Y tad a'r ferch o Eryri sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd archwilio carbon ar y fferm

Mae Dylasau Uchaf yn fferm denant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn gartref i’r teulu Roberts.  Mae Glyn a’i ferch Beca’n cadw llygad barcud ar y tir a’r da byw yma yng Nghwm Eidda, sy’n cuddio rhwng uwch Conwy a Machno.  Mae’r fferm ddefaid a bîff tua 4 milltir o Fetws y Coed a 3 milltir o Ysbyty Ifan.

Mae llawer wedi newid i fyny yma yn ystod y pum mlynedd diwethaf, meddai Glyn Roberts, sy'n cymryd ei gyfrifoldeb o gynhyrchu bwyd a gofalu am y tir o ddifrif.  Gan weithio gyda Phrifysgol Bangor a Hybu Cig Cymru (HCC), cynhaliwyd archwiliad carbon ar y fferm, yn tynnu sylw at y pethau mae’r busnes yn eu gwneud yn dda a’r pethau sydd angen eu gwella er mwyn lleihau allyriadau carbon.

Gan ddefnyddio canlyniad yr archwiliad carbon, mae'r teulu'n gobeithio bod mewn gwell sefyllfa i dynnu sylw at feysydd o welliannau a gostwng eu hôl troed carbon trwy gynyddu effeithlonrwydd, gostwng cost porthiant a chynyddu cyfradd twf, llai o ddyddiau torri, lleihau baich afiechyd, lleihau'r defnydd o wrtaith trwy wybod anghenion y fferm a hefyd defnyddio llai o danwydd, i gyd yn bethau sy'n cael eu hystyried yn awr.

Dywedodd Glyn: “Cawsom archwiliad carbon yma ar y fferm, ac yn sgil rhai o’r canlyniadau, mi fuon ni’n ystyried sut a ble y gallwn wella’n dull o ffermio.  Mae canlyniadau’r archwiliad yn dangos bod y gwartheg yn well na’r cyfartaledd o ran eu hôl troed carbon ar gyfer y math yma o fferm, ac mae perfformiad y defaid yn un weddol gyfartalog.  Mae’n gwneud synnwyr ein bod yn well na’r cyfartaledd o ran y gwartheg oherwydd dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi newid brid a natur y buchod sydd gennym yma.”

Un cam ar y blaen, penderfynodd Glyn a Beca newid y math o wartheg maent yn cadw ar y fferm. “Rydyn ni nawr yn cadw buwch lawer llai, mwy effeithlon, ac wedi symud i ffwrdd o’r bridiau cyfandirol a oedd yn pwyso tua 800kg i 900kg. Mae'r bridiau llai rydyn ni'n eu cadw nawr tua 550kg i 600kg. Mae'r gymhareb pwysau diddyfnu lloi a phwysau byw ar y fuwch bellach yn llawer gwell,” esboniodd.

Mae Glyn yn glir bod yna lawer o ffactorau effeithlonrwydd eraill sy'n cyfrannu at yr ôl troed carbon a'r allyriadau. “Ar hyn o bryd mae ein holl fuchod yn lloia fel heffrod yn ddwy oed, ac mae hynny'n help mawr. Byddai'r gwartheg cyfandirol yn lloia rhwng dwy a hanner a thair oed. Felly byddai gennym 12 mis ychwanegol o allyriadau ar y fferm - mae hynny'n cael sylw nawr.

“Rydyn ni hefyd yn edrych ar werthoedd brîd y teirw rydyn ni'n prynu, gan ystyried rhwyddineb lloia, cyfradd twf ac effeithlonrwydd porthiant. Er enghraifft, fe allech chi fwydo anifail 10kg o ddwysfwyd a byddai hynny'n arwain at 1.5kg o ennill pwysau byw, ond mae yna rai ffigurau i ddangos ei bod hi'n bosibl ennill 1.5kg mewn pwysau trwy fwydo 8kg yn lle. Os ydym yn edrych ar yr allyriadau a'r ôl troed carbon, rydym yn ystyried faint o borthiant y mae'r anifail yn ei gael a pha mor hir y mae'n ei gymryd iddo dyfu. Os gallwch chi leihau’r bwyd a’r amser y mae’r anifail hwnnw ar y fferm, mae’r cyfan yn bositif,” meddai.

