Datganiad Undeb Amaethwyr Cymru wrth gofio’r Arglwydd Elystan Morgan

Gyda thristwch y bu i Undeb Amaethwyr Cymru glywed am farwolaeth yr Arglwydd Elystan Morgan.  Bu cyfraniad Elystan Morgan yn sylweddol a hynny yng nghyd-destun Cymru, y Gymraeg, Amaethyddiaeth ac wrth gwrs, Sir Aberteifi.  Rydym fel swyddogion ac aelodau’r Undeb yn falch o’r cyfle hwn i dalu teyrnged i un o gymeriadau mawr y byd gwleidyddol yng Nghymru dros yr hanner canrif ddiwethaf.

Yn naturiol, fe allem nodi ei yrfa Seneddol, boed fel Aelod Seneddol dros Sir Aberteifi rhwng 1966 ac 1974 a’i wasanaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi dros gyfnod o bron i ddeugain mlynedd rhwng 1981 a 2020. Gallem hefyd sôn am ei waith diflino’n arwain ymgyrch ddatganoli 1979 a’r cyfraniad mawr a wnaethpwyd ganddo’n dawel effeithiol wrth gyfrannu at gryfhau’r setliad datganoli a ddaeth yn dilyn y bleidlais yn 1997.  Yn ogystal, gallem drafod ei yrfa ddisglair ym myd y gyfraith a’i gyfnod maith yn Farnwr uchel iawn ei barch.  Fel Undeb yr ydym yn falch o nodi ei gyfraniad diffuant i Gymru a chefn gwlad ynghyd â’r ymroddiad fu ganddo gydol ei oes i’r Gymraeg.

Fel gwleidydd yr oedd gan Elystan Morgan ddealltwriaeth a chydymdeimlad cynhenid tuag at ofynion byd amaeth a Chymru wledig, a oedd yn rhan bwysig o’i waith fel Aelod Seneddol dros ei sir enedigol.  Rhoddodd ymrwymiad cyffelyb yn ei gyfnod yn Nhŷ’r Arglwyddi lle’r oedd yn fodlon amddiffyn buddiannau cefn gwlad a Chymru’n gyson.  Bu’n bresennol droeon yn y cinio blynyddol a arferai gael ei gynnal gan yr Undeb yn Nhŷ’r Arglwyddi ac yn y digwyddiadau a gâi eu cynnal yn y Senedd i nodi wythnos brecwast fferm yr Undeb.  Roedd y digwyddiadau hyn yn fodd o ddathlu hynodrwydd cynnyrch cefn gwlad Cymru tra hefyd yn creu ymwybyddiaeth o ofynion byd amaeth ymysg gwleidyddion.  Roedd presenoldeb Elystan Morgan yn sicrhau bod negeseuon yr Undeb yn cael gwrandawiad a lladmerydd cadarn ar y meinciau coch. 

 Roedd Elystan Morgan hefyd yn fodlon ymwneud â’r Undeb yn gymdeithasol ac un digwyddiad sy’n aros yn y cof yw cinio mawreddog yng Ngwesty’r Marine yn Aberystwyth ar 8 Ebrill 2006.  Dyma’r cinio cyntaf i’r Undeb ei drefnu i nodi ‘Cyfraniad Unigryw i Fyd Amaeth Cymru’.  Penderfynwyd cyflwyno’r wobr hon am y tro cyntaf i Dai Jones, neu Dai Llanilar i’r mwyafrif ohonom.  Penderfynodd Dai y dylid cael Elystan Morgan yn ŵr gwadd a dyna a fu.  Cafwyd digwyddiad arbennig iawn gyda phob tocyn wedi’i werthu, nid yn unig i’r ystafell fwyta fawr yn y Marine ond hefyd i nifer o ystafelloedd eraill gydag uchelseinydd yn cario llais y siaradwr gwadd i’r rhai hynny nad oeddent yn ddigon ffodus i fod yn y brif ystafell.  Roedd hi’n noson hwyliog gyda dawn trin geiriau rhyfeddol yn cael ei defnyddio i gyflwyno neges bwrpasol, a’r ddau hen ffrind, Elystan a Dai, ar ben eu digon. 

Yn ei lyfr ‘Atgofion Oes’ braf oedd gweld Elystan Morgan yn cyfeirio at un o sylfaenwyr a hoelion wyth cynnar yr Undeb, sef D.J Davies, Panteryrod (sef tad Maelgwyn Davies).  Cyfeiriodd ato fel ffermwr galluog, huawdl, herfeiddiol a hynod liwgar gan nodi iddo ddod o fewn 2,200 pleidlais i ennill sedd Ceredigion i’r Blaid Lafur yn 1964 gan flaenaru’r tir i Elystan Morgan gipio’r sedd yn 1966.

Y mae colli’r Arglwydd Elystan Morgan yn fater nid yn unig o golli cyfaill da i fyd amaeth yng Nghymru a’r Undeb hon yn benodol, (ond hefyd yn dynodi rhyw ddiwedd ar gyfnod lle’r oedd gwleidyddion yn uchel eu parch ac yn credu mewn datgan eu safbwyntiau’n onest).  Fe fydd colled fawr ar ei ôl ac fel Undeb, hoffem estyn ein cydymdeimlad at ei deulu a’i gyfeillion.