Newidiadau arfaethedig i ddeddfau poeni da byw a mwy o ddefnydd o dechnoleg yn rhoi gobaith i ffermwyr

Clywodd ffermwyr yng Nghymru, sy'n rhwystredig gydag ymosodiadau cŵn ar dda byw parhaus, y gallai newidiadau arfaethedig i'r gyfraith helpu heddluoedd ledled Cymru a Lloegr i ddelio â digwyddiadau o'r fath yn fwy effeithiol ac atal perchnogion cŵn anghyfrifol rhag achosi difrod gwerth miloedd o bunnoedd i'r diwydiant da byw.

Wrth siarad mewn gweminar gwybodaeth ar gŵn yn poeni da byw, a gynhaliwyd ar y cyd rhwng CFfI ac Undeb Amaethwyr Cymru, eglurodd Rheolwr Tîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru a Chadeirydd grŵp Troseddau Da Byw Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu Rob Taylor, bod Deddf Cŵn (Amddiffyn Da Byw) 1953 yn wan ac nid yw bellach yn cyflawni ei diben.

“Mae'r Ddeddf yn dyddio o ddechrau'r 1950au pan oedd ffermio a phlismona yn cael eu hymarfer yn wahanol. Gall pob un ohonom gytuno bod y ddwy alwedigaeth wedi esblygu ers hynny ac nad yw'r ddeddf yn adlewyrchu arferion modern. Er enghraifft yn 2021, nid yw'r Ddeddf yn caniatáu i'r heddlu gael gafael ar DNA, nid yw'n caniatáu i ni erlyn perchnogion cŵn sydd wedi ymosod ar Alpacaod a Lamaod, nid yw'n caniatáu i ni erlyn os digwyddodd yr ymosodiad ar dir sydd ddim yn dir amaethyddol, nid oes gennym yr opsiwn o orchmynion gwahardd. Os yw ci yn destun gorchymyn rheoli neu ddinistrio yn y llys, nid oes gan Ddeddf 1953 unrhyw bwerau i'r llys gyfeirio atynt a'u defnyddio. Rhaid i'r llys hefyd fenthyg deddfau o hen weithred sifil Fictoraidd sef Deddf Cŵn 1871, a gall hyn achosi dryswch i'r Heddlu a'r llys fel ei gilydd,” meddai.

Yn ei gyflwyniad tynnodd PC Dave Allen sylw at rai ystadegau dirdynnol. Cofnodwyd 449 achos o boeni da byw rhwng 1 Medi 2013 a 31 Awst 2017; cofnodwyd 648 achos o ladd da byw, anafwyd 376.52 o dda byw a arweiniodd at saethu'r ci a oedd yn troseddu. Mewn 89% o'r achosion o boeni da byw a gofnodwyd, nid oedd perchennog y ci yn bresennol ac roedd 5% o'r achosion a gofnodwyd yn cael eu cyflawni gan berchnogion/cerddwyr a oedd yn troseddu dro ar ôl tro.

“Mae yna 3 math o ymosodiad ar dda byw - y dihangwr, y ci sydd oddi-ar ei dennyn, y ci sydd ddim o dan reolaeth agos, ond 99% o’r amser perchnogion cŵn anghyfrifol sydd ar fai nid y ci,” meddai PC Allen.

“Gall y canlyniadau i’r ffermwr fod yn erchyll, gall effeithio ar golli llinell waed, effeithio ar stoc y flwyddyn nesaf yn enwedig pan fydd defaid yn cario ŵyn bach neu yn ŵyna; gall y straen achosi dafad i erthylu, a hynny’n aml iawn ddyddiau lawer ar ôl yr ymosodiad, ond fel heddwas yn system y llysoedd mae'n rhaid i ni weithio gyda'r senario tu hwnt i unrhyw amheuaeth resymol. Sut allwn ni brofi i lys bod y ddafad wedi colli ei oen 7 diwrnod yn ddiweddarach oherwydd ymosodiad gan gi. Ni allwn,” ychwanegodd.

Gan amlinellu problemau a chyfyngiadau'r Ddeddf, ychwanegodd PC Allen mai dim ond stoc gyfyngedig sy'n cael eu cynnwys o dan y ddeddf hon, gan fod Alpacaod, Lamaod a Chwningod sy'n cael eu ffermio'n fasnachol yn rhai enghreifftiau o dda byw sydd ddim yn cael eu cynnwys.  Hefyd, ni all unrhyw berson a gafwyd yn euog o dan y ddeddf hon fod yn destun gorchymyn gwahardd i gadw ci a bydd y llys ond yn cyhoeddi gwarant i fynd i mewn i eiddo er mwyn adnabod ci ac nid i’w feddiannu. Nid oes gan awdurdodau lleol unrhyw bŵer i erlyn o dan y ddeddf hon ac nid oes gan y Ddeddf unrhyw bwerau dedfrydu ac mae'n rhaid iddynt fenthyg pwerau o Ddeddf Cŵn 1871.

