Wythnos Brecwast Ffermdy UAC gwahanol ar gyfer 2021

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) unwaith eto yn paratoi ar gyfer un o’i ddigwyddiadau allweddol - yr wythnos frecwast ffermdy blynyddol, a fydd yn cael ei chynnal o ddydd Llun 18 i ddydd Sul 24 Ionawr 2021.

O dan amgylchiadau arferol byddai UAC yn edrych ymlaen at eistedd o amgylch byrddau cegin gyda ffrindiau, teulu a chymdogion ledled y wlad - gan rannu ein syniadau, pryderon, ac unrhyw beth arall sydd ar ein meddwl. Wrth gwrs, o ystyried y cyfyngiadau Covid-19 cyfredol, yn anffodus, nid yw ein ffordd arferol o gynnal yr ymgyrch hon yn ddewis.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae'r ethos o eistedd o amgylch bwrdd y gegin i fwynhau'r cynnyrch gwych mae ein ffermwyr yn ei gynhyrchu, o wyau, caws, bacwn, selsig i fenyn ac iogyrtiau ac ati, yn bosib gartref gyda'n teulu agosaf.”

Mae'r Undeb felly'n annog y cyhoedd i gymryd rhan yn yr wythnos frecwast trwy brynu cynhwysion brecwast o ffynonellau lleol, a rhannu lluniau a fideos ohonyn nhw eu hunain â'u brecwast trwy'r cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio'r hashnod #wythnosbrecwast2021

“Rydym wedi ymuno â chigyddion, siopau fferm, caffis a manwerthwyr bwyd Cymreig ledled Cymru i helpu lledaenu’r gair am y cynnyrch gwych sydd ar gael ar garreg ein drws. Rydyn ni'n gobeithio y bydd llawer ohonoch chi'n cefnogi'r ymgyrch hon ac yn cymryd amser i fwynhau'r brecwast hyfryd sydd wedi'i dyfu'n gynaliadwy yma yng Nghymru."

Mae'r ymgyrch hefyd yn gobeithio codi arian hanfodol ar gyfer y DPJ Foundation trwy ofyn i gwsmeriaid roi rhodd fach wrth brynu’r cynnyrch brecwast. Os ydych chi am roi rhodd uniongyrchol, gallwch wneud hynny yma:

https://www.justgiving.com/fundraising/fuw-breakfast-week

Manylion y busnesau sy’n cymryd rhan:

Ynys Môn:

  • Hootons Homegrown, Gwydryn Hir, Brynsiencyn, Ynys Môn.  LL61 6SJ
  • Glandŵr Butchers, Amlwch Road, Benllech, Ynys Môn. LL74 8TD
  • Llechwedd Meats, Parc Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7JA
  • Valley Butchers, Anglesey Fine Foods, Station Road, Valley, Ynys Môn. LL65 3EB

Brycheiniog a Sir Faesyfed:

  • Bob the Butcher Wales Ltd, West St, Rhayader LD6 5AB
  • Morgans Butchers, 12 High St, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3DN
  • Morgan Butchers, 103 The Struet, Aberhonddu LD3 7LT
  • PF Sweeney, 9-12 Market St, Aberhonddu LD3 9DA
  • WJ George Ltd, Cross House, High St, Talgarth, Aberhonddu LD3 0PD

Caernarfon:

  • K E Taylor Daughter & Son, Cricieth – 01766 523112 - ar FaceBook
  • John Williams & Son, Llanfairfechan – 01248 680715 - ar FaceBook
  • Edwards of Conwy, Conwy – 01492 592443 - ar FaceBook
  • Caffi Gerlan, Groeslon – 01286 831188 - ar FaceBook
  • O G Owen, Caernarfon – 01286 672146 - ar FaceBook
  • O E Metcalfe Butchers, Llanrwst – 01492 641755 - ar FaceBook
  • L Williams, Edern – 01758 720227
  • Oinc Oink, Llithfaen – 07879 844799 - ar FaceBook
  • Wavells Butchers Ltd, Llanrug – 01286 673574 – ar FaceBook
  • T J Parry-Jones & Daughters, Trefriw – 01492 640110 – gwefan tjparryjones.co.uk
  • Cig Ceirion, Waterloo House, Sarn, Pwllheli – 07771634584 – ar FaceBook

Caerfyrddin:

