut allwn ni gynyddu'r cyfleoedd i ffermwyr ifanc a'r rhai sy'n newydd i'r diwydiant yng Nghymru? Ymunwch â Undeb Amaethwyr Cymru ar gyfer lansiad ein ‘Mandad i ffermwyr y dyfodol’ – gyda gofynion allweddol i Lywodraeth Cymru a'r DU, yn ogystal â'r gymuned ffermio ehangach. Bydd croeso i ffermwyr ifanc gweithgar, newydd-ddyfodiaid ac aelodau Undeb Amaethwyr Cymru am ddiodydd a bwffe ar y balconi yn dilyn y sesiwn. Cadarnhewch eich presenoldeb ar gyfer bwffe ar y balconi.
How can we increase the opportunities for young farmers and new entrants in Wales? Join the FUW as we launch our 'Mandate for More Farmers’ - with key asks of the Welsh and UK Governments, as well as the wider farming community. Hard working young farmers, new entrants and FUW members are welcome for drinks and a buffet on the balcony following the session. Please confirm your attendance for the balcony buffet.
DYDD MERCHER / WEDNESDAY
Bydd y sesiwn yn cyflwyno cynllun amaeth-amgylchedd newydd Llywodraeth Cymru, Ffermio Bro, gyda thrafodaeth ar sut y gall gefnogi ffermwyr a natur mewn Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol yng Nghymru.
The session will introduce the Welsh Government’s new Ffermio Bro agri-environment scheme, with a discussion on how it can support farmers and nature in National Parks and National Landscapes in Wales.
Ymunwch gyda ni am drafodaeth banel arbennig yng nghwmni sawl wyneb cyfarwydd i ddathlu saith degawd o Undeb Amaethwyr Cymru. Dan gadeiryddiaeth y darlledwr Dei Tomos, bydd yn gyfle i adlewyrchu ar y degawdau diwethaf, ac edrych ymlaen at y dyfodol.
Join us for a special panel discussion, bringing together a range of familiar faces to celebrate seven decades of the Farmers' Union of Wales. Chaired by broadcaster Dei Tomos, this event will provide a unique opportunity to reflect on our rich history and look ahead to the future.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cefnogi'r ymgyrch #NacOedwchBrechwch, gan annog ffermwyr i siarad â'u milfeddygon am frechu eu da byw yn erbyn firws y Tafod Glas.
Arweinir yr ymgyrch gan Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, gan gynnwys Canolfan Gwyddor Filfeddygol Cymru (WVSC) ac Iechyd Da, a'i nod yw annog ac addysgu ffermwyr ynghylch brechu eu da byw.
Tafod Las
Mae feirws y tafod glas (BTV) yn glefyd feirysol a all fod yn angheuol, sy’n cael ei ledaenu gan wybed. Mae’n effeithio ar anifeiliaid gwyllt a domestig sy'n cnoi cil fel defaid, geifr a gwartheg. Nid yw'n heintio pobl ac nid oes risg i iechyd y cyhoedd na diogelwch bwyd.
Ers 1 Gorffennaf 2025, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfyngiadau ar symud da byw o Loegr i Gymru mewn ymateb i ledaeniad firws y tafod glas.
Dylai unrhyw un sy’n cadw da byw gysylltu â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) leol ar unwaith ar 0300 303 8268 os ydych chi'n amau y Tafod Glas.
Brechu
Gan nad oes triniaeth ar gyfer y clefyd, mae BTV-3 yn parhau i fod yn fygythiad sylweddol i wartheg a defaid gyda photensial i effeithio ar iechyd anifeiliaid, cynhyrchiant a masnach. Felly, un cam i arafu lledaeniad y clefyd yw brechu.
#NacOedwchBrechwch
Fel rhan o'r ymgyrch #NacOedwchBrechwch, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog unrhyw un sy’n cadw da byw i drafod manteision brechu eu hanifeiliaid gyda'u milfeddyg.
