Bradychu’r cyhoedd a ffermwyr wrth wrthod amddiffyn safonau mewnforio bwyd

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi ymateb gyda dicter a siom bod Tŷ’r Cyffredin wedi gwrthod ymgorffori mesurau yn y gyfraith a fyddai’n amddiffyn defnyddwyr a chynhyrchwyr rhag mewnforion bwyd is-safonol.

Pleidleisiodd ASau o 332 pleidlais i 279 - gyda mwyafrif o 53 - i wrthod diwygiad i’r Bil Amaethyddol a fyddai wedi sicrhau y byddai’n rhaid i fwyd o dan unrhyw gytundeb fasnach yn y dyfodol fodloni rheolau lles anifeiliaid a diogelwch bwyd y DU.

Dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Mae’r Llywodraeth hon wedi aberthu ein diwydiant, gan roi rhwydd hynt i fwyd o ansawdd is ddod i'r wlad hon, yn hytrach na glynu at eu hymrwymiadau maniffesto.

“Credwn fod hyn yn gamgymeriad trychinebus o’u rhan nhw i wrthwynebu’r gwelliannau fel hyn, ac unwaith eto dim ond geiriau gwag yw eu haddewidion i ofalu am ein diwydiant ac amddiffyn defnyddwyr a chynhyrchwyr fel ei gilydd.”

Ychwanegodd Mr Roberts fod blocio’r gwelliant, a fyddai’n amddiffyn ffermwyr a defnyddwyr y DU rhag bwyd a gynhyrchir i safonau iechyd, lles ac amgylcheddol is, ar adeg pan mae pwysigrwydd diogelu’r cyflenwad bwyd ac iechyd y Genedl ar frig yr agenda, yn gwbl anghredadwy.

Hefyd, heb safonau mor gaeth wedi'u hymgorffori yn y gyfraith, mae siawns y gwelwn gynnydd mewn cystadleuaeth annheg a safonau is, tra hefyd yn bygwth cytundeb fasnach gyda'r UE neu gynyddu gwiriadau costus ar ffin yr UE.

“Mae’r bil hwn yn cael ei ystyried fel y darn pwysicaf o ddeddfwriaeth y DU mewn cysylltiad â bwyd a ffermio ers dros 70 mlynedd, ac mae’n dditiad trist o’r broses Brexit a’r rhai a wnaeth addewidion niferus ynghylch amddiffyn ein marchnadoedd a’n safonau ar ôl y Cyfnod Ymadael i ganiatáu gostwng y safonau cyfredol yn fwriadol a chychwyn y ‘ras i'r gwaelod',” meddai.

Ychwanegodd bod y Llywodraeth wedi gwneud ymrwymiad maniffesto i gynnal safonau sy'n amddiffyn lles ein hanifeiliaid, planhigion, yr amgylchedd a phobl mewn cytundebau masnach yn y dyfodol, ymrwymiad sydd wedi'i esgeuluso dro ar ôl tro.

“Hyd yn hyn maent wedi methu’r cyhoedd ac wedi mynd yn ôl ar eu gair, gan dorri eu hymrwymiad maniffesto. Pan wnaethon ni gwrdd â'r Gweinidog Masnach Ryngwladol Ranil Jayawardena ychydig wythnosau yn ôl, bu llawer o sôn am ymddiried yn y Llywodraeth i wneud y peth iawn - nid yw hyn wedi digwydd.

“Byddwn yn trafod hyn yn ein cyfarfod o Bwyllgor Da Byw, Gwlân a Marchnadoedd a Ffermio Mynydd a Thir Ymylol, gyda’r bwriad o gyhoeddi rhestr lawn o’r holl ASau sydd wedi bradychu eu hetholwyr trwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant hwn,” meddai Mr Roberts.