Cyngor ar sut i leihau'r risg o ddwyn cŵn

Mae dwyn cŵn yn peri gofid mawr i'r perchennog a'r anifail anwes. I geisio lleihau'r risg o hyn yn digwydd dilynwch y canllawiau a chadwch eich ci yn ddiogel.

Cynghorion da

Ceisiwch osgoi gadael cŵn yn yr ardd neu y tu allan i'r cenelau os nad ydych gartref.

Meddyliwch ddwywaith cyn gadael eich ci ar ei ben ei hun, wedi ei glymu y tu allan i siop neu unrhyw leoliad arall.

Sicrhewch fod gwybodaeth microsglodyn eich ci yn gyfredol.

Cadwch lun cyfredol o'ch ci.

Amddiffyn eich ci rhag cael ei ddwyn:

  • Ceisiwch osgoi gadael cŵn yn yr ardd neu y tu allan i gynelau pan nad ydych gartref.
  • Sicrhewch fod gatiau cefn yr ardd gefn wedi'u cloi ar y top a'r gwaelod gyda chlo pwrpasol.
  • Ystyriwch osod cloch neu larwm ar y giât hefyd. Gwnewch yr un peth ag unrhyw gynelau sydd tu allan.
  • Sicrhewch fod ffin yr ardd (ffens, clawdd ac ati) yn ddiogel fel na all unrhyw un gael mynediad a mynd a’ch ci, neu na all eich ci fynd allan ar ei ben ei hun.
  • Cadwch olwg ar eich ci yn yr ardd, peidiwch â'i adael y tu allan heb oruchwyliaeth.
  • Ystyriwch larymau ar gyfer y llwybr sy'n arwain at eich tŷ i'ch rhybuddio o ymwelwyr, neu defnyddiwch systemau teledu cylch cyfyng/larwm wedi'u monitro ar ardaloedd o amgylch unrhyw gynelau y tu allan. Bydd y rhain yn eich rhybuddio os oes unrhyw un yn agos.
  • Peidiwch byth â gadael eich ci ar ei ben ei hun, wedi ei glymu y tu allan i siop. Mae hyn yn darged perffaith i ladron manteisgar.
  • Ceisiwch osgoi gadael cŵn mewn ceir ar ben eu hunain a pheidiwch byth â gadael ci mewn car ar ddiwrnod cynnes/poeth.
  • Dylai eich ci gael microsglodyn a'i gofrestru gyda gwybodaeth gyfredol. Defnyddiwch goler a thag ci sy'n arddangos manylion cyswllt (peidiwch â rhoi enw eich ci ar y tag, defnyddiwch eich cyfenw).
  • Tynnwch ddigon o luniau da a chlir o'ch anifail anwes fel y gellir ei adnabod yn hawdd. Tynnwch luniau o'ch ci o onglau amrywiol, a'u diweddaru'n rheolaidd (hy cotiau wedi cael eu brwsio a heb gael eu brwsio'n ddiweddar). Gwnewch nodyn o unrhyw nodweddion gwahaniaethol. Hefyd tynnwch digon o luniau ohonoch chi gyda'ch ci, i'ch helpu i brofi perchnogaeth os oes angen.
  • Dysgwch eich ci i ddod yn ôl pan gaiff ei alw a pheidiwch byth â'i adael oddi ar y tennyn os nad ydych yn siŵr y bydd yn dod yn ôl atoch. Os ydych yn ansicr, defnyddiwch dennyn estynedig, yn enwedig os ydych mewn ardal anghyfarwydd lle gallai eich ci fynd ar goll yn hawdd.
  • Byddwch yn ymwybodol o'r holl gerbydau neu bobl amheus a ffoniwch 101. Gofynnwch i'ch cymdogion wneud yr un peth. Mae sawl adroddiad bod cŵn yn cael eu galw tra bod rhywun yn tynnu sylw'r perchennog ac yna lladron yn ceisio mynd â'r cŵn. Peidiwch â phrynu unrhyw gŵn o'r cyfryngau cymdeithasol nac oddi wrth berson sydd ddim yn medru darparu dogfennaeth briodol (perchnogaeth, papurau pedigri ac ati). Mae hyn yn cynyddu'r galw am anifeiliaid anwes wedi'u dwyn.

