FUW yn annog cymunedau gwledig i fynd allan i gerdded er mwyn curo melan mis Ionawr a helpu i godi arian ar gyfer y DPJ Foundation

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn cymryd rhan yn un o’r heriau cerdded mwyaf eto, wrth ymuno gyda phum gwlad sy’n ymuno a'i gilydd i ysbrydoli cymunedau gwledig i fynd allan i gefn gwlad er mwyn gwella eu hiechyd meddwl.

Mae’r her, #Run1000, yn galw ar bobl i gofrestru i fod yn rhan o un o bum tîm - Lloegr, Iwerddon, yr Alban, Cymru a gweddill y byd. Bydd y gystadleuaeth, sy’n cael ei chynnal rhwng 1 Ionawr a 31 Ionawr, 2021 yn gweld pob tîm yn rhedeg neu'n cerdded 1,000 o filltiroedd, gyda'r wlad sy'n cyrraedd y garreg filltir gyntaf yn ennill.  Y syniad yw bod unigolion yn cofrestru a chyfrannu cymaint o filltiroedd ag y gallant yn ystod mis Ionawr, p'un a yw hynny'n 1 neu'n 100.

Bydd capten tîm yn arwain pob gwlad, a bydd grŵp Strava preifat yn recordio'r pellter rhedeg/cerdded ar y cyd - capten tîm Cymru yw Emma Picton-Jones o’r DPJ Foundation.

Yn ogystal â helpu iechyd meddwl personol, bydd y fenter yn codi ymwybyddiaeth ac arian i elusennau sydd wedi cael eu heffeithio yn sgil methu cynnal digwyddiadau codi arian yn 2020.  Bydd y ffi ymuno o £20 yn cael ei rhannu'n gyfartal rhwng pum elusen, a ddewisir gan gapteiniaid y timau - The Farming Community, Embrace Farm, The Do More Agriculture Foundation, RSABI a DPJ Foundation.

Dywedodd Llywydd FUW Glyn Roberts: “Gan mae DPJ Foundation yw ein helusen gyfredol, rydym am helpu Cymru i ennill y ras hon, ac wrth gwrs codi arian ar gyfer yr elusen hynod bwysig hon, curo melan mis Ionawr a meddwl am ein hiechyd meddwl ni.

“Mae hon yn ffordd wych o wneud ymarfer corff yn ddyddiol ac mae aelodau staff eisoes wedi ymuno. Rydyn ni nawr yn annog eraill yn ein cymunedau gwledig i ymuno â'r achos teilwng hwn, gyda chyfyngiadau Covid-19 yn caniatáu. ”

Dyma sut i gymryd rhan:

Mae angen i chi gyfrannu £20 trwy dudalen JustGiving y digwyddiad:

https://www.justgiving.com/fundraising/run1000teamwales

Bydd hyn yn cynhyrchu'r ddolen Strava yn y nodyn diolch er mwyn i chi ymuno â'r grŵp. RHAID i chi fod yn rhan o glwb Strava er mwyn sicrhau bod eich milltiroedd yn cyfrif! A dyna ni, byddwch yn barod i gymryd rhan.