Fodd bynnag, edrych ar effeithlonrwydd y da byw yw un agwedd yn unig ar y gwaith sy'n cael ei wneud yma i sicrhau bod y system ffermio yn cadw ei hôl troed carbon yn isel. Dywedodd Beca, sy’n ffermio ochr yn ochr â’i thad: “Rydyn ni hefyd yn ystyried faint o wrtaith rydyn ni’n ei ddefnyddio ac wedi cymryd agwedd newydd at ein system bori dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac wedi dechrau pori cylchdro. Mae hynny'n golygu bod padogau wedi'u gwahanu a'u rhannu'n adrannau. Mae'r defaid a'r gwartheg yn mynd i un rhan am ddau i dri diwrnod cyn cael eu symud i'r un nesaf.

“Mae'r stoc yn mynd i mewn i bori ar 2600kg o ddeunydd sych yr hectar ac allan ar 1500kg o ddeunydd sych. Rwy'n mynd o amgylch y caeau ac yn mesur uchder y borfa gyda mesurydd plât yn wythnosol ac yna dwi'n gwybod pa borfa sydd ar gael ar gyfer y stoc. Pan fyddan nhw'n mynd i gae dwi'n gwybod yn union sawl diwrnod o bori sydd gen i yno iddyn nhw yn y cae hwnnw cyn iddyn nhw symud i'r rhan nesaf. ”

Mae caniatáu i'r da byw dim ond tri diwrnod ar y borfa honno, yn golygu bod cyfnod gorffwys o 30 diwrnod cyn i'r stoc fynd i mewn yno eto.

“Mae ei wneud fel hyn yn golygu y gallwn dyfu mwy o borfa, gyda llai o ddwysfwyd ar y fferm. Fe wnaethon ni ddarganfod yr haf a’r hydref y llynedd ein bod ni wedi defnyddio cyn lleied â phosibl o wrtaith ac mae’r system bori cylchdro yn wirioneddol yn gweithio i ni. Fe arbedodd arian ond roedd hefyd yn golygu llai o allyriadau yma ar y fferm. Mae porfa yn tyfu porfa. Os gallwch chi dyfu mwy o borfa ar y fferm, rydych chi'n defnyddio llai o ddwysfwyd. Rydym hefyd yn defnyddio llai o dir ar gyfer yr anifeiliaid, felly gallwn gynhyrchu mwy ar lai o dir. Mae hynny'n fwy effeithlon yn economaidd,” eglura Beca.

Trwy wneud y pori cylchdro, mae tystiolaeth wedi dangos, bod gwreiddiau’r borfa yn cryfhau ac yn ddyfnach. Po ddyfnaf yw'r gwreiddyn, y gorau y mae'n agor y pridd i fyny felly mae'n awyru'r ddaear yn naturiol a gellir storio mwy o garbon. Yr hyn nad ydych chi ei eisiau yw pridd cywasgedig, oherwydd bydd y dŵr yn rhedeg i ffwrdd ac yn golchi'r pridd i ffwrdd hefyd. Dim ond ar gaeau silwair gyda chrib ymlusgol y mae slyri yn cael ei roi felly nid oes dŵr ffo. Mae'n fwy effeithlon oherwydd ei fod yn mynd yn syth i'r man sydd ei angen,” ychwanega Glyn.

