Elusen wledig yn cael ei hanrhydeddu â gwobr allanol UAC am gyfraniad eithriadol i amaethyddiaeth

Elusen wledig yn cael ei hanrhydeddu â gwobr allanol UAC am gyfraniad eithriadol i amaethyddiaeth

Mae elusen iechyd meddwl wledig wedi cael ei hanrhydeddu gan Undeb Amaethwyr Cymru gyda’i gwobr allanol am wasanaethau i amaethyddiaeth yn nerbyniad y Llywydd yn ystod Sioe Frenhinol Cymru (dydd Mercher, 20 Gorffennaf).

Sefydlwyd Tir Dewi gan yr Hybarch Eileen Davies a’r Archddiacon Aberteifi a’r Esgob Wyn (sydd bellach wedi ymddeol) yn 2015.  Roeddent yn cydnabod y ffaith bod angen dybryd am help i ffermwyr a oedd yn dioddef amserau anodd.

Gyda chefnogaeth ariannol hael gan yr Eglwys yng Nghymru (Esgobaeth Tyddewi) a Chronfa Cefn Gwlad y Tywysog, llwyddodd Eileen i sefydlu Tir Dewi fel llinell gymorth werthfawr a gwasanaeth gefnogaeth, naill ai dros y ffôn neu - lle bo'n addas - ar y fferm, i ffermwyr yng Ngorllewin Cymru. O’i dechreuadau bach, pan fyddai Eileen yn dosbarthu taflenni gwybodaeth i’r gymuned ffermio leol, mae’r elusen wedi tyfu y tu hwnt i ddisgwyliadau.

Mae Tir Dewi wedi helpu cannoedd o ffermwyr a’u teuluoedd a oedd, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, yn cael trafferth ymdopi. Heddiw, gall ffermwyr mewn angen ledled Cymru gael mynediad at wasanaethau Tir Dewi.

Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts:

“Rydym yn angerddol dros ffermio ac i ni mae’n fwy na swydd – dyma ein ffordd o fyw. Ond er ein bod ni wrth ein bodd yn gweithio’r tir, yn magu’r anifeiliaid ac yn cynhyrchu bwyd maethlon, iachus i’r genedl, mae’n dod â sawl her a brwydr.

Gall fod yn lle unig allan yna a phan fyddwch chi'n delio â'r elfennau, yn boeth neu'n oer, yn wlyb a gwyntog, ac mae'r tasgau'n pentyrru arnoch chi, gall y cyfan fod yn ormod a throi’n frwydr - yn feddyliol ac yn gorfforol. Felly mae’n gysur gwybod bod elusennau fel Tir Dewi ar gael i helpu ein cymuned ffermio a’u harwain trwy gyfnod anodd. Am hyn rydyn ni’n diolch iddyn nhw yma heno yn Sioe Frenhinol Cymru.”

Dywedodd Gareth Davies, Prif Swyddog Gweithredol Tir Dewi:

Unigedd yw’r norm i lawer o ffermwyr sydd hefyd yn gorfod delio â chanlyniad stormydd, ansicrwydd marchnadoedd, incwm y dyfodol ac, erbyn hyn, sgileffeithiau pandemig byd-eang a’r rhyfel yn y Wcráin hefyd, a hynny, yn aml iawn ar ben eu hunain. Nid yw hyn yn iach ac mae angen i ni i gyd fod yn ymwybodol ohono a sut y gallwn helpu. Hoffwn atgoffa’r gymuned amaethyddol fod Tir Dewi yma iddyn nhw.”

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd yr Hybarch Eileen Davies:

“Mae’r 7 mlynedd diwethaf wedi cymryd ymdrech enfawr i recriwtio a datblygu tîm o staff a gwirfoddolwyr sy’n gallu ymateb a chwrdd â’r galw am gymorth gan ein cymunedau ffermio. Maent wedi darparu cymorth ar dros 500 o ffermydd, gan helpu tua 2,000 o unigolion gydag amrywiaeth enfawr o faterion.

Rydyn ni’n falch iawn o’n tîm a’r gwaith maen nhw’n ei wneud, ac mae cael UAC yn cydnabod eu gwaith drwy’r wobr anrhydeddus hon yn aruthrol – mae’n cadarnhau bod ffermwyr Cymru a’u teuluoedd wir yn gwerthfawrogi ein gwaith ac yn rhoi’r anogaeth i ni baratoi i wynebu’r galw cynyddol yn y flwyddyn neu ddwy nesaf yn sgil yr heriau sydd i ddod.”

Diolch i UAC a’i holl aelodau am feddwl amdanom ac am eich cefnogaeth i Tir Dewi.”