UAC yn pwysleisio’r pwysigrwydd o gyrchu bwyd lleol mewn cyfarfod â Chyngor Sir Ynys Môn

 

Heddiw (16 Mawrth) mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Gyngor Sir Ynys Môn a Chartwells i drafod sut y gall y sir wasanaethu anghenion maethol plant ysgol yn well, wrth anrhydeddu ei hymrwymiad i gyrchu bwyd yn lleol.

Cododd UAC bryderon am y polisïau caffael ar gyfer prydau ysgol gyda Chyngor Sir Ynys Môn ym mis Hydref y llynedd yn dilyn eu cytundeb gyda’r cyflenwr arlwyo Chartwells i gyflenwi prydau ysgol ar draws y sir.

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod dywedodd Swyddog Gweithredol Sirol UAC Ynys Môn Alaw Jones:

“Mae’n galonogol bod Chartwells wedi ymrwymo i gyrchu 30% o’r holl gynnyrch yn lleol ac o fewn radiws o 60 milltir. Mae ein ffermwyr yn cynhyrchu bwyd rhagorol yma yn Ynys Môn a ledled Cymru. Mae ein bwyd yn cael ei gynhyrchu i safonau iechyd a lles anifeiliaid o’r radd flaenaf, yn cael ei gynhyrchu’n gynaliadwy gan ystyried yr amgylchedd. Mae ein plant yn haeddu elwa o hynny.”

Cododd swyddogion yr undeb bryderon ymhellach ynghylch sut y bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim o 2023 ymlaen yn dylanwadu ar allu Awdurdodau Lleol i gyrchu cynnyrch lleol.

“Byddwn nawr yn monitro sut y bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn ymgorffori polisïau yn y dyfodol i ddarparu prydau ysgol am ddim. Fel bob amser, rydym yn awyddus i barhau i weithio gyda Chartwells a Chyngor Sir Ynys Môn ac yn gobeithio y byddant yn rhoi ei harian ar ei gair. Mae’r Cyngor a Chartwells hefyd wedi ymrwymo i gyrraedd sero net erbyn 2030, a’r ffordd orau iddyn nhw gyflawni hynny yw trwy gyrchu eu cynnyrch o Ynys Môn a chadw’r milltiroedd bwyd i lawr,” meddai.

Holodd swyddogion yr undeb ymhellach sut y bydd Chartwells yn sicrhau na fyddai dylanwadau'r farchnad megis costau mewnbwn yn effeithio ar eu gallu i gynnal yr ymrwymiad i gyrchu cynnyrch lleol.

Ychwanegodd Uwch Swyddog Polisi a Chyfathrebu UAC Gareth Parry:

“Yn sgil costau cynhyrchu bwyd cynyddol yng Nghymru a ledled y byd, ac o ystyried bod yn rhaid i gyflenwyr Chartwells 'sicrhau bod yr holl gig a brynir o darddiad y DU o fewn cyfyngiadau deddfwriaethol ariannol ac ymarferol', pwysleision ni bod rhaid i’w polisi caffael, i gyrchu o ffynhonnell uniongyrchol gan gynhyrchwyr i helpu i liniaru effeithiau dylanwadau marchnad gael ei orfodi.”