Un ffermwr sydd wedi penderfynu brechu ei dda byw yw'r ffermwr llaeth Michael Williams o Sir Benfro. Wrth wneud sylwadau, dywedodd:
“Rydw i wedi penderfynu brechu oherwydd bod lles anifeiliaid yn flaenoriaeth uchel i ni ar ein fferm. Pan fydd bygythiad newydd yn agosáu, rhaid i ni weithredu'n gyfrifol er budd pawb a chymryd pob cam posib".
Yn y cyfamser, ychwanegodd Is-gadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru Gwent, Verity Vater, ffermwr defaid ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr:
"Cyn gynted ag anfonodd fy milfeddygon lleol e-bost i ddweud bod y brechlyn Tafod Glas ar gael, mi ffonies i nhw’n syth i drafod y brechlyn.
Mae gennym ni dda byw gwych yng Nghymru, mae brechu yn ffordd y gallwn ni i gyd eu hamddiffyn rhag y Tafod Glas."
Am ragor o wybodaeth am y Tafod Glas, cysylltwch â'ch milfeddyg lleol neu ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu Strategaeth Troseddau Gwledig tair blynedd newydd i Gymru a gafodd ei lansio gan Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd heddiw.
Lansiwyd Strategaeth Troseddau Cefn Gwlad Cymru (2025-2028) i wella diogelwch cymunedau gwledig a bywyd gwyllt ledled Cymru.
Wedi'i chyhoeddi yng Nghynhadledd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru, a fynychwyd gan bron i 100 o gynrychiolwyr, mae'r strategaeth yn parhau â'r cydweithio rhwng heddluoedd Cymru a Llywodraeth Cymru yn dilyn lansiad blaenorol y strategaeth gychwynnol yn 2023.
Pwysleisiodd y Prif Weinidog Huw Irranca-Davies bod troseddau gwledig yn faterion sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys ei gysylltiadau â throseddu cyfundrefnol, a phwysleisiodd rôl hanfodol cydweithio aml-bartner.
Mae'r strategaeth newydd yn amlinellu chwe maes blaenoriaeth: Troseddau Adar, Troseddau Fferm, Cynefinoedd, Troseddau Treftadaeth, Mamaliaid a Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop, a Gwasanaethau Cymorth Rhwydweithio Gwledig - mae'r olaf yn unigryw gan ei fod yn mynd i'r afael â gwendidau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i ariannu swydd Cydlynydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru am dair blynedd arall, gan gydnabod y rôl ganolog y mae'r swydd hon yn ei chwarae wrth gydlynu ymdrechion ledled y wlad.
Yn ogystal, cyhoeddodd Heddlu Gwent gynlluniau i ehangu’r tîm troseddau gwledig, gan gryfhau galluoedd gorfodi a darparu gwell cefnogaeth i gymunedau ffermio a diogelu bywyd gwyllt ledled y rhanbarth.
Wrth wneud sylwadau yn dilyn lansiad Strategaeth Troseddau Gwledig Cymru, dywedodd Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, Gemma Haines:
“Mae troseddau gwledig yn parhau i achosi niwed emosiynol ac economaidd sylweddol i ffermwyr Cymru.
Felly mae Undeb Amaethwyr Cymru yn croesawu'r Strategaeth Troseddau Gwledig newydd, yn enwedig yr ymrwymiad y bydd Troseddau Fferm yn cael sylw dros y tair blynedd nesaf.
Mae ein haelodau wedi bod yn dadlau ers tro am fwy o bwyslais ac adnoddau gan heddluoedd Cymru i fynd i'r afael â'r materion hyn, ac rydym yn obeithiol y bydd y strategaeth hon yn sbardun hanfodol ar gyfer gweithredu.
"Mae ehangu tîm Troseddau Gwledig Heddlu Gwent yn ddatblygiad arbennig o galonogol, ac rydym yn parhau i annog heddluoedd Cymru i sicrhau bod adnoddau a mecanweithiau cymorth digonol yn cael eu neilltuo i fynd i'r afael â throseddu yn ein cymunedau gwledig."
Rydym hefyd yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ariannu swydd Cydlynydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru am dair blynedd arall, ac yn edrych ymlaen at barhau â'n cydweithrediad agos i fynd i'r afael â throseddau gwledig."
