UAC yn cyd-weithio gyda Gwasanaethau Tân Rhanbarthol Cymru i fynd i'r afael â thanau gwyllt

Mi fydd Undeb Amaethwyr Cymru yn cychwyn cyd-weithio yn fuan gyda Gwasanaethau Rhanbarthol Tân Cymru i gydlynu gwasanaeth i ddiogelu ffermydd a thir pori rhag tanau gwyllt.

Drwy fanteisio ar bartneriaeth y Gwasanaeth Tân gyda Llethrau Llon, mi fydd yr Undeb yn lledaenu’r neges am y prosiect gyda’u haelodau wrth drefnu cael Jeremy Turner Swyddog Cyswllt Fferm y Gwasaneth Tân i ymweld â’r siroedd yn ystod eu cyfarfodydd misol.

Yn sôn am y cynllun dyweddodd Jeremy:

"Ein gobaith yw i ymgysylltu yn uniongyrchol gyda’r ffermwyr gyda chymorth ac arweiniad Undeb Amaethwyr Cymru er mwyn trefnu ymweld â’r ffermydd yn unigol i drafod cynllun a fydd yn mynd i’r afael â sawl agwedd o arbed tanau ar eu tir."

Mae rhain yn cynnwys cynnig cymorth ac arweiniad i ffermwyr, porwyr a pherchnogion tir er mwyn diogelu unrhyw weithgareddau llosgi dan reolaeth wrth ddarparu Cynllun Llosgi a fydd yn trafod technegau llosgi, rhwystrau tân a sut i reoli llysdyfiant gyda dulliau amgen.

Hefyd mi fydd gwasanaeth profi tymheredd bêls gwair ar gael ar ofyn gyda swyddog tân yn ymweld â’r fferm i ddefnyddio offer arbennigol i gofnodi tymheredd a lleithder y bêls i arbed hylosgi digymell.

Pryder mawr ffermwyr a thyddynwyr yw’r difrod i’r da byw pan fydd tân yn rhygnu drw’r fferm ac ar draws y tir yn ystod tân gwyllt. Ar ben y gofid o’r effaith ddinistriol ar adeiladau’r fferm a’r tir, mae colli anifeiliad i dân yn drallod anferthol ac felly mae offer arbennigol ar gael ynghyd â thimau achub ar gyfer lleihau’r risg i’r anifeiliaid.

Wrth galon bob fferm mae’r tŷ fferm ac wrth gwrs, mae angen diogelu hwn gymaint â’r adeladau, y tir a’r da byw. Fel rhan o’r gwasanaeth rhad ac am ddim, mi fydd swyddog tân hefyd yn cynnig cyngor a chymorth ymarferol fel gosod larymau mwg a Charbon Monocsid er mwyn lleihau’r risg a diogelu rhag effeithiau dinistriol tân ar y cartref.

Fel Undeb, rydym yn eiddgar i fynd i’r afael â lliniaru effeithiau dinsitriol tanau gwyllt ar dir amaethyddol neu tir a borwyd ac mi fyddwn yn cwrdd eto gyda’r Gwasanaethau Tân a’r Swyddogion Cyswllt Fferm a Chefn Gwlad dros yr wythnosau a misoedd nesaf i ddatblygu strategaeth ar gyfer y 5-10 mlynedd nesaf.

Wrth siarad am y bartneriaeth newydd a’r cyfle i gyd-weithio gyda’r gwasanaethau Tân ledled Cymru, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts:

“Rydym yn dra diolchgar i Wasanaeth Tân Cymru am y cyfle i bartneri gyda nhw wrth ddatblygu’r cynllyn Llethrau Llon ac yn eiddgar i ledaenu’r neges am y gwasanaeth holl-bwysig a hanfodol sydd ar gael i ffermwyr, perchnogion a phorwyr tir i ddiogelu eu heiddo rhag effeithiau dinistriol tân gwyllt-a hynny yn rhad ac am ddim.”