Cig Oen Cymru yn rhywbeth teuluol sydd angen cael ei warchod, meddai FUW

‘Mae Cig Oen Cymru PGI yn rhywbeth teuluol sydd angen cael ei warchod’ - dyna neges allweddol Undeb Amaethwyr Cymru wrth edrych ymlaen at Wythnos Caru Cig Oen (1-7 Medi).  Cafodd Wythnos Caru Cig Oen ei sefydlu yn 2015, gan y diweddar Rachel Lumley, ffarmwraig angerddol o Gymbria a ymgyrchodd bod angen rhoi sylw haeddiannol i gig oen.

Wrth siarad o’i fferm yng Ngogledd Cymru, dywedodd Llywydd yr Undeb, Glyn Roberts: “Mae Cig Oen Cymru yn rhywbeth i’r teulu cyfan, o’r dechrau i’r diwedd.  O ffermydd teuluol Cymru sy’n ei gynhyrchu, i’n cwsmeriaid sy’n mwynhau dod at ei gilydd o gwmpas y bwrdd i’w fwyta.  Ond mae’n rhaid i ni amddiffyn ein ffermydd teuluol os ydym am barhau i fwynhau’r bwyd cynaliadwy, maethlon gwych yma.”

Gyda thrafodaethau masnach a Brexit yn parhau, yn ogystal â pholisi a chynlluniau ffermio newydd ar y gorwel a allai arwain at ganlyniadau negyddol posibl i'r sector, pwysleisiodd Mr Roberts bod diogelu ffermydd teuluol Cymru er ein budd ni i gyd.

“Mae ein ffermwyr yn gwneud llawer mwy na chynhyrchu bwyd cynaliadwy o’r safon gorau i ni – maent yn gofalu am ein hamgylchedd, yn creu gwerth yn yr economi wledig, yn cadw ein treftadaeth a'n diwylliant yn fyw a chymaint mwy.  Mae hyn i gyd dan fygythiad a rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau y gall ein ffermydd teuluol barhau i gynhyrchu bwyd cynaliadwy, maethlon i ni i gyd ei fwynhau,” ychwanegodd.

Dywedodd Mr Roberts, bydd yr FUW yn parhau â’i chenhadaeth i hyrwyddo ac amddiffyn ffermydd teuluol Cymru, yn genedlaethol ac yn unigol i sicrhau bod ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy yng Nghymru.

“Bydd yr Undeb yn gwneud popeth o fewn ei gallu i ymdrin â’r materion gwleidyddol a allai fygwth ein sector amaethyddol, ond gofynnaf i’n cwsmeriaid am gefnogaeth hefyd.  Drwy brynu Cig Oen Cymru, rydych yn gwybod ei fod wedi’i gynhyrchu i’r safonau sydd heb eu hail yn y byd, bod modd ei olrhain yn ôl i’r fferm ac yn gyfeillgar i’r amgylchedd.  Trwy fwyta Cig Oen Cymru, rydych chi'n helpu i gynnal swyddi, cadw'r economi i fynd, diogelu ein treftadaeth, ein diwylliant a'n hiaith.