Mae rhagor o fanylion am lansio’r Strategaeth Troseddau Gwledig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Eleni, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn nodi ei phen-blwydd yn 70 oed, a dathlwyd y garreg filltir arwyddocaol hon yn eu Cynhadledd Fusnes Blynyddol, a gynhaliwyd yn Aberystwyth ar Fehefin 12fed a 13eg.
Daeth dros gant o staff ac uwch swyddogion o'r Undeb a Gwasanaethau Yswiriant FUW ynghyd i rwydweithio, edrych nôl ar y flwyddyn ddiwethaf, a choffáu saith degawd ers sefydlu'r Undeb ym 1955.
Roedd agenda’r gynhadledd yn cynnwys cyflwyniad gan Brif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru, Guto Bebb, yn edrych nôl ar dwf y busnes dros y flwyddyn. Bu trafodaeth banel, yn cynnwys Cadeirydd Gwasanaethau Yswiriant FUW, Ann Beynon OBE, ac Aelod o’r Bwrdd, Louise Coulton, yn ogystal â Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, a’r Ffermwr Gyfarwyddwr, Gareth Lloyd, hefyd yn ymchwilio’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r busnes a’r sector amaethyddol ehangach.
Derbyniodd y gynhadledd gefnogaeth gref gan dros ugain o bartneriaid busnes, gyda FarmWeb - un o bartneriaid yswirwyr Gwasanaethau Yswiriant FUW - yn noddi'r gynhadledd. Yn y cyfamser, noddodd MSAmlin ginio'r gynhadledd, gyda Close Brothers Finance yn noddi derbyniad diodydd cyn y cinio.
Gwobrau
Yn ogystal â’r cyfle i edrych nôl ar y flwyddyn, roedd y Gynhadledd hefyd yn gyfle i gydnabod ac amlygu gwaith staff Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant FUW drwy gydol y flwyddyn, gyda chyflwyniad o wobrau wedi ei noddi gan yr yswiriwr moduron arbenigol, ERS.
Cyflwynwyd Gwobr Tîm Gorau Undeb Amaethwyr Cymru i Adran Gyllid Undeb Amaethwyr Cymru. Roedd y wobr yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff wrth reoli cyllid Undeb Amaethwyr Cymru yn effeithiol, gyda gwaith gofalus ac effeithiol y tîm yn aml yn ennill canmoliaeth gan archwilwyr allanol.
Cyflwynwyd Gwobr Meurig Voyle i Joyce Owens, Cynorthwyydd Gweinyddol yn swyddfa Undeb Amaethwyr Cymru yng Nghaerfyrddin, ac mae’n cael ei gyflwyno i aelod o staff sydd wedi dangos ymrwymiad, teyrngarwch, cefnogaeth a brwdfrydedd tuag at yr undeb. Mae Joyce wedi gweithio i Undeb Amaethwyr Cymru ers dros 20 mlynedd, gan weithio'n effeithiol fel cyswllt allweddol rhwng yr undeb a'i haelodaeth yn Sir Gaerfyrddin.
Roedd yn ddathliad dwbl i Joyce, wrth i dîm Undeb Amaethwyr Cymru Caerfyrddin hefyd ennill Gwobr Owen Slaymaker, a roddir yn flynyddol i'r gangen sirol sydd wedi hyrwyddo buddiannau aelodau ac Undeb Amaethwyr Cymru orau. Yn ogystal â gwasanaethu'r aelodaeth yn Sir Gaerfyrddin, mae'r tîm hefyd wedi cefnogi aelodau ledled Sir Forgannwg yn effeithiol dros y misoedd diwethaf. Roedd y wobr yn arbennig o amserol eleni, wrth i Undeb Amaethwyr Cymru ddathlu 70 mlynedd ers ei sefydlu yn Sir Gaerfyrddin.
Cyflwynwyd gwobrau i staff Gwasanaethau Yswiriant FUW hefyd mewn cyflwyniad a noddwyd gan y cwmni yswiriwr moduron arbenigol, ERS.