Rhowch wybod i'r heddlu ar 101 neu Safonau Masnach am unrhyw werthiannau cŵn amheus.

Hefyd:

Peidiwch â rhoi manylion eich anifeiliaid anwes, eich lleoliad na'ch lleoliadau cerdded ar eich cyfryngau cymdeithasol.

Cymerwch ofal wrth ddewis rhywun i ofalu am eich ci os ydych chi'n mynd oddi cartref neu angen rhywun i gerdded cŵn tra bod chi yn y gwaith.  Defnyddiwch gwmni parchus neu gynelau, a ewch drwy dystlythyrau ar gyfer pobl sy'n darparu gwasanaethau gofalu ar ôl cŵn yn fanwl.

Os ydych chi'n bridio cŵn bach at y diben o'u gwerthu, cymerwch fanylion unrhyw un rydych chi'n gwahodd i'w gweld cyn iddynt gyrraedd.

Mae'n syniad da bod yna ddau berson yn bresennol tra bod rhywun yn dod i edrych ar gŵn bach, a chyfyngwch y nifer y bobl rydych chi'n caniatáu ar y tro. Dangoswch y cŵn bach mewn un ardal ddiogel, a cyfyngwch y mynediad i rannau eraill o'ch tŷ neu'ch eiddo.

Sut i ddiogelu eich ci wrth fynd allan i gerdded:

  • Byddwch yn ymwybodol os yw dieithriaid yn gofyn cwestiynau i chi am eich ci.
  • Amrywiwch eich amseroedd cerdded a'r llwybrau; er mwyn osgoi cŵn yn cael eu targedu yn ystod teithiau cerdded.

Os yw eich ci yn cael ei ddwyn:

Os yw eich ci ar goll neu os amheuir ei fod wedi'i ddwyn, mae'n bwysig gweithredu'n gyflym. Ffoniwch 101 os yw ci ar goll/wedi'i ddwyn, felly os deuir o hyd iddynt gellir eu haduno â'u perchnogion. Ar ôl rhoi gwybod i'r heddlu, dywedwch wrth eich awdurdod lleol a phob awdurdod lleol cyfagos hefyd.

Os ydych chi'n credu bod eich anifail anwes wedi'i ddwyn, ffoniwch yr heddlu a gofynnwch iddo gael ei gofnodi fel lladrad ac nid anifail coll a nodwch y cyfeirnod trosedd a ddarperir. Hysbyswch ddarparwr y gronfa ddata microsglodyn a hefyd ystyriwch ddweud wrth doglost.co.uk neu'r dudalen Facebook. Maent yn cydlynu lladradau ar gyfer pob sir ac yn cynnig cyngor ac yn cefnogi eu tudalen Facebook.

Ymwelwch â lleoedd lle mae cerddwyr cŵn yn mynd fel parciau lleol a lleoedd cyhoeddus a siaradwch â phobl, gan ofyn iddynt gadw llygad am eich ci. Gwnewch bosteri a'u harddangos mewn ardaloedd sy'n lleol i'ch cartref a hefyd mewn lleoedd perthnasol fel milfeddygon, parciau lleol ac ati. Dylai'r poster gynnwys ffotograff clir a manylion yr amgylchiadau.

Sicrhewch fod milfeddygon lleol yn ymwybodol rhag ofn bydd rhywun yn mynd â'ch ci mewn i gael triniaeth.

Rhowch wybod am y golled ar gynifer o wefannau anifeiliaid coll â phosibl - nid oes un gronfa ddata anifeiliaid ar goll cenedlaethol, felly bydd yn rhaid i chi roi'r un wybodaeth ar bob un ohonynt i sicrhau apêl eang.

Cysylltwch a llochesi anifeiliaid lleol ac elusennau achub ac anfonwch bosteri atynt i'w harddangos.