Felly mae adroddiad Gweithgor Poeni Da Byw'r Heddlu a roddwyd gerbron y Senedd yn gofyn am newid diffiniadau a symud i ffwrdd o anifeiliaid rhestredig i ddull cyfunol, ehangu'r diffiniad o dir amaethyddol a diffinio beth mae ci “dan reolaeth agos” yn ei olygu i osgoi dryswch.

“O ran pwerau, mae’r adroddiad yn galw am bŵer chwilio a meddiannu i’r heddlu, y pŵer i gael sampl DNA o gi o dan amheuaeth, i’r Swyddfa Gartref wneud y drosedd yn gofnodadwy gan yr heddlu i gael y ffeithiau llawn ac annog hyfforddiant ac i achosion gael eu clywed yn llys y goron ac adolygiad o iawndal a dirwyon. Ac ar ben hynny, hoffem weld rhwymedigaeth gyfreithiol bod perchnogion cŵn yn gorfod riportio ymosodiadau i’r heddlu,” ychwanegodd PC Allen.

“Rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu ers tua 5 mlynedd i gael newid yn Neddf 1953 ac rydyn ni wedi gwneud cynnydd da. Rwy'n obeithiol y bydd newid sylweddol yn digwydd. Mae ar y cam ymgynghori ond rydyn ni'n obeithiol y byddwn ni'n gweld newidiadau eleni,” meddai Rob Taylor.

Gan dynnu sylw at y modd y mae Tîm Troseddau Gwledig Gogledd Cymru yn defnyddio technoleg i ymladd troseddau gwledig a chasglu tystiolaeth o ymosodiadau da byw, dywedodd Mr Taylor fod 10 fferm yn Nyfed-Powys ac wyth yng Ngogledd Cymru bellach wedi cael camerâu bywyd gwyllt. Cyn bo hir bydd lluniau o'r camerâu yn cael eu darlledu'n fyw ar-lein, gan ganiatáu i bobl weld yr amddiffyniad maent yn ei ddarparu.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, sydd wedi gosod cyfeiriad strategol i’r heddlu ddarparu cefnogaeth wledig debyg i’r hyn a sefydlwyd yng Ngogledd Cymru, wrth y mynychwyr: “Y cam nesaf yn y broses honno, yw ein bod yn creu adnodd ledled Cymru gyfan gyda thîm ymroddedig. Rydym eisoes yn sgwrsio â Llywodraeth Cymru, i geisio eu cefnogaeth a gobeithio rhywfaint o gefnogaeth ariannol hefyd i gael rhywun a all gydlynu'r holl weithgaredd hwnnw ar draws pob un o'r 4 heddlu yng Nghymru. Wrth ddysgu’r gwersi o Ogledd Cymru a phrofiadau Dyfed-Powys dros y 4-5 mlynedd diwethaf, mae llawer o lobïo i’w wneud gan bob un ohonom fel ein bod yn gweld newid yn y gyfraith, a hynny’n gyflym.”

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Dirprwy Lywydd UAC, Ian Rickman: “Bydd y rhai sydd wedi profi a gweld digwyddiadau o’r fath yn rhy gyfarwydd â’r straen a’r torcalon sy’n dilyn a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein heddluoedd i gael newid yn y gyfraith. Y peth pwysicaf y gall unrhyw ffermwr ei wneud i helpu i gyflymu'r broses yw riportio ymosodiadau da byw i'r heddlu. ”

Ychwanegodd Clare James, Cadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru: “Diolch i UAC am gynnwys CFfI mewn cyfarfod a oedd yn addysgiadol ac yn ddiddorol Mae cŵn yn poeni da byw yn amlwg iawn ar agenda Pwyllgor Materion Gwledig CFfI Cymru, gyda'r aelodau wedi teimlo effeithiau ymosodiadau cŵn yn uniongyrchol ar eu ffermydd. Rydym wedi ymrwymo i gyfrannu at fynd i’r afael â’r mater ac edrychwn ymlaen at weithio ymhellach gyda UAC a thimau Troseddau Gwledig yr Heddlu ledled Cymru.”

Diwedd