Mae UAC wedi ymuno gyda Heddlu Gogledd Cymru er mwyn atgoffa aelodau o’r cyhoedd i gadw eu cŵn ar dennyn yn dilyn llu o ymosodiadau angheuol diweddar ar ddefaid Wil Williams, ffarmwr o Aberdaron.
Wrth siarad gyda’r Undeb yn ddiweddar, meddai PC Dewi Rhys Evans o Dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru:
“Mae’n rwystredig gweld cynifer o ddigwyddiadau o boeni defaid yn ddiweddar. Unwaith eto mae’n ofyn arnom i ymledaenu neges syml: cadwch eich cŵn ar dennyn ac o dan reolaeth. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Prifysgol John Moores, Lerpwl, ar astudiaeth sy’n gobeithio adnabod y dulliau gorau o gasglu DNA ci o anafiadau’r anifeiliaid.”
Dywed Dr Hazel Wright, Uwch Swyddog Polisi UAC:
Mae perchnogion cŵn anghyfrifol yn parhau i fod yn boen i aelodau UAC ac mae’r undeb wedi galw droeon a throeon am bwerau cryfach i’w defnyddio gan yr heddlu, cosbau mwy grym ar gyfer troseddwyr ac i’r Bil LLes Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) i’w wneud yn orfodol bod bob ci yn cael ei gadw ar dennyn pan fyddant yn agos at dda byw.
“Mae modd atal ymosodiadau cŵn a’r gobaith yw daw newid yn y ddeddfwriaeth drwy’r Bil LLes Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) er mwyn diogelu’r da byw a’r cŵn” ychwanegodd Dr Wright.
Meddai Mr Williams:
“Mae’n amlwg bod angen andros fwy o addysg ar bobol cyn bod perchnogion cŵn yn deallt bod angen cadw eu cŵn ar dennyn bob tro o gwmpas da byw, yn ogystal â phwysleisio’r pwysigrwydd o wbod lle mae eich ci chi ar bob adeg".
Pwysleisiodd hefyd:
"Mae’n bwysig bod perchnogion cŵn yn gyfrifol ac yn gwneud yn siwr bod eu cwn yn cael eu cadw mewn lle sâff dros nôs.”
Ychwanegodd Dafydd, ŵyr Mr Williams:
“Mae o’n brifo pan fydd hyn yn digwydd. Mae angen i bobol sylweddoli pa mor beryg ydy eu cŵn pan fyddant oddi ar eu tennyn.”
Yn trafod y mater, dywedodd Rob Taylor, Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru:
“Rydym yn gweld mwy na 300 o ymosodiadau bob blwyddyn gydag anifeiliaid yn cael eu bwystfileiddio a hefyd eu lladd, yn ogystal â chŵn yn cael eu saethu neu eu difa’n drugarog gyda’r perchennog yn ymddangos o flaen y llys. Mae perchnogaeth ci cyfrifol yn allweddol ac mae’n hanfodol cadw anifeiliaid anwes o dan reolaeth ar bob achlysur, neu os wedi eu cadw adref wrtho’u hunain, bod y tŷ neu’r ardd yn ddiogel.”