UAC yn tynnu sylw at bryderon gydag arweinwyr amaethyddol y prif bleidiau gwleidyddol cyn yr etholiadau

Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, a’r Dirprwy Lywydd Ian Rickman wedi cyfarfod ag arweinwyr amaethyddol y prif bleidiau gwleidyddol cyn etholiadau Senedd Cymru, gan dynnu sylw at bryderon y diwydiant a Gofynion Allweddol Maniffesto'r Undeb.

Gan groesawu’r cyfle i gwestiynu amrywiol addewidion a wnaed gan y pleidiau yn eu maniffestos roedd y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yn gallu pwysleisio pwysigrwydd y Llywodraeth nesaf i ymrwymo i sefydlogrwydd, ffermydd teuluol, cefnogi cymunedau gwledig a swyddi Cymru, amaethyddiaeth gynaliadwy a gwobrwyo canlyniadau amgylcheddol.

Bydd yr Undeb yn dwyn y pleidiau i gyfrif ar eu hymrwymiadau i ffermio ac yn gweithio'n agos gyda'r Llywodraeth nesaf i sicrhau bod polisïau'r dyfodol yn cefnogi ffermydd teuluol ffyniannus, cynaliadwy - er budd yr economi wledig, yr amgylchedd, diogelu'r cyflenwad bwyd a'n diwylliant gwledig a thraddodiadau unigryw.

Dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: “Trafodwyd cynigion papur gwyn y Bil Amaethyddiaeth yn helaeth, oherwydd eu canlyniadau pellgyrhaeddol i’n diwydiant a’i hyfywedd tymor hir. Ar ben hynny mae rheoliadau NVZ, addewidion plannu coed, ymrwymiadau'r pleidiau i neilltuo'r gyllideb amaethyddol, TB, y siom am y diffyg ymrwymiad i roi cap ar drothwyon taliadau er mwyn ffafrio ffermydd teuluol, a chymhlethdod posibl cynllun nwyddau cyhoeddus wedi cael eu trafod yn fanwl gan yr Undeb a'r pleidiau dros yr wythnosau diwethaf.

“Er bod ymrwymiadau cadarnhaol i gymunedau ffermio Cymru, ni fu erioed etholiad mwy hanfodol ar gyfer dyfodol y sector amaethyddol yng Nghymru. Bydd UAC yn parhau i lobïo dros bolisïau pwrpasol i Gymru nawr ac yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Dirprwy Lywydd UAC, Ian Rickman: “Nid yw’r Undeb wedi gadael unrhyw garreg heb ei throi yn ein hymdrechion i bwysleisio pwysigrwydd gwahanol feysydd polisi i’r rhai fydd yn gwneud penderfyniadau yn y dyfodol. Nid yw UAC yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol, ac felly mae'n ddyletswydd arni i weithio gyda'r llywodraeth sydd mewn grym a'r gwrthbleidiau, waeth beth yw eu tueddiadau gwleidyddol.

“Am gyfnod Senedd nesaf Cymru a thu hwnt, rydym wedi ymrwymo i lobïo pawb yng Nghaerdydd i sicrhau bod amaethyddiaeth a ffermydd teuluol yn cael y sylw a’r parch y maent yn eu haeddu - er mwyn dyfodol pawb.”

Os ydych am adfywio'ch gwybodaeth o'r hyn y mae'r pleidiau wedi'i addo, dyma'r dolenni i'w maniffestos priodol:

Plaid Cymru: https://www.partyof.wales/manifesto  

Plaid Cymru rural manifesto: https://d3n8a8pro7vhmx.cloudfront.net/plaid2016/pages/10962/attachments/original/1618859751/English_-_Rural_Manifesto.pdf?1618859751  

Labour manifesto:  https://movingforward.wales/    

Conservatives manifesto: https://www.conservatives.wales/plan-recovery-and-change  

Liberal Democrats manifesto: https://www.welshlibdems.wales/manifesto  

FUW manifesto: https://www.fuw.org.uk/media/attachments/2021/04/09/senedd_manifesto-2021-interactive-eng.pdf

FUW key asks: https://www.fuw.org.uk/media/attachments/2021/04/19/10-key-asks-english-final.pdf