Ffermio Cynaliadwy a'n Tir Dyddiad Cau

Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynglŷn â dyfodol taliadau ffermydd yn cau mewn chwe diwrnod. 

Mae modd gweld yr ymgynghoriad drwy glicio ar y linc yma.

Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad drwy e-bostio eich sylwadau i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Mae FUW wedi bod yn ymgynghori gyda Changhennau Sirol a Phwyllgorau’r Undeb, a bydd ymateb manwl yn cael ei gyflwyno. Dyma rhai o bryderon a sylwadau allweddol cafodd ei amlygu gan aelodau’r pwyllgorau sydd werth ei ystyried.

  1. Mae natur ymgynghorol yr ymgynghoriad gan Llywodraeth Cymru yn cael ei groesawu.

  2. Mae Llywodraeth Cymru yn gywir i gydnabod bod rhuthro ymlaen gyda dylunio cynllun newydd mewn adeg ble nad ydym yn gwybod beth fydd amodau masnachu ac economaidd y wlad yn edrych ar ôl Brexit - felly mae’n iawn i beidio ag ymrwymo i amserlen.

  3. Dylai modelu fod yn drwyadl cyn i unrhyw benderfyniad ei wneud ac bydd angen rhoi llawer mwy o ffocws ar swyddi a busnesau cefn gwlad nag beth sydd wedi cael ei gynnig hyd yma - dylai Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad fod yn ymwybodol o holl oblygiadau posib o unrhyw benderfyniadau, er mwyn osgoi’r risg o effeithiau difrifol a fyddai’n mynd yn groes i amcanion Llesiant Cymru.

  4. Mae Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein a’r system Ffurflen Gais Sengl presennol o’r radd flaenaf. Mae angen datblygu ar hyn yn well a’i dargedu yn fwy, nid ei ddileu yn raddol ac yna ei ddisodli gyda chontractau Nwyddau Cyhoeddus a fydd yn llawer mwy cymhleth i’w weinyddu.

  5. Dim ond saith o amcanion  Lles Cenedlaethau’r Dyfodol mae Nwyddau Cyhoeddus yn eu cyflawni, felly dylent fod yn rhan o’r cynllun neu gynlluniau - wrth ffocysu ar Nwyddau Cyhoeddus yn unig golygir bydd llawer o Nodau Llesiant yn cael ei anwybyddu - er enghraifft ffyniant, swyddi, diwylliant a chydraddoldeb.

  6. Yn y cyd-destun yma, roedd Gwenidog Cysgodol Amaeth Llafur, David Drew yn gywir i amlygu yn ystod Cynhadledd y Blaid Lafur, y dylai Nwyddau Cyhoeddus fod yn un rhan yn unig o bolisi yn y dyfodol, a hynny “...o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol bydd [ffermwyr] angen mwy o gefnogaeth nag taliadau amgylcheddol y unig ar ôl Brexit.”

  7. Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru yn dangos fod 43% o bobl sy’n gyflogedig mewn amaethyddiaeth yn siarad Cymraeg - canran uwch i gymharu â mathau eraill o gyflogaeth. Bydd cynllun sy’n ffocysu ar Nwyddau Cyhoeddus yn fygythiad i ddiwydiant ffermio, a thrwy ddiffiniad yn fygythiad i ddiwydiant y mae’r Gymraeg yn cael ei gadw mwyaf ynddo.

  8. Bydd cystadleuwyr mewn gwledydd ac ardaloedd eraill yn parhau i dderbyn cefnogaeth uniongyrchol, mae’r cynnigion cyfredol yn awgrymu bydd ffermwyr Cymru yn gorfod cydymffurfio gyda llawer mwy o reolau a chyfyngiadau, gweithio yn galetach a cholli mwy o dir amaethyddol, i dderbyn taliadau. Bydd hyn yn amlwg yn anfatais gystadleuol i ffermwyr Cymru.

  9. Byddai cynllun sy’nn ffocysu ar Nwyddau Cyhoeddus yn unig yn erbyn nod Llesiant ar gydraddoldeb, oherwydd byddai’n rhoi ffermwyr sy’n  denantiaid o dan anfantais, sef ein ffermwyr mwyaf effeithlon ond hefyd ein ffermwyr mwyaf bregus. Bydd cyflawni Nwyddau Cyhoeddus yn mynd yn groes i fantias y tir feddiannwr neu dermau’r cytundeb tenantiaeth.

  10. Mae cyfran helaeth o ffermydd Cymru yn dibynnu ar bori tir comin. Bydd taliadau Nwyddau Cyffredin yn lleihau mynediad at daliadau sydd ar hyn o bryd a’r gael drwy Gynllun y Taliad Sylfaenol, gan fod llawer o Nwyddau Cyffredin yn amherthnasol i hawliau cyfreithiol porwyr. Bydd hyn yn trosglwyddo’r pŵer a’r hawl i hawlio taliadau i ffwrdd oddi wrth ffermwyr gweithredol i berchenogion tir comin, sy’n annerbyniol.

  11. Mae Cyngor Tiroedd Comin yn cynrychioli ffordd ddrud, biwrocrataidd a beichus i reoli rhan fwyaf o dir comin Cymru. Byddai unrhyw anghenion i ffurfio Cynghorau o’r fath i gael mynediad at daliadau yn difreinio ac yn gwahaniaethu yn erbyn porwyr o gymharu â chymheiriaid sydd ddim yn porti tîr comin- eto yn arwain tuag at anghydraddoldeb.

  12. Dylai Cymru ddilyn yr UE drwy geisio cryfhau meini prawf y Ffermwyr Actif, gan mai ffermwyr actif sydd yn cyfrannu mwyaf o safbwynt cefnogi’r economi wledig, creu cyflogaeth, gwario arian ar fusnesau eraill Cymru, amddiffyn y diwylliant Gymreig ac ehangu’r amgylchedd. Mae llai o weithgarwch yn golygu llai o’r buddion yma.

  13. Rhaid gofalu dros ffermydd teuluol a chynhyrchu bwyd ac dylai hynny fod wrth wraidd unrhyw bolisi yn y dyfodol: dylai Cymru wneud popeth y gallai i osgoi’r dirywiad mewn ffermio teulu a ffermydd teuluol a welir yn enwedig mewn ardaloedd yn Lloegr, ble mae cwmnïau mawr i bob pwrpas wedi cymryd drosodd mawr helaeth o ardaloedd er anfantais i gymunedau gwledig a diwylliant.

  14. Rhaid capio taliadau er mwyn helpu amddiffyn enw da unrhyw gynllun ac i sicrhau bod arian yn cyfeirio tuag at ffermydd teuluol yn hytrach na chaniatáu’r math o daliadau diderfyn y mae buddsoddwyr a chwmnïau wedi cymryd mantais arnynt yn Lloegr, er anfantais ffermydd teuluol, cymunedau ac enw da’r PAC yn gyffredinol.


Argraffu