Enillodd yr Uwch Weithredwr Yswiriant, Sam Evans, y Wobr Datblygu Busnes yn cydnabod y twf mwyaf mewn portffolio unigol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Sam wedi sicrhau llawer iawn o dwf trwy'r lefel arbennig o wasanaeth y mae'n ei gynnig i gwsmeriaid presennol a newydd. Cyflwynodd Sam ei wobr i'w diweddar ffrind a chydweithiwr, Will Beynon, a fu farw yn gynharach eleni.
Cafodd Sophie Pritchard a Lowri Williams o Lanrwst eu cydnabod am eu gwaith hefyd, gyda Sophie yn ennill y wobr am y Portffolio a Reolir Orau gan Weithredwr Yswiriant, a Lowri Williams yn ennill y wobr am y Portffolio a Reolir Orau gan Gydlynydd Cyfrif. Roedd y gwobrau'n cydnabod eu hymdrechion i reoli eu portffolio mewn manylder, bodloni dangosyddion perfformiad allweddol a bod ar frig y gynghrair ym mhob archwiliad. Hyn i gyd wrth gyrraedd lefel arbennig o dwf gwerthiant.
Yn olaf, enillodd Heulwen Thomas, sy’n gweithio yn Llanbed, wobr Cydlynydd Cyfrif y flwyddyn. Mae Heulwen yn rhan annatod o dîm Llanbed, lle mae hi'n hynod gydwybodol ac yn gweithio i'r safonau uchaf. Heulwen yw arwres dawel y cwmni gan weithio'n dawel ac yn bwyllog yn y cefndir, felly roedd yn briodol bod ei chyfraniad yn cael ei gydnabod.
Wrth wneud sylwadau yn dilyn cynhadledd lwyddiannus, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:
"Roedd Cynhadledd Fusnes Blynyddol eleni yn achlysur arbennig iawn, gan nodi 70 mlynedd ers sefydlu Undeb Amaethwyr Cymru. Roedd yn gyfle gwych i ddod â'n timau o'r Undeb a Gwasanaethau Yswiriant FUW ynghyd, dathlu ein cyflawniadau ac edrych ymlaen at ddyfodol amaethyddiaeth.
Ymroddiad a gwaith caled ein staff yw asgwrn cefn ein llwyddiant, ac roedd yn fraint cydnabod eu cyfraniadau arbennig drwy'r seremoni wobrwyo. Rydym yn hynod falch o'n holl enillwyr ac yn wir, pob aelod o'n tîm sy'n parhau i yrru ein twf fel busnes, ac yn gweithio'n ddiflino i wasanaethu anghenion cefn gwlad Cymru.”
Ychwanegodd Cadeirydd Gwasanaethau Yswiriant FUW, Ann Beynon OBE:
"Ni fyddai llwyddiant ein Cynhadledd Fusnes Blynyddol wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth anhygoel ein partneriaid busnes gwerthfawr. Rydym yn ddiolchgar iawn i FarmWeb am eu nawdd i'r gynhadledd, ac i'n holl bartneriaid eraill a gefnogodd y ddau ddiwrnod llwyddiannus. Mae eu hymrwymiad parhaus i'n digwyddiad yn tanlinellu'r partneriaethau cryf rydym wedi'u hadeiladu sy'n caniatáu i'r busnes barhau i dyfu o nerth i nerth."
Roedd yr awyrgylch drwy gydol y ddau ddiwrnod yn hynod gadarnhaol. Roedd hi’n arbennig o ysbrydoledig gweld cymaint o gydweithwyr yn cymryd rhan mewn trafodaethau a rhwydweithio ystyrlon, gan adlewyrchu cryfder yr ysbryd cydweithredol sy'n gyrru ein llwyddiant ar y cyd.
- Undeb Amaethwyr Cymru Dinbych a Fflint yn noddi Cadair Eisteddfod Wrecsam
- Amlygu pryderon am seilwaith lladd-dai lleol yng Nghymru
- Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud wrth y Pwyllgor Materion Cymreig bod “Trysorlys EM wedi cau’r drws yn glep yng ngwyneb y diwydiant ac wedi taflu’r allwedd”
- Cystadleuaeth ffotograffiaeth i greu calendr 2026