Archwilydd Cyffredinol yn datgelu pryderon hirdymor FUW am y Rhaglen Datblygu Gwledig

Mae adroddiad damniol ar raglen Datblygu Gwledig Cymru (RDP) gan Archwilio Cymru wedi amlygu pryderon hirdymor a godwyd dro ar ôl tro gan Undeb Amaethwyr Cymru (FUW).

Dywed adroddiad Archwilio Cymru ‘Sicrhau bod grantiau datblygu gwledig a ddyfarnwyd heb gystadleuaeth yn rhoi gwerth am arian’ a gyhoeddwyd ar Fehefin 30, nad oedd agweddau allweddol o ddylunio, gweithredu ac arolygiaeth cronfa Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru yn ddigon effeithiol i sicrhau y byddai £53 miliwn o grantiau yn sicrhau gwerth am arian, a bod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull o roi arian heb gystadleuaeth ac, mewn rhai achosion, heb gymryd unrhyw gamau arall i sicrhau y byddai'r prosiectau'n sicrhau gwerth am arian.

Dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Mae ffermwyr Cymru yn talu’r ganran uchaf o arian posib i mewn i gronfa Cynllun Datblygu Gwledig trwy broses o drosglwyddo o golofn i golofn, sy’n dod i gyfanswm o tua £40 miliwn y flwyddyn, tra bod ffermwyr yn y mwyafrif o wledydd a rhanbarthau’r UE yn talu cyfran fach iawn o’r ffigwr hwn.

“Pan gyhoeddwyd yn 2013 y byddai gan Gymru’r gyfradd trosglwyddo o golofn i golofn o 15% - yr uchaf yn yr UE - addawyd Cynllun Datblygu Gwledig i ni a fyddai’n sicrhau newid trawsnewidiol i’n diwydiant.

“Ar ôl talu cyfanswm o oddeutu £230 miliwn ers hynny, roedd ein diwydiant yn haeddu llawer gwell o’r Cynllun Datblygu Gwledig, a dylid wedi gweithredu yn sgil y pryderon ynglŷn â’r   Cynllun Datblygu Gwledig, pryderon yr ydym wedi codi tro ar ôl tro ers 2013.”

Ymhlith y rhain oedd y byddai'r penderfyniad yn 2013 i ddileu Pwyllgor Monitro'r Cynllun Datblygu Gwledig pwrpasol a chwmpasu’r gwaith o fewn Pwyllgor Monitro Rhaglen UE enfawr yn tanseilio archwilio a monitro'r Cynllun Datblygu Gwledig.

Codwyd pryderon tebyg mewn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn 2018, a oedd yn argymell y dylid gwella trefniadau archwilio ar gyfer rheoli a darparu’r Cynllun Datblygu Gwledig ac y dylid egluro a dogfennu trefniadau rheoli risg ar gyfer yr Cynllun Datblygu Gwledig.

Yn ystod camau ffurfiannol yr Cynllun Datblygu Gwledig cyfredol, gweithiodd FUW mewn partneriaeth ag NFU Cymru a sefydliadau ffermio eraill i gyflwyno Cynllun Datblygu Gwledig wedi'i dargedu gyda'r nod o greu diwydiant amaethyddol cynhyrchiol, proffidiol a blaengar trwy fonitro canlyniadau gweithredoedd ac ymyriadau yn ofalus er mwyn osgoi ail-fuddsoddi amhriodol.

“Rydym yn bendant o’r farn, roedd modd osgoi llawer o’r diffygion a nodwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol yn yr adroddiad diweddaraf hwn a chanfyddiadau blaenorol yn 2018 pe bai ein hargymhellion wedi cael sylw.

“Rydyn ni nawr yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r amser sy’n weddill o’r Cynllun Datblygu Gwledig i weithredu er mwyn adfer hyder a chael arian allan i fusnesau gwledig, gan gynnwys drwy’r rhanddirymiadau sydd wedi’u cyflwyno oherwydd y pandemig coronafirws,” ychwanegodd Mr Roberts.