Ffermwr bîff a defaid o Ogledd Cymru yn cael ei ail ethol yn unfrydol fel Llywydd UAC

Mae’r ffermwr bîff a defaid o Ogledd Cymru, Glyn Roberts, wedi cael ei ailethol yn unfrydol fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru mewn cyfarfod rhithwir diweddar o Gyngor yr Undeb.

Daeth Glyn Roberts yn Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru gyntaf yn 2015. Ers hynny mae wedi helpu i sicrhau #CyllidFfermioTeg i ffermwyr yng Nghymru; wedi canolbwyntio ar bwysigrwydd amaethyddiaeth mewn cymunedau gwledig ac ar y Gymraeg; ac mae wedi hyrwyddo #AmaethAmByth ar raddfa genedlaethol.

Wrth siarad am ei ailbenodiad, dywedodd Glyn Roberts: “Mae’n anrhydedd ac yn fraint cael gwasanaethu fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru a diolchaf i’n haelodau am ymddiried ynof am dymor arall.

“Mae’n gyfnod ansicr iawn i'n diwydiant. Mae ein sector yn delio ag ôl-effeithiau'r Coronafirws, mae Brexit a’n perthynas â'r UE yn y dyfodol yn parhau i fod yn ansicr ac mae yna lawer o faterion ffermio eraill, megis rheoliadau dŵr, polisïau fferm y dyfodol a TB, sydd angen sylw a’i datrys dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

“Wrth symud yr Undeb hon ymlaen, rydym am barhau i hyrwyddo ac amddiffyn ffermydd teuluol Cymru, yn genedlaethol ac yn unigol, er mwyn diogelu ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy yma yng Nghymru, a dyna’n gweledigaeth bob amser - a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein ffermwyr i ffermio.”

Cyn cael ei ethol yn Llywydd UAC, roedd gan Glyn rolau blaenllaw o fewn a thu allan i'r sefydliad gan gynnwys gwasanaethu fel cyfarwyddwr anweithredol ar fwrdd Hybu Cig Cymru trwy benodiad Llywodraeth Cynulliad Cymru; fel Is-lywydd UAC am wyth mlynedd (2004-2011); ar bwyllgor cyllid a threfn UAC (2003-2004) ac fel cadeirydd cangen Sir Gaernarfon UAC (1999-2002).

“Mae parhau i gynhyrchu bwyd yn golygu bod yn rhaid i ni gael yr offer cywir: yn wleidyddol, yn economaidd ac yn amgylcheddol wrth gwrs. Yn ystod y tymor nesaf, byddaf yn gweithio'n galed gyda'n tîm i sicrhau bod pob un o'r tri pheth hyn yn gweithredu yn y fath fodd fel y gallwn ddiogelu cynhyrchu bwyd, lles anifeiliaid, ein heconomi wledig ac wrth gwrs diogelu’r cyflenwad o fwyd.

“Mae hynny hefyd wrth gwrs yn golygu bod yn rhaid i ni fod yn flaengar, mabwysiadu gwahanol ffyrdd o weithio a manteisio ar y newidiadau mewn technoleg. Mae gan yr Undeb hon popeth o fewn ei gallu i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer ffermio ac edrychaf ymlaen at y tair blynedd nesaf fel ei Llywydd,” ychwanegodd Glyn Roberts.