Mae Beca hefyd wedi dechrau monitro sut mae'r gwartheg sy'n pori ar y mynydd yn effeithio ar fioamrywiaeth ac yn defnyddio ffensys trydan ar gyfer pori cylchdro yno hefyd. “Fe wnaethon ni rannu’r ardal yn bedair rhan ar y mynydd ac yna gwneud y cylchdro gyda’r gwartheg. Cyn i'r gwartheg fynd i mewn, gwnes ddadansoddiad o'r rhywogaeth planhigion, ac yna eto ar ôl i'r gwartheg symud allan. Bu newid sylweddol a chynyddwyd yr amrywiaeth mewn rhywogaethau planhigion a bioamrywiaeth. Yn sicr, bydd y gwartheg yn mynd yn ôl i fyny eto eleni i barhau i wella'r llystyfiant hwnnw,” meddai.

Mae Beca’n meddwl bod gan amaethyddiaeth lawer o bethau i weithio ar, fel pob diwydiant arall. Meddai Beca: “Mae gan bob fferm gyfrifoldeb i wybod eu hôl troed carbon ac yna gweithio i’w leihau. Rydyn ni wedi gweld ein hôl troed carbon, ac felly’n gwybod beth sy'n iawn a beth sydd angen i ni weithio arno i wella ein hôl troed carbon. Mae gennym lawer mwy o bethau cadarnhaol yn y diwydiant amaethyddol nag sydd o bethau negyddol. Ond mae angen i ni newid, a bydd angen i lawer o ffermydd newid i fod yn fwy effeithlon o ran ffermio da byw a defnyddio porfa. 

“Rydyn ni’n gwneud llawer ar hyn o bryd ond gallwn ni fod yn well. Mae defnyddio mwy o borfa yn golygu llai o ddwysfwyd ac mae hynny'n bositif iawn i'r fferm a'r amgylchedd. Mae llawer o ffermydd eisoes yn plannu coed a gwrychoedd ac wedi gwneud hynny ers blynyddoedd. Ond y cam nesaf yw gwella effeithlonrwydd mewn ffermio da byw. Mae gan eneteg ran fawr i'w chwarae felly rydyn ni nawr yn edrych ar ddata teirw a hyrddod er enghraifft ac yna'n gwneud penderfyniad yn seiliedig ar hynny.”

Gyda'r drefn bori newydd ar waith, buan y sylweddolodd Glyn a Beca fod cael dŵr i'r gwartheg a'r defaid yn creu her arall. Pwysleisia Glyn: “Gyda’r newid yn ein trefn bori gwnaethom sylweddoli bod yn rhaid i ni beipio dŵr o gronfa wrth gefn. Bellach mae gennym danc 4,000 litr sy'n dod â dŵr, yn ôl disgyrchiant, i'r caeau mewn tanciau trwy bibell. Oherwydd ein bod wedi ehangu’r tanc dŵr, rydym wedi gallu ffensio coridorau wrth ymyl y dyfrffos fel na all y da byw fynd i mewn a gwneud y dŵr yn fudr.

“Mae rhai o’r coridorau hynny bellach wedi cael eu plannu â gwrychoedd. Rydyn ni newydd gwblhau coridor hanner milltir ar hynny. Mae'n atal yr anifeiliaid rhag llygru'r dŵr ac mae'n atal erydiad pridd hefyd."

Nid yw’r tîm tad a merch wedi bodloni ar hynny’n unig ac mae gwelliannau pellach i’r system ffermio’n cynnwys blocio rhai o ffosydd y ffridd ar y mynydd, atal dŵr ffo rhag llifo i’r afon Conwy, ac i fynd i’r afael ag erydiad pridd posib, maent wedi gosod arwyneb solet ar fannau bwydo da byw yn y caeau.  Hefyd, crëwyd cwlfertau i fynd dros ffosydd fel nad yw’r tractor yn gorfod gyrru trwyddynt a baeddu’r dŵr.

Dros y 25 mlynedd diwethaf mae’r teulu wedi plannu 4.5 milltir o wrychoedd ar y fferm, ac eleni maent wedi plannu tua 300 o goed mewn clytiau ar draws y fferm. 

