‘Rhaid sicrhau bod y cymorth ar gyfer iechyd meddwl yn aros ar frig yr agenda’ - meddai UAC ar drothwy Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a Llywodraethau i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau i fod ar frig yr agenda, ar drothwy Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (dydd Sul, 10 Hydref).

Nod ymgyrch Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2021 ‘Iechyd Meddwl mewn Byd Anghyfartal’, sy’n cael ei gynnal gan Ffederasiwn Iechyd Meddwl y Byd yw canolbwyntio ar y materion sy’n achosi anghydraddoldeb iechyd meddwl yn lleol ac yn fyd-eang.

Dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: “Rydym yn ffodus yng Nghymru ac yn ein cymunedau gwledig bod gennym gefnogaeth llawer o elusennau iechyd meddwl fel y DPJ Foundation, a bod ein ffermwyr a’n cymunedau gwledig yn medru troi atynt am help. Fodd bynnag, mae llawer o bobl â salwch meddwl yn parhau i beidio derbyn y driniaeth y mae ganddynt hawl iddo, ac yn haeddiannol ohono, ynghyd â'u teuluoedd a'u gofalwyr sy’n parhau i orfod dioddef stigma a gwahaniaethu.”

Mae Ffederasiwn Iechyd Meddwl y Byd wedi tynnu sylw at y ffaith bod mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn parhau i fod yn anghyfartal, gyda rhwng 75% i 95% o bobl ag anhwylderau meddwl mewn gwledydd incwm isel a chanolig yn methu â chael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl o gwbl, ac nid yw mynediad mewn gwledydd incwm uchel lawer gwell.

“Yn anffodus, mae’r bwlch rhwng y ‘rhai sydd’ a’r ‘rhai sydd ddim’ yn tyfu’n ehangach ac nid yw pobl â phroblemau iechyd meddwl bob amser yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt. Mae'n hanfodol nad yw hyn yn diflannu oddi ar agenda'r llywodraeth ac anogaf Lywodraeth Cymru a'r DU i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu blaenoriaethu, fel nad yw’n troi’n loteri cod post o ran pwy sy’n derbyn gofal ai peidio,” ychwanegodd.