  • Albert Rees, Unit ,  6 The  Market , Caerfyrddin
  • Deri Page Family Butchers, Pentre Road, St Clears, Caerfyrddin
  • Eynons of St. Clears, Deganway, Pentre Road,  St. Clears, 
  • Colin Harries butchers, London House, St John Street, Hendy-gwyn
  • Richies Meat, 8 Farmers Row, Llanelli
  • Williams Butchers Ltd, 54 Bridge Street, Llangennech, Llanelli
  • GH Watkins Butchers, 10 Heol y Neuadd, Tymbl
  • Dewi Roberts Family Butcher, 16 Towy terrace, Ffairfach, Llandeilo
  • Cooper the Butchers, 4 Carmarthen Street Llandeilo
  • Matthew Butchers, 6 Stone Street, Llanymddyfri
  • Martin the Butcher, 21 Quay Street, Rhydaman
  • Cig y Cennen, 5 High Street, Llandybie
  • Mortons Fine Foods, Quality Family Butchers & Butchery, 5 Carmarthen Road, Cross Hands, Llanelli
  • Castell Howell, Cross Hands Business,  Cross Hands Food Park, Cross Hands, Llanelli SA14 6SX,  
  • Castell Howell Cash and Carry, Myrtle Hill, Caerfyrddin,SA31 2NG 
  • Little MZZ, Mart, Llanybydder, SA40 9UE
  • Llandovery Mart, also Market Restaurant Brecon, Brecon Market Hall, LD3 9DA, Maureen Prosser, 07813 435022
  • Llandeilo Mart Caterers, Llandeilo Mart, 104 Margaret street, Rhydaman. SA18 2NN
  • Whitland Caterers at Whitland Mart, 4 Picton Place, Hwlffordd, SA61 2LX

Ceredigion:

  • Cigydd Bow Street, Pendre, Bow Street, Aberystwyth, Ceredigion, SY24 5BQ -
  • Dewi James, 38 High Street, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1HE 
  • Rattray Butcher, 8 Chalybeate Street, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1HS
  • Cigydd Evans Butcher Tregaron, Castle House, The Square, Tregaron, Ceredigion, SY25 6JL 
  • Pentre Shop, Main Street, Llanon, Ceredigion, SY23 5LW.

Morgannwg:

  • Carno Dairies (cysylltu trwy’r dudalen Facebook)
  • Farmers Pantry (www.farmerspantry.shop)
  • Cyw Hapus Free Range Eggs (cysylltu trwy’r dudalen Facebook)

Gwent:

  • M.T Cashell & Sons, 53 Jubilee House, High st, Crug Hywel, NP8 1BH 01873-810405.
  • Beavan Family Butchers, 31a Hillcrest Road, Y Fenni , NP7 6BN. 01873-854668.
  • Wayne Grist Butchers, 21 Market Street, Glynebwy, Gwent, NP23 6HL

Merionnydd:

  • Aberdyfi Butchers, 3 Copperhill Street, Aberdyfi
  • Cigydd Y Bala Butchers Stryd Fawr Y Bala
  • London House Stores Dyffryn Ardudwy   
  • Prysor Service Station, Trawsfynydd   
  • Roberts Bros,Butchers 2 Eldon Row, Dolgellau
  • Siop Y Garreg Llanfrothen
  • T J Roberts & Son Tryweryn House Y Bala  

Sir Benfro:

  • Prendergast Butchers, Bryn Capel, Prendergast, Hwlffordd, SA61 2PF
  •  Fred Hughes Butchers, 37 Dew Street, Hwlffordd, SA61 1ST
  •  Jon James & Son Family Butcher, 64 Portfield, Hwlffordd, SA61 1BB
  •  Gate to Plate Farm Shop, Mayfield Golf Centre, Lower Freystrop, Hwlffordd, SA62 4ET
  •  Andrew Rees & Sons Ltd, 29 High Street, Arberth, SA67 7AS
  •  J O Griffiths & Sons, 23 High Street, Arberth, SA67 7AR
  •  Cig Lodor Carla’s Farm Shop, Lodor Fach, Maenclochog, Clynderwen, SA66 7RD
  •  Ken Davies Butchers, London House, High Street, Crymych, SA41 3QE
  •  T G Davies & Sons, Waltham House, Market Street, Newport, SA42 0PH
  •  Gwaun Valley Meats, 3 St David’s Road, Letterston, Hwlffordd, SA62 5SF
  •  Gwyn Davies & Sons Ltd, 2 High Street, St David’s Hwlffordd, SA62 6SD
  •  J Blockwell & Son, 7 Priory Street, Aberdaugleddau, SA73 2AD
  •  D J Etherington, 200 Robert Street, Aberdaugleddau, SA73 2HT
  •  Justin’s Joint, 65 Queen Street, Doc Penfro, SA72 6JF
  •  M C & V A Mott, 56 Main Street, Penfro, SA71 4NP
  •  Heywoods of Saundersfoot, 1-2 Milford Street, Llanusyllt, SA69 9EP
  •  The Copper Hog, Ashley House, 18 High Street, Dinbych-y-pysgod, SA70 7HD
  •  Brauns Butchers, Old Market Hall, High Street, Dinbych-y-pysgod, SA70 7EU