Llywydd FUW yn annog ffermwyr sydd o dan bwysau i ‘Fod yn garedig â chi'ch hunan’

Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) Glyn Roberts, yn annog ffermwyr i fod yn garedig a’u hunain, gan fod llawer yn teimlo’r straen sy’n cael ei achosi gan y pandemig Coronafirws parhaus.

Mae'r alwad yn cyd-fynd ag Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (dydd Llun 18 - dydd Sul 24 Mai 2020), sy'n canolbwyntio ar garedigrwydd eleni.

Wrth siarad o’i fferm yng Ngogledd Cymru, dywedodd: “Rydym yng nghanol cyfnod anodd iawn i ni i gyd a gwn y bydd llawer yn ymddangos yn ddewr, er bod nhw’n poeni, teimlo’r straen ac yn pryderu am amryw o resymau.

“Rwy’n eich annog i fod yn garedig â chi'ch hunan - os ydych chi'n teimlo bod eich byd yn chwalu, os oes modd, siaradwch am y peth a cheisiwch beidio rhoi gormod o bwysau ar eich hunan. Ynghyd â'r corff, mae’r meddwl yn holl bwysig i ffermwyr. Ond hwn hefyd yw'r anoddaf i'w gynnal. Rhaid i ni wrando ar ein corff hefyd. Bydd yn dweud wrthych pryd y bydd angen i chi arafu a gofalu am eich hunan.

Y peth mwyaf effeithiol y gallwch chi ei wneud i helpu'ch hunan i gadw'r meddwl yn iach, yw siarad. Sôn am eich ymdrechion ac am yr hyn rydych chi'n ei deimlo. Mae dweud wrth rywun beth chi'n mynd drwyddo yn un o'r camau pwysicaf i chi gymryd - byddwch chi'n teimlo’r pwysau’n codi oddi ar eich ysgwyddau.

“Yn yr un modd, os byddwch chi'n sylwi ar aelod o'r teulu neu ffrind yn gweld pethau’n anodd - siaradwch â nhw. Rhowch alwad iddyn nhw, neu rhannwch goffi rhithwir.

“Un peth rydyn ni wedi’i weld ledled y byd, yw bod caredigrwydd yn drech - yn enwedig mewn amseroedd ansicr. Ac ynghanol yr ofn, mae ein cymuned, cefnogaeth a gobaith yn parhau o hyd. Mi ddaw eto haul ar fryn – fel arfer, mae enfys yn dilyn storm. Byddwch yn garedig â chi'ch hunan ac eraill a chofiwch - mae'n iawn i beidio bod yn iawn.”