UAC yn ymuno â'r genedl wrth longyfarch Cymru am sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 mlynedd

Pan fyddwch chi’n gofyn i Gymro sydd wedi gadael Cymru esbonio beth maent yn ei golli am Gymru, yn ddieithriad, byddan nhw’n sôn am y ‘hiraeth’.

Roedd y teimlad o hiraeth a’r dyhead am rywbeth a oedd wedi bod ar goll ers 1958, yn cael ei deimlo i’r byw gan genedl o Gymry-y Wal Goch-yng Nghaerdydd, ledled Cymru a gan y rhai o bedwar ban y byd, ar nos Sul braf wythnos diwethaf.

Wedi’u dwyn ynghyd gan obaith, a ffydd yn y garfan orau a welwyd gan Gymru ers degawdau, a’r ymdeimlad o gyfeillgarwch a rhyddid ar ôl cyfyngiadau’r cyfnodau clo dros y ddwy flynedd ddiwethaf, roedd dros 30,000 o gefnogwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn chwifio’i baneri a chân yn eu calonnau.

Ac felly tua 7yh nos Sul, daeth y cyfnod 64 mlynedd i ben gyda gôl wych gan Gareth Bale - gyda chymorth capten Wcráin - ond gôl yw gôl, a llwyddodd carfan Rob Page i arwain 1-0 trwy gydol yr ail hanner, gan ddod â chenedl i’w gliniau - gyda chryn ryddhad.

Mynegodd Llywydd UAC Glyn Roberts ei falchder a’i gyffro ynghylch y posibilrwydd y bydd Cymru’n chwarae yng Nghwpan y Byd Qatar gan ddweud:

“Bydd serennu yng Nghwpan y Byd yn codi ymwybyddiaeth o Gymru ar lwyfan rhyngwladol . Fel diwydiant rydym wedi bod yn gweithio’n galed i gael mynediad i farchnadoedd y Dwyrain Canol ers blynyddoedd - beth well na chymryd rhan yng Nghwpan y Byd yn Qatar i gael y maen i'r wal? Mae UAC yn llongyfarch tîm Cenedlaethol Cymru ar eu llwyddiant ac yn dymuno’r gorau iddynt yng Nghwpan y Byd.”

O ran sicrhau ein lle yn y rowndiau nesaf ar ôl gemau Grŵp B yn erbyn UDA, Iran neu Loegr ym mis Tachwedd, mae’n deg dweud bod gan Gymru gyfle teg; ac fel byddai Dafydd Iwan yn ei ddweud "R’yn ni yma o hyd".