FUW yn amlinellu pwyntiau allweddol Cynhadledd Iechyd Meddwl i'r Gweinidog

 

Ar drothwy diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (dydd Gwener, Hydref 9) cynhaliodd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) gynhadledd rithwir Iechyd Meddwl Cymru Gyfan, a archwiliodd gyd-destun ehangach problemau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig a pha gamau y mae'n rhaid i'r Llywodraeth, y penderfynwr a’r llunwyr polisi eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa, yn enwedig gan fod Covid-19 yn debygol o roi pwysau pellach, nid yn unig ar iechyd meddwl pobl ond hefyd ar eu cyllid.

Cadeiriwyd sesiwn y bore gan Abi Kay, Prif Ohebydd y Farmers Guardian, a bu Sara Lloyd, Arweinydd Tîm, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol De Ceredigion; Cath Fallon, Pennaeth Cyfarwyddiaeth Menter ac Animeiddio Cymunedol, Cyngor Sir Fynwy, Lee Philips, Rheolwr Cymru, Gwasanaeth Arian a Phensiynau, John Forbes-Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Lles Meddwl, Cyngor Sir Ceredigion, Vicky Beers o’r Farming Community Network a Sam Taylor, ffermwyr o Ogledd Cymru sy’n gwirfoddoli gyda’r DPJ Foundation yn siarad.

Cafodd sesiwn y prynhawn ei gadeirio gan y cyflwynydd teledu adnabyddus Alun Elidyr, ac mi gymryd agwedd mwy ymarferol wrth glywed gan amrywiol elusennau iechyd meddwl ymroddedig sy'n cynnig cyngor ymarferol i'r rhai sy'n cefnogi rhywun annwyl sy'n mynd trwy faterion iechyd meddyliol yn ogystal â'r rhai sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl ar hyn o bryd.

Cefnogwyd y digwyddiad hefyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, a’r ffermwr a hyrwyddwr iechyd meddwl o Seland Newydd, Doug Avery, trwy neges fideo.

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Gwnaethom ymrwymiad yn Sioe Frenhinol Cymru 2017 i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i dorri’r stigma sy’n dal i atal ffermwyr rhag siarad am eu hiechyd meddwl a gofyn am yr help sydd angen arnynt ar frys. Yn anffodus mae'r ffigurau'n siarad cyfrolau, gydag 1 ffermwr yr wythnos yn marw trwy hunanladdiad a llawer mwy yn dioddef yn dawel.

“Hoffwn ddiolch i’r holl siaradwyr, y ddau gadeirydd, ac wrth gwrs y rhai ymunodd â ni am y diwrnod fel rhan o’r gynulleidfa, i gadw’r sgwrs hon yn fyw a sefydlu cynllun gweithredu o bethau y gellir eu gwneud ar lefel Llywodraeth Cymru i helpu'r rhai sy’n dioddef yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Mr Roberts fod yr FUW wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, Eluned Morgan, i amlinellu rhai o'r pwyntiau allweddol a godwyd yn ystod y gynhadledd.

“Un pwynt a gododd dro ar ôl tro yn ystod y digwyddiad oedd bod angen ystyried ffermwyr fel grŵp o bobl sydd â gofynion ac anghenion gwahanol o ran iechyd meddwl a lles.  Er mwyn symud ymlaen, mae angen rhoi strategaeth ar waith sy’n golygu nad yw ffermwyr sy’n gofyn am help gyda phroblemau iechyd meddwl drwy eu Meddyg Teulu yn cael eu trin yn y dull cyffredinol yn ôl y polisi presennol,” dywedodd Llywydd yr Undeb.

Mae’n werth nodi, ychwanegodd Mr Roberts, oherwydd union natur ffermio, sef swydd sy’n gofyn bod ffermwr wrth ei waith 365 diwrnod y flwyddyn, nad yw awgrymu cymryd ychydig o wythnosau i ffwrdd o’r gwaith yn gyngor buddiol, a’r  ail opsiwn i nifer o Feddygon Teulu yw dilyn hynny gyda meddyginiaeth, rhaid hefyd cydnabod nad dyna’r ateb i bob unigolyn. 

Pwysleisiodd y gynhadledd hefyd nad yw cael cymorth iechyd meddwl drwy Feddyg Teulu yn broses syml bob tro, ac yn aml gall cyfnod hir o amser fynd heibio cyn i’r unigolyn gael yr help sydd ei angen. 

“Rydym felly wedi gofyn i’r Gweinidog ystyried sefydlu mesurau, o fewn pob awdurdod lleol yng Nghymru, sy’n caniatáu mynediad uniongyrchol at wasanaethau iechyd meddwl, heb yr angen am gyfeiriad gan Feddyg Teulu,” dywedodd.

Hefyd, mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn gweithio gyda phartneriaid presennol i gael y cymorth iawn i galon ein holl gymunedau, bod map o’r gwasanaethau ar gael yn hwylus, a bod y gwasanaethau hynny ar gael yn ystod camau cynnar iechyd meddwl gwael, cyn bod yr unigolyn yn wynebu argyfwng.

Pwynt arall a godwyd yn ystod y gynhadledd oedd, serch bod systemau yn eu lle ar draws y GIG a bod nifer o sefydliadau elusennol yn helpu i ddelio â symptomau iechyd meddwl gwael, pur anaml y mae’r achosion sydd wrth wraidd y broblem yn cael sylw. 

“Fel y gwyddom, mae’r problemau ar ffermydd yn niferus, a gellir taclo rhai ohonynt drwy siarad amdanyn nhw, ond gydag eraill fodd bynnag, mae gofyn bod Llywodraeth Cymru’n ail-werthuso’i pholisïau amaethyddol, nawr ac yn y dyfodol - diferyn yn y môr yn unig yw cymorth ariannol i ffermwyr, TB gwartheg a rheoliadau ansawdd dŵr.  Byddwn felly yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud, fel nad yw polisïau amaethyddol newydd a phresennol yn parhau i gael effaith negyddol ar iechyd meddwl ein ffermwyr,”meddai Mr Roberts.