UAC yn lansio ymgyrch codi ymwybyddiaeth am gam-drin domestig yn ein cymunedau gwledig

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC), mewn cydweithrediad â’r DPJ Foundation a heddluoedd ledled Cymru, yn rhoi sylw i’r cynnydd mewn cam-drin domestig yn ein cymunedau ers i gyfyngiadau Covid 19 ddod i rym llynedd.

Mae yna lawer o sgileffeithiau yn deillio o gam-drin domestig, gan gynnwys datblygu gorbryder, iselder a chyflyrau iechyd meddwl eraill, ac ymrwymodd UAC i gadw'r sylw ar faterion iechyd meddwl cyhyd â'i fod yn parhau i fod yn broblem yn ein cymunedau gwledig, ac mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn anodd i lawer.

I lawer o bobl, nid yw'r cartref yn lle diogel ac mae cyfyngiadau Covid-19 wedi cynyddu'r unigedd a ddioddefir gan lawer, sy'n aml yn cael ei waethygu yn ein cymunedau gwledig. Mae hefyd wedi bod yn anoddach i ddioddefwyr cam-drin domestig i ofyn am gymorth ar adeg pan mae nifer yr achosion o gam-drin domestig wedi cynyddu, sydd hyd yn oed yn fwy dwys yn rhai o'n cymunedau gwledig ynysig.

Yn ôl yr Arolwg Troseddau ar gyfer Cymru a Lloegr rhwng Mawrth 2020 a 2021, bu twf o 7% yn y troseddau cam-drin domestig a gofnodwyd gan yr heddlu ond mae gwasanaethau cymorth wedi gweld cynnydd mwy, gyda llawer o ddioddefwyr ddim yn ceisio cyfiawnder trwy'r system cyfiawnder troseddol. Mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi gweld cynnydd o 12% yn nifer yr achosion cam-drin domestig a gyfeiriwyd ac mae llawer o elusennau fel y DPJ Foundation wedi gweld cynnydd mewn galwadau ynghylch cam-drin domestig dros yr amser hwn.

Fel rhan o'r ymgyrch, bydd UAC yn darparu Hyfforddiant Cam-drin Domestig i bob aelod o  staff er mwyn deall cam-drin domestig yn well a sut i gyfeirio pobl at gymorth arbenigol.

Wrth lansio’r ymgyrch yn Sioe Brynbuga ddydd Sadwrn 11 Medi, dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: “Codwyd llawer o ymwybyddiaeth dros y 5 mlynedd diwethaf a bu cynnydd cyson wrth godi ymwybyddiaeth a hyder yn ein cymuned ffermio i dderbyn bod hi’n iawn i beidio bod yn iawn, ac nad yw gofyn am help yn arwydd o wendid, ond yn hytrach yn angenrheidiol er mwyn i'n ffermwyr a'u teuluoedd aros yn gryf.

“Fodd bynnag, er mwyn i’n meddyliau fod yn iach, mae angen i ni hefyd fod mewn amgylcheddau iach ac amgylchynu ein hunain gyda phobl a all ein helpu, nid ein cam-drin. O ystyried yr ystadegau trist hyn ar gam-drin domestig, rydym yn ymuno â'n helusen, y DPJ Foundation a heddluoedd ledled Cymru i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r hyn yw cam-drin domestig a sut y gallwch gael yr help sydd ei angen arnoch."

Diffiniad llywodraeth y DU o drais domestig yw ‘unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad rheolaethol, gorfodol, bygythiol, trais neu gam-drin rhwng y rhai sy’n 16 oed neu drosodd sydd, neu a fu, yn bartneriaid agos neu aelodau teulu waeth beth fo’u rhyw neu rywioldeb. Gall y cam-drin fod yn, ond nid yw’n gyfyngedig, i seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol, emosiynol.’

Dywedodd Kate Miles, Rheolwr Elusen y DPJ Foundation. “Yn DPJ Foundation, rydyn ni'n darparu llinell gymorth gyfrinachol i bobl sydd eisiau siarad, sydd angen help neu a allai fod yn cael trafferth â'u hiechyd meddwl. Gall galwadau fod ar unrhyw fater, ac yn ystod ac yn dilyn cyfnodau clo coronafirws, gwelsom gynnydd mewn galwadau ac ymholiadau yn ymwneud â cham-drin domestig. O ganlyniad rydym wedi darparu hyfforddiant i'n gwirfoddolwyr mewn Ymwybyddiaeth Cam-drin Ddomestig sy'n golygu y gallant gefnogi'r bobl hynny sy'n ffonio, sydd o bosib mewn perthynas ac yn cael eu cam-drin, p'un a ydynt yn sylweddoli hynny neu beidio."

Yn anffodus, gall unrhyw un ddioddef o gam-drin domestig - nid y rhai hynny sy'n wan a menywod yn unig. “Rydyn ni'n derbyn galwadau gan ddynion sy'n cael eu rheoli neu’n cael eu cam-drin gan eu partneriaid ac rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig ein bod ni i gyd yn cydnabod yr hyn a all fod yn ymddygiad ymosodol. Rydym hefyd wedi cefnogi pobl sy’n dioddef o gamdriniaeth gan y teulu, rhwng cenedlaethau,” ychwanegodd Kate Miles.

Gall ymddwyn mewn ffordd ymosodol hefyd fod yn arwydd o iechyd meddwl gwael - a gall help i'ch iechyd meddwl arwain at newid cadarnhaol mewn ymddygiad. “Rydyn ni eisiau annog unrhyw un sy’n poeni am eu hymddygiad neu ymddygiad rhywun arall i ofyn am help. Gellir gwneud hyn yn gyfrinachol ac ni fyddwn yn eich barnu chi na neb arall. Gall ein gwirfoddolwyr a'n cwnselwyr eich cefnogi chi i gael help, p’un ai chi yw’r dioddefwr neu'r cyflawnwr,” ychwanegodd.

Dywedodd Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru, Rob Taylor: “Nid oes gan gam-drin domestig ffin, boed yn gorfforol neu'n feddyliol. Gall dynion a menywod o bob oedran a chefndir fod yn ddioddefwyr ac yn sicr nid yw wedi'i gyfyngu i ardaloedd trefol. Mae’n hollbwysig ein bod yn gallu estyn allan i'n cymunedau gwledig i gynnig cefnogaeth i'r rhai sy'n ynysig ac yn dioddef yn ddiangen. Ni ddylai unrhyw un deimlo'n unig ac mae'n hanfodol ein bod yn cyfleu'r neges bod yna bobl o lawer o ardaloedd a sefydliadau o fewn Cymru a all helpu. Yn fy rôl newydd fel Cydlynydd Heddlu Gwledig Cymru, byddaf yn sicrhau bod y gwasanaeth gorau posibl ar gael i'r rhai hynny yn ein cymunedau gwledig, i helpu'r rhai sydd ein hangen, trwy dynnu ynghyd y bobl anhygoel sydd gennym yma yng Nghymru."