“Maent yn fathau collddail brodorol fel derw.  Dewiswyd ble i’w plannu mewn cydweithrediad â warden yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i wneud yn siŵr eu bod yn y llefydd iawn ac yn rhywle lle byddent yn gweithio. Ni fyddai plannu coed ar hap ar draws y tir yn gweithio i’r coed, yr amgylchedd na chynhyrchu bwyd,” esboniodd Beca.

Er mwyn mynd i’r afael â phroblemau llygredd dŵr ar y fferm 30 mlynedd yn ôl, gweithiodd Glyn gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Asiantaeth Dŵr (Cyfoeth Naturiol Cymru erbyn hyn) i roi mesurau yn eu lle i sefydlu system hidlo dŵr gyda choed Helyg.  Eglura: “Cawsom broblem gyda dŵr budr yma ar yr iard ac nid oeddwn yn siŵr sut i fynd i’r afael â’r sefyllfa. Yr ateb a ddewiswyd gennym oedd gwahanu'r dŵr budr o'r dŵr glân trwy system hidlo naturiol.

“Aeth y dŵr glân o’r cwteri yn ôl i’r nentydd ac mae’r dŵr budr o’r iard yn cael ei beipio i mewn i bwll bach. O dan y pwll hwnnw rydyn ni wedi plannu coed helyg - yr egwyddor yw bod y dŵr budr yn darparu maetholion i'r coed dyfu. O'r pwll yma mae system ddraenio igam-ogam, ac mae coed helyg wrth ei ymyl i echdynnu'r maetholion a gronynnau eraill o'r dŵr. Ar ôl i'r dŵr fynd i lawr i waelod y blanhigfa, mae'n cael ei bwmpio'n ôl i fyny i'r pwll i fynd trwy'r blanhigfa ddwywaith.

“Mae'r ateb hwn yn gweithio'n dda iawn. Mae'r helyg yn cael ei dorri bob 7 mlynedd, ac mae rhai ohono’n cael eu defnyddio fel blawd llif o dan y gwartheg ac mae'r lleill yn cael eu defnyddio fel coed tân yma yn y tŷ. Rydym hefyd yn arbrofi gyda’r helyg i weld a allwn atal yr erydiad yn afon Conwy trwy ychwanegu clawdd o doriadau helyg yn nhroadau naturiol yr afon.”

Mae Glyn a Beca yn teimlo’n gryf bod ffermwyr yn gofalu am yr amgylchedd, ac nad yw’n wir fod ffermwyr yn cam-drin yr amgylchedd. Dywed Glyn: “Ar ddiwedd y dydd, mewn amaethyddiaeth mae gennym dri adnodd pwysig: tir, llafur a chyfalaf. Yr un pwysicaf yw'r tir. Os na fyddwn yn gofalu am y tir, ni allwn ffermio'r tir hwnnw felly mae'n bwysig ein bod yn gofalu amdano.”

“Mewn blynyddoedd i ddod, hoffem roi paneli solar ar y siediau. Bydd ceir, tryciau a thractorau trydan yn dod yn y diwedd - felly os gallwn gynhyrchu ein trydan ein hunain mewn modd adnewyddadwy a bod yn ecogyfeillgar, yna bydd hynny o fudd i'r fferm a'r amgylchedd. Pam symud i geir trydan os yw'r pŵer hwnnw'n bŵer budr. Rhaid iddo fod yn adnewyddadwy. Ar y cyfan, rydyn ni'n hollol glir - dylai popeth weithio a ffitio gyda'i gilydd fel jig-so. Ni allwch gael darn o'r pos hwnnw ar goll.

“Fel ffermwyr nid ydym yn fygythiad i gynhesu byd-eang. Ni yw'r ateb. Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd gyda'r llywodraeth, rhanddeiliaid a'r cyhoedd i gyrraedd nodau cydfuddiannol o leihau cynhesu byd-eang ar gyfer dyfodol gwell, glanach ac iachach,” meddai Beca.