UAC yn edrych ymlaen at Sioe Brynbuga

Mae Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant FUW yn edrych ymlaen at groesawu aelodau a chwsmeriaid i Sioe Brynbuga ar ddydd Sadwrn 11 o Fedi.

Bydd y digwyddiad, sy'n un o’r ychydig rai i’w cynnal eleni, yn digwydd ar Faes Sioe Brynbuga, Gwernesni, Brynbuga ac mae'n addo bod yn ddiwrnod prysur a llwyddiannus i ddathlu'r gorau o fywyd ffermio a gwledig Sir Fynwy.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Forgannwg a Gwent, Sharon Pritchard: “Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i groesawu ffrindiau, teulu, aelodau, cwsmeriaid Gwasanaethau Yswiriant FUW a phawb sydd am ddarganfod mwy am yr Undeb i’n pabell ar y diwrnod. Rydym yn falch o allu cefnogi'r digwyddiad hwn, cwrdd â phobl yn bersonol ac rydym yn obeithiol bod digwyddiadau fel hyn yn arwydd o bethau’n dychwelyd i normal.”

Yn ymuno â grŵp UAC Cyf. ar y diwrnod mae DPJ Foundation, Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru, Rob Taylor, a swyddogion o Heddlu Gwent. Mae'r swyddfa sir hefyd wedi trefnu raffl a chystadleuaeth i blant.

“Yn ogystal â chroesawu gwleidyddion lleol i’n pabell i drafod materion ffermio hollbwysig, bydd gan aelodau gyfle i drafod pryderon iechyd meddwl a throseddau gwledig trwy gydol y dydd hefyd. Gwnaethom ymrwymiad i gadw'r sylw ar faterion iechyd meddwl cyhyd â'i fod yn parhau i fod yn broblem yn ein cymunedau gwledig ac mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn anodd i lawer.

“Gyda hyn mewn golwg, rydym yn edrych ymlaen at lansio ymgyrch nesaf UAC mewn cydweithrediad â DPJ Foundation a heddluoedd ledled Cymru, gan roi sylw ar y cynnydd o gam-drin domestig a’r effaith y mae’n ei gael ar iechyd meddwl pobl. Gwahoddir aelodau i ymuno â ni ar gyfer y lansiad hwn am 11.30yb yn ein pabell,” ychwanegodd Sharon Pritchard.

Rhaid i’r rhai hynny sy’n dymuno mynychu’r sioe archebu eu tocynnau ar-lein ymlaen llaw er mwyn cydymffurfio â gwasanaeth Profi ac Olrhain y Llywodraeth ac ni fydd unrhyw docynnau ar gael wrth y giât eleni. Am fwy o wybodaeth ac i archebu tocynnau, ewch i https://www.uskshow.co.uk/