UAC yn chwilio enwebiadau am berson llaeth rhagorol yng Nghymru

Unwaith eto, mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) eisiau cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sydd wedi dod yn rhan hanfodol o’r diwydiant yng Nghymru.

Er mwyn cydnabod y fath berson, mae’r Undeb yn chwilio am enwebiadau ar gyfer y wobr, Gwasanaeth Neilltuol i Ddiwydiant Llaeth Cymru UAC.  Cyhoeddir yr enillydd a chyflwynir y wobr yn y Ffair Aeaf Frenhinol Cymru eleni ar ddydd Llun 29ain o Dachwedd.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaerfyrddin David Waters: “Mae yna nifer o unigolion teilwng iawn yng Nghymru sy’n haeddu’r wobr yma, ac wrth edrych nôl, rydym wedi cael enwebiadau ac enillwyr gwych.  Felly os ydych yn nabod person yng Nghymru sydd wedi cyfrannu’n helaeth tuag at ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sydd wedi dod yn rhan hanfodol ohono yng Nghymru, yna ewch ati i’w henwebu nhw ar gyfer y wobr urddasol hon.”

Dylai’r enwebiadau fod ar ffurf llythyr yn rhoi manylion llawn gwaith a chyflawniadau’r enwebedig a’i e-bostio i swyddfa UAC Sir Gaerfyrddin neu ei anfon trwy'r post i UAC Caerfyrddin, 13A Barn Road, Caerfyrddin, SA31 1DD erbyn dydd Gwener 12fed o Dachwedd 2021.